Tudalen 1 o 5

Cenedlaetholdeb

PostioPostiwyd: Llun 21 Ebr 2008 11:20 am
gan Macsen
Un o brif esboniadau anffyddwyr am grefydd yw mai jesd sgil effaith rhai o'r nodweddion dynol sydd wedi esblygu dros filoedd o flynyddoedd ydyw, e.e. mae bod yn hygoelus o fantais esblygol i ni fel ein bod ni'n dysgu'n gynt gan eraill. Digon teg.

Ond, onid ellir dadlau bod cenedlaetholdeb hefyd yn sgil effaith rhai o'r nodweddion dynol sydd wedi datblygu dros filoedd o flynyddoedd drwy esblygiad, a'i fod yr un mor afresymegol a chrefydd? Mae hi i weld yn amlwg mai'r teimlad o angen bod yn rhan o lwyth er mwyn ein diogelwch ein hunain sydd yn gyfrifol am ein teyrngarwch dall tuag at ba bynnag wlad dyn ni'n ei alw'n adref.

Ydy mae cenedlaetholdeb yn gwneud i ni deimlo'n dda amdanom ni'n hunain a'n gwlad ond does dim sail rhesymegol i hynny, a gellid dweud yr union yr un peth am y crefyddau y mae anffyddwyr yn eu condemnio. Ac os ydan ni'n barnu crefydd am ddechrau rhyfeloedd mae'n rhaid cyfadded does bod cenedlaetholdeb 100 gwaith gwaeth yn hynny o beth.

Felly, a oes gan faeswyr yr hawl i feirniadu crefydd tra eu bod nhw'n arddel cenedlaetholdeb sydd yr un mor afresymol a hunanol? Atebion ar gefn cerdyn post plîs.

Re: Cenedlaetholdeb

PostioPostiwyd: Llun 21 Ebr 2008 12:10 pm
gan ceribethlem
Fi'n cytuno Macsen, mater o ffydd yw'r ddau. Fel cenedlaetholwr mae gen i ffydd fyddai Cymru Rydd yn well na Cymru fel rhan o Loegr. Does dim tystiolaeth wyddonol gadarn i gefnogi hyn, mater o farn ac felly ffydd ydyw. Mae yna Gymru Cymraeg arall sy'n anghytuno'n llwyr ac yn credu byddai Cymru dan anfantais. Eto barn a ffydd yw e'.

Re: Cenedlaetholdeb

PostioPostiwyd: Llun 21 Ebr 2008 12:17 pm
gan huwwaters
http://www.k-1.com/Orwell/index.cgi/work/essays/nationalism.html

Cymhariaeth Orwell o cenedlaetholdeb a gwladgaredd.

Ydi mae cenedlaetholdeb yn beth sy'n sylfaenol brawychus achos ei nod yw ceisio ennill mwy a mwy o ryw a hynny trwy golled rhywun arall. Gwladgaredd? Dipyn yn wahanol, mwy o unieithu a diogelu eich trigolion, boed yn deulu, stryd, tref, sir.

Mae fy arferion (yn y gogledd) yn wahanol i bobl y cymoedd, yn wahanol i bobol gogledd orllewin Lloegr. Dwi efo rhai pethe'n debycach efo pobol y de - pethe Cymreig/Cymraeg; dwi efo rhai pethe'n debycach i bobol gogledd-orllewin Lloegr - cymdeithas; ond rywsut dwi'n cael fy nghlymu gyda'r deheuwyr.

Beth yw Cymru? Ffiniau gwleidyddol. Beth yw cenedlaetholdeb Cymreig? Efelychu statws ac uneb y Cymru gwleidyddol.

Beth yw eich Cymru? Eryri, Preseli, Brycheiniog, Bae Ceredigion, Dyffryn Clwyd. Dwi'm yn meddwl bod pobol yn sylweddoli bod neges ddwysach yng ngweithiau Waldo, Parry-Williams, pan maent yn sôn am eu bro. Dim motif bwrpasol, ond mae dadansoddiad nhw o'u cylch yn dangos na uned gwleidyddol yn unig yw cenedlaetholdeb. Ma Cymru y ddau yn wahanol iddyn nhw, ond eto mae unigolion yn gallu eu gwneud yn un.

Re: Cenedlaetholdeb

PostioPostiwyd: Llun 21 Ebr 2008 1:02 pm
gan Hogyn o Rachub
Dw i'm yn meddwl fod cenedlaetholdeb yn "ffug", er dw i'n dallt y pwynt. Dw i hefyd yn anghytuno'n i raddau helaeth gyda dadansoddiad Huw mai ar ffiniau y caiff cenedlaethol ei selio arnynt (er bod hynny hefyd yn wir i raddau). Nid oes dim byd 'ffug' am teimlo'n perthyn i wlad, neu iaith, neu ddiwylliant, neu'r bobl sy'n arddel y pethau hynny. Dyna ydi sail gwladgarwch a chenedlaetholdeb, a chenedlaetholdeb ddi-imperialaidd yn sicr.

Ydi hi'n annaturiol teimlo y byddai y bobl hynny yn gallu rheoli yr ardaloedd y maen nhw'n byw (y hytrach na'u ffiniau, fel petai) yn well na grwp arall, gwahanol o bobl? Yn fy marn i, na. Sail y wladwriaeth, nid y genedl, ydi ffiniau.

Rho fo fel hyn: roedd 'na adeg, yn yr hir orffennol, lle roeddem ni i gyd yn rhyw gell neu'n bysgodyn mwd yn union 'run peth â'n gilydd, ond erbyn hyn dw i'm yn meddwl all neb ddweud fy mod i'n debyg i jiraff. Rydym ni wedi esblygu, ac mae cenhedloedd wedi gwneud hynny hefyd. Dydi hynny ddim yn afresymegol yn y lleiaf.

Re: Cenedlaetholdeb

PostioPostiwyd: Llun 21 Ebr 2008 3:25 pm
gan Mr Gasyth
Ond, onid ellir dadlau bod cenedlaetholdeb hefyd yn sgil effaith rhai o'r nodweddion dynol sydd wedi datblygu dros filoedd o flynyddoedd drwy esblygiad, a'i fod yr un mor afresymegol a chrefydd? Mae hi i weld yn amlwg mai'r teimlad o angen bod yn rhan o lwyth er mwyn ein diogelwch ein hunain sydd yn gyfrifol am ein teyrngarwch dall tuag at ba bynnag wlad dyn ni'n ei alw'n adref.


Ma hwn yn ddadansoddiad hynod simplistig o genedlaetholdeb.

Mae cenedlaetholdeb fodern yn deillio o'r chwyldro diwydiannol a sgil-effeithiau hynny o ran trefnu economi, cymdeithas a llywodraeth. Datblygodd y genedl i fod yr uned gyfleus ar gyfer trefnu cymdeithas ddynol yn yr oes fodern. Ydi, mae cenedlaetholwyr (yn yr ystyr o unrhywun sydd yn perthyn i unrhyw genedl) yn edrych yn ol drwy hanes ac yn defnyddio symbolau, traddodiadau ac arwyr cenedlaethol i ddal y genedl at ei gilydd, ond arfau'r cenedlaetholwyr yw'r rhain yn hytrach na ffynhonell cenedlaetholdeb ei hun.

Mae cenedlaetholdeb a chrefydd felly yn debyg, ond nid yn y ffordd rwyt ti'n gredu - mae'r ddau yn ddull o gyfiawnhau trefn gymdeithasol arbenig ac awdurdod grwp arbennig o bobl, ond maent yn tynnu ar fynhonellau gwahanol iawn i wneud hynny.

Re: Cenedlaetholdeb

PostioPostiwyd: Llun 21 Ebr 2008 3:58 pm
gan Muralitharan
Diddorol. Mi rydw i yn 'Gristion' a 'chenedlaetholwr' (gobeithio), ond faswn i ddim yn dweud mai ffydd sydd gen i pan dwi'n son am genedlaetholdeb - mae defnyddio'r term hwnnw yn fan hyn yn ymresymu llac, Ceribethlehem. Yn yr un modd, wrth greu dadl athronyddol fel hyn, dwi'n credu fod Macsen yn methu hefyd gan ei fod yn son am "deyrngarwch dall" tuag at y genedl - tydi defnyddio'r modd mwyaf eithafol, neu'r ymddygiad mwyaf eithafol fel yna ddim yn help o gwbl. Mae'r un peth yn wir wrth lunio deddf gwlad
Fy hoff frawddeg yn y drafodaeth hon hyd yn hyn yw hon gan huwwaters:

"Ydi mae cenedlaetholdeb yn beth sy'n sylfaenol brawychus achos ei nod yw ceisio ennill mwy a mwy o ryw ..."

Re: Cenedlaetholdeb

PostioPostiwyd: Llun 21 Ebr 2008 4:07 pm
gan Rhys Llwyd
Mae fy nghenedlaetholdeb i (a'r math y ces i fy magu ynddo) yn deillio o fy Nghristnogaeth - felly ar ryw ystyr mi rwyt ti'n iawn Macsen. Ond i mi nid rhywbeth sydd fel cristnogaeth yw cenedlaetholdeb ond yn hytrach rhan o fy nghristnogaeth yw cenedlaetholdeb. Allai ddim dweud mod i'n cytuno gyda approach Ceribethlem tuag at genedlaetholdeb chwaith oherwydd mae son am genedlaetholdeb yn gyntaf yn nhermau economaidd a dim ond arddel cenedlaetholdeb oherwydd y byddai Cymru rydd yn well na'r Gymru presennol yn missing the point i fi. I mi rhywbeth moesol ac, amwni, ysbrydol yw hawl Cymru i ryddid - sgil effaith a dim byd mwy yw dod a dadleuon economaidd mewn i'r peth.

Re: Cenedlaetholdeb

PostioPostiwyd: Llun 21 Ebr 2008 4:14 pm
gan Muralitharan
Dwi'n cytuno hefo chdi, Rhys. Ond: petae modd profi y byddai hunanlywodraeth yn dwyn dioddefaint economaidd parhaus ar haen arbennig o'r genedl (a thydw i ddim yn credu hynny am eiliad), yna byddai'n rhaid i'r Cristion, fel pawb arall, gymryd sylw neu hyd yn oed ildio i hynny. Ond, dwi'n deall mai pwynt rhethregol yn unig yw hyn!

Re: Cenedlaetholdeb

PostioPostiwyd: Llun 21 Ebr 2008 4:41 pm
gan ceribethlem
Muralitharan a ddywedodd:Diddorol. Mi rydw i yn 'Gristion' a 'chenedlaetholwr' (gobeithio), ond faswn i ddim yn dweud mai ffydd sydd gen i pan dwi'n son am genedlaetholdeb - mae defnyddio'r term hwnnw yn fan hyn yn ymresymu llac, Ceribethlehem.
Defnyddio ffydd yn y cyd-destun credu dwi'n gwneud. Dwi'n credu, ac yn ffyddiog fod fy nghenedl i yn un gwerth cynnal. Mae yna rhai sydd ddim yn poeni taten am hanes, traddodiad nac ychwaith dyfodol eu gwlad. Eto mater o farn yw hwnna. Os wyt ti'n credu fod hynny'n ymresymu llac, digon teg, mater o farn yw hynny hefyd.

Re: Cenedlaetholdeb

PostioPostiwyd: Llun 21 Ebr 2008 4:54 pm
gan huwwaters
Muralitharan a ddywedodd:Diddorol. Mi rydw i yn 'Gristion' a 'chenedlaetholwr' (gobeithio), ond faswn i ddim yn dweud mai ffydd sydd gen i pan dwi'n son am genedlaetholdeb - mae defnyddio'r term hwnnw yn fan hyn yn ymresymu llac, Ceribethlehem. Yn yr un modd, wrth greu dadl athronyddol fel hyn, dwi'n credu fod Macsen yn methu hefyd gan ei fod yn son am "deyrngarwch dall" tuag at y genedl - tydi defnyddio'r modd mwyaf eithafol, neu'r ymddygiad mwyaf eithafol fel yna ddim yn help o gwbl. Mae'r un peth yn wir wrth lunio deddf gwlad
Fy hoff frawddeg yn y drafodaeth hon hyd yn hyn yw hon gan huwwaters:

"Ydi mae cenedlaetholdeb yn beth sy'n sylfaenol brawychus achos ei nod yw ceisio ennill mwy a mwy o ryw ..."


Mwy o rym. :wps:

Ond fel mae trafodaethau wedi bod o'r blaen am os yw Cymru di-Gymraeg dal cystal o Gymry? Beth yw'r gwahaniaeth rhyngddyn nhw a phobol Lloegr? Tydyn nhw dim ond yn cefnogi timau chwaraeon gwahanol etc. yn y diwedd?

Ydynt, mae'nt yn Gymry fel fi - yn rhan o'r un uned cenedlaethol - ond mae fy mhobol i, sef pwy dwi'n unieithu, dewis cwmni yn wahanol i nhw.