Tudalen 7 o 8

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Sul 13 Ebr 2008 5:45 pm
gan Duw
Beth ydy rhoi gwaed i wneud a phris bara? Mae gennyt fixation gyda hwn - mae'n profi dim yw dim. Bod yn hoyw yw fel ma person - nid dewis. Rwyt yn awgrymu taw dewis yw hwn, fel pechu. Wyt ti'n 'nabod unrhyw un hoyw? Wyt ti'n fodlon siarad a nhw?

Mae'n rhaid dweud, dwi'n ffeindio dy safbwynt yn ffiaidd, llawn rhagfarn ac yn gywilydd ar dy grefydd. Wel o leiaf rwyt digon dewr i gydnabod safbwynt dy grefydd cyntefig i bawb cael ei ddarllen. Ych-a-fi, rho anffydd i mi unrhyw ddydd.

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Sul 13 Ebr 2008 7:50 pm
gan mabon-gwent
Duw a ddywedodd:Mae dy grefydd yn rhoi'r hawl i ti feirniadau a rhoi d'hunan yn uwch na phobl eraill.


Nac ydy, rili, rili nac ydy. Sdim hawl gyda ni feirniadu, mae Iesu wedi dweud "let him who has not sinned cast the first stone". Ac Mae John 3.17 yn dweud "for God did not send his son into the world to condemn the world, but to save the world through him". Daith Iesu yma i bawb A, B, C a D, rhaid i ni fel cristnogion gofio beth ydym ni heb Iesu, Rooney peth bynnag y pechod "but for the grace of God go I..."

Dwi ddim yn dweud sdim rhaid beirniadu pechaduriaid, ond dyw e ddim lle pechaduriaid eraill.

Duw a ddywedodd:Ych-a-fi, rho anffydd i mi unrhyw ddydd.


Marx (anffyddwr gyda'r llaw) wedi dweud e'n gorau wi'n credu:

Marx a ddywedodd:Religion is the general theory of this world, its encyclopedic compendium, its logic in popular form, its spiritual point d'honneur, its enthusiasm, its moral sanction, its solemn complement, and its universal basis of consolation and justification. It is the fantastic realization of the human essence since the human essence has not acquired any true reality. The struggle against religion is, therefore, indirectly the struggle against that world whose spiritual aroma is religion.
Religious suffering is, at one and the same time, the expression of real suffering and a protest against real suffering. Religion is the sigh of the oppressed creature, the heart of a heartless world, and the soul of soulless conditions. It is the opium of the people.

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Sul 13 Ebr 2008 8:24 pm
gan huwwaters
rooney a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Beth wyt yn ei olygu gan lifestyle? Oherwydd bod rhai pobl hoyw yn anghyfrifol, a ydy hynny'n meddwl bod pob person hoyw yn anghyfrifol?


edrych ar y ffeithiau, mae POB hoyw yn cael eu gwrthod i roi gwaed. Nid yw POB person hetero yn cael eu gwrthod i roi gwaed. Pam?


Ti heb syniad o gwbwl rooney. Ti'n cymyd na dim ond pobol hoyw sy'n gallu dal unryw fach o afiechydon fel HIV.

Gad i ni neud pethe'n syml. Mae HIV er enghraifft yn cael ei basio o un person i'r llall trwy hylifau corfforol, ond ddim poer. Hynny yw hylifau sy'n cael eu arllwyso adeg rhyw neu gwaed, briwiau, toriadau yn y croen. Gan nad yw'n cael ei basio trwy'r ceg, ma unrhyw weithred rhywiol yn ymwneud a'r ceg allan ohoni. Os oes gan y ddau bartner toriadau yn y croen, yna gall HIV gael ei basio rhwng cwpwl hetero neu homo.

Mae dau weithred rywiol ar ôl, yr dull confensiynol a'r dull pen-ôl. Gall cwpwl hoyw (dynion) ddim ond weithredu'r dull pen-ôl. Gall cwpwl hetero weithredu'r dull pen-ôl a'r dull confensiynol.

Yn syml, dau ffordd gall HIV gael ei basio rhwng 2 berson sy'n berthnasol rhwng cyplau homo a hetero yw toriadau yn y croen a rhyw pen-ôl. Yn dilyn logic, cyplau hetero sydd a fwy o siawns o basio'r haint, ond gan fod niferoedd gwrywgydwyr yn llai, mae eu cylchoedd yn fwy clos. Felly byswn i'n deud fod y tebygolrwydd o ddal HIV tua'r un fath i gyplau hetero a homo.

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Sul 13 Ebr 2008 8:25 pm
gan huwwaters
A rwan yn ôl at Islam a'i fygythiad ar y ffordd orllewinol o fyw.

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Sul 13 Ebr 2008 10:10 pm
gan rooney
Duw a ddywedodd:Rwyt yn awgrymu taw dewis yw hwn, fel pechu. Wyt ti'n 'nabod unrhyw un hoyw? Wyt ti'n fodlon siarad a nhw?


so mae nhw methu help, a mae hynny'n gwneud e'n ok?
methu deall pa werth sydd yno'n gwarando ar honiadau hoywon am eu teimladau ar y pwnc yma, oherwydd beth am paedophiles- beth os yw nhw'n honni fod e'n normal i nhw deimlo fel mae nhw

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Sul 13 Ebr 2008 10:13 pm
gan rooney
huwwaters a ddywedodd: Felly byswn i'n deud fod y tebygolrwydd o ddal HIV tua'r un fath i gyplau hetero a homo.


mae'r ystadegau'n anghytuno gyda'r honiad yma

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Sul 13 Ebr 2008 11:06 pm
gan Duw
rooney a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Rwyt yn awgrymu taw dewis yw hwn, fel pechu. Wyt ti'n 'nabod unrhyw un hoyw? Wyt ti'n fodlon siarad a nhw?


so mae nhw methu help, a mae hynny'n gwneud e'n ok?
methu deall pa werth sydd yno'n gwarando ar honiadau hoywon am eu teimladau ar y pwnc yma, oherwydd beth am paedophiles- beth os yw nhw'n honni fod e'n normal i nhw deimlo fel mae nhw


Nid ydw i'n dweud llai. Mae pobl hoyw o oedran caniatad yn iawn i gael rhyw nac ydynt? Mae paedoffiliaid yn bethau hollol wanahol - ysglyfaethwyr plant yn syml.

Os oeddet yn cael yr hawl i wneud deddf gwlad i groeshoelio pob person hoyw roeddet yn gallu ffeindio, a wyt yn meddwl bydden nhw'n marw mas? A oes mwy o bobl hoyw nawr oherwydd mae cymdeithas yn fwy aeddfed? Nac oes wir - jyst bod mwy o'n cymdeithas yn ddiogel i ddatgan eu perswad personol. Stad naturiol yw bod yn hoyw, jyst fel bod rhai yn ysgrifennu a llaw chwith a rhai a llaw dde. Er eto i gyd Rooney, wyt ti'n ofergoelus o'r rheini sy'n ysgrifennu a'u llaw chwith - y sinistras?

Mabon-Gwent: wrth ymateb i Rooney a'i grefydd, pam wyt yn meddwl mae hwn yn meddwl ti a dy grefydd? Efallai bod y ddau ohonoch yn galw'ch hunain yn gristnogion, ond mae'n swnio fel eich bod ar begynnau dirgroes. Mae'r hyn mae Rooney yn ei boeri allan yn enw ei grefydd yn ffiaidd, stim dwywaith amdani.

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Sul 13 Ebr 2008 11:15 pm
gan murray hewitt
rooney a ddywedodd: oherwydd beth am paedophiles- beth os yw nhw'n honni fod e'n normal i nhw deimlo fel mae nhw


Wel bydde nhwn rong, yn amlwg. Mae'n hollol idiotic cymharur ddau beth.

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Mer 16 Ebr 2008 12:13 am
gan rooney
Duw a ddywedodd:Beth ydy rhoi gwaed i wneud a phris bara?


ni ddim yn siarad am bris bara
pam ti ddim yn gwynebu'r ffeithiau?

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Mer 16 Ebr 2008 3:01 am
gan Chickenfoot
Rooney, efalla bydd y Mwslemiaid yn cymeryd drosodd un diwrnod; ond mi fydd yn rhaid i bobl gwneud y ddewis i droi'n fwslem yn gyntaf. Mae'ch negeseuon chi'n ddigon i droi unrhyw un at ffydd arall - neu at anffyddiaeth.

Os ydych ci'n feddwl fod pobl hoyw yn haeddu fod mewn ryw fath o ghetto cymdeithasol hefo pobl sydd hefo salwch meddwl difrifol fel paedoffilia, yna rydych yn sal eich feddwl hefyd.

Nid ydych wedi ateb cwestiynau neb yn yr edefyn yma neu yn y lleill.

Dw i'n gwybod fy mod i'n pariah around these here parts hefyd, ond Jesus dude ti angen help.