Tudalen 3 o 8

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:08 am
gan Duw
S.W. a ddywedodd:Daw'r bygythiad gan bobl hynny o unrhyw grefydd sy'n credu mewn gorfodi crefydd ar unigolion a gwrthod parchu hawl yr unigolyn i ddewis be mae'n ei gredu. Mae'r un peth a pobl twp sy'n beio crefydd am ryfel - dyn sy'n creu rhyfel, a dyn neith ddefnyddio crefydd fel esgus o bryd iw gilydd dros fynd i ryfel, nid crefydd ei hun sy'n gwneud hyn.

Dyma'r pwynt yn dyfe. Mae pawb yn gwybod fy safbwynt anffydd erbyn nawr, ac ni allaf gytuno mwy gyda'r mwyafrif o'r uchod. Mae oedolion yn defnyddio crefydd i siwtio'u hunain (boed nhw'n credu yn y ffydd neu'n ei ddefnyddio'n bwrpasol i dwyllo a goresgyn eraill). Yn anffodus, mae'r pobl hyn pob amser yn rhoi sbin arbennig ar eu hysgrythur er mwyn taclo'r crisis nesaf ar y gorwel. Fel bydd Islam yn codi a Christnogaeth yn colli tir, bydd y cryfder a'r "hawl" sy'n dod gyda bod mewn mwyafrif am y tro cyntaf, yn beth anodd i reoli. Rwyn siwr y welwn "brofion" yn digwydd dros y ffin mewn sawl degawd, er rho ganrif, a fydd y sefyllfa'n debyg yma?

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Maw 08 Ebr 2008 4:42 pm
gan S.W.
Duw a ddywedodd:

I fod yn onest dwi'n amau byddwn ni byth yn gweld mwyafrif Fwlsemaidd ym Mhrydain. Bydd gofyn shift anferthol mewn poblogaeth i hyn ddigwydd. Wrth gwrs mae llai a llai o bobl yn mynd i addoldai Cristnogol bellach ond os felly anffyddwyr bydd y mwyafrif a byddan nhw'n gyndyn o rhoi mwy o hawliau o Fwslemiaid, pan ddaw hynny byddwn i'n bersonol am ein gweld yn dod yn fwy goddefgar o pob crefydd a nid llai goddefgar o unrhyw grefydd (gobeithio bod hynny'n gwneud synnwyr). Dwi'n gwbod bod nifer sy'n erbyn unrhyw fath o grefydd ond mae'r sawl yma'r un mor ddrwg a pobl fel Rooney sy'n honi bod pobl nad ydynt yn credu yn y Beibl yn 'below contempt'. I fi, derbyn rhyddid yr unigolyn i ddewis crefydd neu beidio chael crefydd dylsai fod un o gonglfeini dinasyddiaeth unrhyw wlad waraidd.

Mae herion eisoes yn digwydd mewn ardaloedd yn Lloegr (ac o bosib yng Nghymru) ble ceir cymunedau Fwslemaidd yn datblygu (a nifer yn sefydledig iawn e.e. yn Gogledd Ddwyrain Lloegr mae cymuned o dras Yemeni wedi byw yno ers twf y diwydiannau trwm ar droad y 20fed ganrif) gyda trafodaethau am Cyfraith Sharia ayyb.

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Mer 09 Ebr 2008 8:41 am
gan Duw
Cytuno 90% - dylai fod gwledydd yn rhoi hawl i bawb i feddwl stwff eu hunain heb fod un ochr yn omosod ar y llall. Goddefgarwch yw'r ateb. Yn anffodus rydym wedi gweld gwledydd (unigolion mewn pwer) yn atal yr hawl i addoli, yn mynnu crefydd arbennig ar y trigolion. Mae addysg yn beth pwysig iawn - mae dysgu am ffydd pobl eraill yn peth pwysig iawn. Serch hynny, crredech ddim sawl plentyn sy'n cael eu cymryd allan o wersi Add Gref ysgol gynradd nawr oherwydd maent yn astudio "celwydd" (hynny yw Islam, Iddewiaeth ayyb).
Hefyd, faint o Ysgolion Islamaidd a fydd yn dysgu am Gristnogaeth, Hindwiaeth, Siciaeth? Yn hytrach na chroesawu cymdogion o wahanol ffydd, a ydym yn gwynebu dyfodol "siege mentality"?

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Mer 09 Ebr 2008 2:00 pm
gan S.W.
Duw a ddywedodd:Cytuno 90% - dylai fod gwledydd yn rhoi hawl i bawb i feddwl stwff eu hunain heb fod un ochr yn omosod ar y llall. Goddefgarwch yw'r ateb. Yn anffodus rydym wedi gweld gwledydd (unigolion mewn pwer) yn atal yr hawl i addoli, yn mynnu crefydd arbennig ar y trigolion. Mae addysg yn beth pwysig iawn - mae dysgu am ffydd pobl eraill yn peth pwysig iawn. Serch hynny, crredech ddim sawl plentyn sy'n cael eu cymryd allan o wersi Add Gref ysgol gynradd nawr oherwydd maent yn astudio "celwydd" (hynny yw Islam, Iddewiaeth ayyb).
Hefyd, faint o Ysgolion Islamaidd a fydd yn dysgu am Gristnogaeth, Hindwiaeth, Siciaeth? Yn hytrach na chroesawu cymdogion o wahanol ffydd, a ydym yn gwynebu dyfodol "siege mentality"?

Dwi'n hollol wrthwynebus i unrhyw ysgol grefyddol boed yn Fwslemaidd, yn Iddewaidd neu ar sail 'denomination' fel Catholigiaieth. Nid lle'r sydtem addysg ydy i wahanu pobl ar sail crefydd. Mae Gogledd Iwerddon yn brawf o be all ddigwydd os wyt ti'n canaitau i elefenu o'r un crefydd neu wahanol grefyddau wahanu eu hunain pan yn blant

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Mer 09 Ebr 2008 2:46 pm
gan Duw
Ie wir, clyw clyw! Yn anffodus, nid yw'r "ysgolion" hyn yn mynd i ddiflannu. Duw a wyr pa fath syniadau a rhagfarn sydd wedi cael ei stwffio lawr eu gyddyce.

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Mer 09 Ebr 2008 9:27 pm
gan rooney
Duw a ddywedodd:Ie wir, clyw clyw! Yn anffodus, nid yw'r "ysgolion" hyn yn mynd i ddiflannu. Duw a wyr pa fath syniadau a rhagfarn sydd wedi cael ei stwffio lawr eu gyddyce.

Yn ddealladwy, nid yw rhieni eisiau codi eu plant yn anffyddwyr (atheists). O ble mae nhw'n cael eu moesau?

Nid lle'r sydtem addysg ydy i wahanu pobl ar sail crefydd.

Nid lle anffyddwyr yw penderfynnu fod plant pobl eraill yn well off heb grefydd, neu mynnu dogma pluralism a hybu amorality a "gwerthoedd" seciwlar. Gadewch i'r rhieni benderfynnu pa fath o ysgol mae nhw eisiau i'w plant. Pan mae nhw'n cael dewis, mae nhw'n gyrru eu plant i ysgolion crefyddol. Digon teg.

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Mer 09 Ebr 2008 10:43 pm
gan Chickenfoot
Rooney, mae'ch cred fod gan crefydd monopoli ar foeseg mor ddoniol.

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Iau 10 Ebr 2008 10:27 am
gan S.W.
rooney a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Ie wir, clyw clyw! Yn anffodus, nid yw'r "ysgolion" hyn yn mynd i ddiflannu. Duw a wyr pa fath syniadau a rhagfarn sydd wedi cael ei stwffio lawr eu gyddyce.

Yn ddealladwy, nid yw rhieni eisiau codi eu plant yn anffyddwyr (atheists). O ble mae nhw'n cael eu moesau?

Nid lle'r sydtem addysg ydy i wahanu pobl ar sail crefydd.

Nid lle anffyddwyr yw penderfynnu fod plant pobl eraill yn well off heb grefydd, neu mynnu dogma pluralism a hybu amorality a "gwerthoedd" seciwlar. Gadewch i'r rhieni benderfynnu pa fath o ysgol mae nhw eisiau i'w plant. Pan mae nhw'n cael dewis, mae nhw'n gyrru eu plant i ysgolion crefyddol. Digon teg.

Rooney ti wir yn dipyn o gacen ffrwytthau yn dwyt. Ble ydw i wedi dweud yn fy negeseuon y dylsai anffyddwyr benderfynu dros rieni na ddylsai eu plant gael crefydd? Dydw i heb. Mae croeso iddynt fagu eu plant mewn bywyd crefyddol, eu hanfon i'r Moasg bob dydd Gwener, eu hanfon i gapel neu eglwys bob dydd Sul neu i'r Synagog ar ddydd Sadwrn. Dyna ble dylid dysgu am eu crefydd a gwerthoedd eu crefydd nid yn yr ysgol maent yn ei fynychu o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddwn i'n fwy nag parod gweld ysgolion hyd yn oed yn rhoi stafeloedd arbennig i ddisgyblion fynd i addoli os dyna oedeynt eisiau eu gwneud, ond ni ddylsai hynny fod i un crefydd ar drul crefydd arall.

QWrth anfon eu plant i ysgolion crefyddol maent yn gwahanu eu plant o plant eraill sy'n dewis credu mewn ffydd arall. Mae effeithiau hyn iw gweld yn glir yng Ngorllewin yr Alban a Gogledd Iwerddon ble mae hyd yn oed pobl o'r un crefydd (Cristnogiion) yn casau eu gilydd ac yn cadw eu hunain ar wahan. Medduyliai'r llanast gellir ei greu pan mae gwlad yn caniatau arwahanrwydd crefyddol o gwahanol grefyddau ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Iau 10 Ebr 2008 1:03 pm
gan Chickenfoot
I fod yn deg i'r Roonster, es i ysgol Gatholig pan o'n i'n fach iawn; ond dw i'n meddwl cymerodd fy rieni'r ffaith fod yr ysgol yn agos iawn i'n ty ac yn cynnig safon addysg da i ystyriaeth yn hytrach na moseg crefyddol y lleianod oedd yn rhedeg y lle.

Canu a darllen hefo'r Sisters of the Bleeding Eyes of Jesus...good times! :winc: :D

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Iau 10 Ebr 2008 1:18 pm
gan S.W.
Chickenfoot a ddywedodd:I fod yn deg i'r Roonster, es i ysgol Gatholig pan o'n i'n fach iawn; ond dw i'n meddwl cymerodd fy rieni'r ffaith fod yr ysgol yn agos iawn i'n ty ac yn cynnig safon addysg da i ystyriaeth yn hytrach na moseg crefyddol y lleianod oedd yn rhedeg y lle.

Canu a darllen hefo'r Sisters of the Bleeding Eyes of Jesus...good times! :winc: :D

Digon gwir bod nifer yn anfon eu plant i ysgolion Catholig gan eu bod yn cael eu gweld yn dda, ond yn fy marn i gyd-ddigwyddiad yw'r ffaith bod yr ysgol arbennig hon yn un dda, gei di gymaint o ysgolion 'normal' llawn cystal hefyd. Ysgol dda di ysgol dda er gwaethaf bodoliaeth neu diffyg ethos crefyddol ynddo.