Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan rooney » Gwe 11 Ebr 2008 11:35 pm

S.W. a ddywedodd:
Rooney, mae ffasiwn beth a niwtralaeth. Ti sydd ddim isio cydnabod ei fodolaeth. Gelli di addysgu plant am pob prif grefydd yn y byd gan hefyd pwysleisio hawl yr unigolyn i benderfynu ba ffydd, neu os am gael ffydd bydd y person am ei ddewis.


hybu pluralism yw hyn, nid yw hynny'n "niwtral"
pam dy fod yn mynnu gwthio pluralism ar blant pawb, gad i'r rhieni ddewis
dim problem gyda mwslemiaid eisiau ysgolion ffydd

tybed beth mae'r chwith ryddfrydol seciwlar sydd mor hoff o ddefnyddio Islam fel esgus i bashio Cristnogaeth yn gwneud o'r stori yma:
http://news.bbc.co.uk/1/hi/england/bristol/7324985.stm
"A council has withdrawn books for an anti-homophobia programme at two primary schools following an outcry from predominantly Muslim parents. "
"'Our child is coming home and talking about same-sex relationships, when we haven't even talked about heterosexual relationships with them yet.'

"In Islam homosexual relationships are not acceptable, as they are not in Christianity and many other religions, but the main issue is that they didn't bother to consult with parents. There was no option to withdraw the child."


Falle dyna pam fod pobl eisiau ysgolion ffydd? Gan mae'n gwarchod y plant bach rhag gael eu gorfodi i ddysgu am bethau felny. Indoctrination. Tynnu ffwrdd hawl rhieni.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan Duw » Sad 12 Ebr 2008 8:57 am

rooney a ddywedodd:Falle dyna pam fod pobl eisiau ysgolion ffydd? Gan mae'n gwarchod y plant bach rhag gael eu gorfodi i ddysgu am bethau felny. Indoctrination. Tynnu ffwrdd hawl rhieni.


Sorri, ychydig off-bwynt, ond Indoctrination? Mae dysgu ynghylch a phobl gwahanol yn peth da, nac ydy? Mae dysgu plant ynglyn a chrefyddau'r byd yn peth da? Pam fyddet yn gwrthod y cyfle i blant rhag ddysgu am drigolion y byd ehangach? Mae hwn yn gul iawn, ac fel rwyf wedi honni ar edefyn arall, yn sianeli plant mewn i feddwl mewn ffordd gul.

Nid yw dysgu am bobl a pherswad gwahanol yn mynd i wneud person yn hoyw, for goodness sake! Ti'n swnio fel rhyw stereoteip, "cofia, un o nhw yw e, di ni ddim yn siarad amdanyn nhw."

Unwaith eto Rooney ateb fy nghestiwn dwi wedi'i roi i ti sawl gwaith a dal heb gael ateb iddi:

"A fyddet yn dysgu dy blentyn i ddangos rhagfarn tuag at bobl hoyw. Hefyd beth byddai d'ymateb os oedd dy blentyn yn troi mas i fod yn hoyw?"
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan rooney » Sad 12 Ebr 2008 12:18 pm

Mae fyny i'r rhieni beth mae nhw'n deimlo sydd yn addas i'w ddysgu i'w plant am anfoesodeb rhywiol, ar amser mae'n siwtio nhw a'r plant. Mae gwthio propaganda pro-hoyw ar blant 5-10 oed mewn ysgol gynradd heb roi cyfle i'r rhieni gael dweud ar y mater yn gwbl warthus. Da iawn y rhieni mwslemaidd am wneud safiad. Ymddengys dy fod wrth dy fodd yn cyhuddo pobl grefyddol am "indoctrination" ond methu gweld mae dyma'n union sydd yn digwydd yn y sefyllfa yma.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan rooney » Sad 12 Ebr 2008 12:40 pm

Duw a ddywedodd: Pam fyddet yn gwrthod y cyfle i blant rhag ddysgu am drigolion y byd ehangach? Mae hwn yn gul iawn, ac fel rwyf wedi honni ar edefyn arall, yn sianeli plant mewn i feddwl mewn ffordd gul.


Fydde ti wirioneddol eisiau dysgu disgyblion ysgolion am y gwir, y holl wir a dim byd ond y gwir ynglyn a'r ffordd o fyw hoyw? Yna felly fyddai rhaid i ti rannu'r ystadegau yma. Rywsut nid wy'n meddwl mae darlun fel hyn fydde ti eisiau ei gyflwyno:-

http://www.freerepublic.com/focus/f-news/1502263/posts
http://www.traditioninaction.org/HotTop ... istcs.html

ayyb.

ac felly o ystyried y ffeithiau, mae gwthio'r syniad fod ffordd o fyw hoyw yn gyfatebol i ffordd o fyw heterorywiol a phriodas yn GELWYDD ac mae gwthio'r celwydd yma ar blant 5-10 oed yn INDOCTRINATION eithafol
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan Muralitharan » Sad 12 Ebr 2008 1:02 pm

Rooney,

Wyt ti wir yn deud dy fod yn credu pob un wan jac o'r ''ffeithiau'' rhyfeddol yna?!
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan rooney » Sad 12 Ebr 2008 1:15 pm

beth, wyt ti'n gwadu'r ymchwil? pam? ddim yn siwtio beth ti eisiau gredu?

ok, eglura i fi pam fod hoywon mwyaf "at risk" o gael HIV. Off a ti.
http://news.bbc.co.uk/1/hi/health/7318346.stm
http://news.bbc.co.uk/1/hi/health/6609023.stm

ac eglura i ni pam fod dynion hoyw yn cael eu banio rhag rhoi gwaed:-
http://news.bbc.co.uk/1/hi/health/7283541.stm

"The National Blood Service says clear evidence shows gay men have a greater chance of passing on HIV and other infections in donated blood. "
"To reduce the risk of contamination, the National Blood Service does not allow sexually active gay men to give blood."
"However, a spokesman for the National Blood Service said that the ban was in place "for good reason", and denied there were financial reasons for a ban.
We ask men who have had sex with men not to give blood because, as a group, they are known to be at an increased risk of acquiring HIV and a number of other sexually transmitted diseases, many of which are carried in the blood."

Yw y gwasanaeth rhoi gwaed yn wrth-hoyw? Fydde ti eisiau un o dy ffrinidau neu deulu dderbyn gwaed gan berson hoyw- bydd yn onest.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan Muralitharan » Sad 12 Ebr 2008 2:44 pm

Unwaith y byddi di wedi mynd ati i ateb y cwestiynau dwi wedi eu gofyn i ti dros yr wythnosau dwetha - yr wyt ti wedi gwrthod yn lan a'u hateb hyd yn hyn - yna fe wna i ymateb i'r ''ymchwil'' ''niwtral''!!!! hwn sydd cymaint wrth dy fodd di mae'n amlwg.
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan ceribethlem » Sad 12 Ebr 2008 2:59 pm

Rooney, cwestiwn multiple choice i ti (dim ond dewis un llythyren sydd angen gwneud - caiff ffwdanu am resymeg eto os wyt ti ishe):

Pa un o'r canlynol fydd y cyntaf i fynd i uffern?

A: Gwyddonydd esblygiadol
B: Anffyddiwr
C: Rhywun Islamig
D: Person hoyw
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan rooney » Sad 12 Ebr 2008 3:23 pm

Muralitharan a ddywedodd:Unwaith y byddi di wedi mynd ati i ateb y cwestiynau dwi wedi eu gofyn i ti dros yr wythnosau dwetha - yr wyt ti wedi gwrthod yn lan a'u hateb hyd yn hyn - yna fe wna i ymateb i'r ''ymchwil'' ''niwtral''!!!! hwn sydd cymaint wrth dy fodd di mae'n amlwg.


yw'r gwasanaeth rhoi gwaed yn wrth-hoyw? neu, yw nhw'n cydnabod y ffeithiau ac yn cymryd y mesurau i amddiffyn y cyhoedd rhag gwaed sydd gyda risg uchel o fod yn niweidiol i bawb?

pam fydde chi ddim eisiau rhannu'r ffeithiau yma gyda plant mewn ysgolion, ac yn hytrach peintio darlun ffals fod bywyd homo yn gyfartal a chyfatebol i fywyd hetero? mae'r gwaed yn siarad drosto'i hunan.

ewch a'ch propaganda celwyddog allan o'r ysgolion ac i ffwrdd o blant pobl eraill, plis.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan ceribethlem » Sad 12 Ebr 2008 3:32 pm

rooney a ddywedodd:
Muralitharan a ddywedodd:Unwaith y byddi di wedi mynd ati i ateb y cwestiynau dwi wedi eu gofyn i ti dros yr wythnosau dwetha - yr wyt ti wedi gwrthod yn lan a'u hateb hyd yn hyn - yna fe wna i ymateb i'r ''ymchwil'' ''niwtral''!!!! hwn sydd cymaint wrth dy fodd di mae'n amlwg.


yw'r gwasanaeth rhoi gwaed yn wrth-hoyw? neu, yw nhw'n cydnabod y ffeithiau ac yn cymryd y mesurau i amddiffyn y cyhoedd rhag gwaed sydd gyda risg uchel o fod yn niweidiol i bawb?

pam fydde chi ddim eisiau rhannu'r ffeithiau yma gyda plant mewn ysgolion, ac yn hytrach peintio darlun ffals fod bywyd homo yn gyfartal a chyfatebol i fywyd hetero? mae'r gwaed yn siarad drosto'i hunan.

ewch a'ch propaganda celwyddog allan o'r ysgolion ac i ffwrdd o blant pobl eraill, plis.

Dyw hwnna ddim yn ateb pwynt Muralitharan o gwbwl :rolio:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron