Duw a ddywedodd:Mae c.d. yn rhoi ffocws i'n brwydrau beunyddiol. Cryfder mewn niferoedd ayyb. Mae gwleidyddiaeth, ffactorau economaidd, cynhesu byd-eang ac ati yn real - bydd y rhain yn effeithio ar ein ffordd o fyw yn y dyfodol. Bydd pobl yn edrych am bobl eraill sy'n teimlo'r un ffordd ac yn ymgasglu - stad naturiol (cryfder mewn niferoedd) - dim byd afresymegol mor belled a dwi'n gallu gweld.
Does dim byd afresymegol mewn ymgasglu gyda pobol gyda'r un meddylfryd a thi ar bynciau fel cynhesu byd-eang, ayyb - mewn cryfder mae nerth fel ti'n dweud - ond fel cenedlaetholwr ti'n 'ymgasglu' gyda pobol sydd ddim â'r un meddylfryd a ti o gwbwl jesd oherwydd eu bod nhw'n Gymry. Mae gan rhai Cymry farn hollol groes i ti ar wleidyddiaeth, ffactorau economaidd a cynhesu byd eang, ond ti'n sefyll yn falch wrth eu hochor ar yr amod eu bod nhw'n saliwtio'r un fflag. Ac yn pelhau dy hun o bobol sydd a'r un farn a thi am eu bod nhw'n saliwtio fflag gwahanol. Afresymegol!
Pam ydy c.d. yn afresymegol? Stad naturiol ydyw yn deillio o ddiogelu'r genynnau
Rhag beth? Petai ti'n penderfynu bod yn genedlaetholwr unrhyw wlad arall, byddai dy ennynau yn saff. Yr un rhywogaeth o anifail sy'n teyrnasu ymhob gwlad - allet ti atgenhedlu gyda pob un ohonyn nhw.