Cenedlaetholdeb

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cenedlaetholdeb

Postiogan Duw » Mer 23 Ebr 2008 11:30 pm

Cenedlaetholdeb (cd) - dyna llawn ceg. Sut oes modd cymharu cd a chrefydd? Wel i mi, dwi'n falch i alw'n hunan yn Gymro ond hapus i ddweud fy mod yn anffyddiwr. Dwi'n cytuno bod y ddau wedi esblygu. Mae tardd cd yn hyd yn oed mwy cyntefig na chrefydd. Mae gan anifeiliaid isel dyniad at fath eu hunain o ran lliw, arogl, 'llwyth', teulu. I mi mae cd dim ond yn estyniad o hwnnw. Erbyn hyn mae ein dadleuon ynglyn a phwrpas cd yn soffistigedig a chymhleth iawn - materion economaidd, cymdeithasol, diwylliannol, ieithyddol, (crefyddol?) ac ati. Er, yn y bon mae'n dod lawr i'r 'hivemind'. Y gennyn hunanol unwaith eto.

Er yn teimlo fy mod yn berson "modern", rhyngwladol, yr hyn sydd yn fy niddori wrth deithio'r byd yw gwahanol ddiwylliannau a ieithoedd. Bydde'n biti mawr os oeddwn yn homogeneiddio. A ydy'n bosib beth bynnag - dychmygwch byd lle bo pawb yn debyg - ni fydde'n hir cyn bo rhywun yn mynnu bod yn wahanol a mynd a'i deulu gydag e - splitter!
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Cenedlaetholdeb

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 26 Ebr 2008 11:34 am

Mae tebygrwydd rhwng cenedlaetholdeb a chrefydd. Ac mae gwahaniaeth hefyd. Ond efallai mai cyfuniad ill dau yw'r peth mwyaf peryglus yn y byd heddiw. Gwelir hyn, o raddau, yn yr UD, yn Iran ac yn Israel - ac, wrth gwrs, ymhobman, ond heb fod cyn gryfed neu ddylanwadol. Am wn i, heddwch a chariad yw neges pob crefydd - ond mae gan ormod o grefyddau bobl sy wrthi'n gwyrdroi'r neges sylfaenol yn rhyfel a chasineb.

Ac, i raddau, gellir dweud yr un beth am wlatgarwch. Mae'n dda i bawb barchu'r broydd maen nhw'n byw ynddynt - ond dyna'r broblem - "broydd". Gall "bro" fod yn stryd, yn bentref, yn ddinas, yn sir, yn wlad, yn undeb o wledydd, yn fyd - ac hefyd gall fod yn gymdeithas, yn weithfa, yn ddiwydiant - beth bynnag - sy heb ei ddylunio gan ororau daearyddol. Rydw i'n sicr ein bod ni i gyd yn nabod pobl bod ni'n ystyried iddyn nhw golli'r plot gan eu bod yn ddall at faterion bod ni'n ystyried i fod yn bwysig. Yn aml byddan nhw'n meddwl yr un beth amdanom ninnau.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Cenedlaetholdeb

Postiogan rooney » Sul 27 Ebr 2008 6:52 pm

Mae pwynt pwysig yn cael ei godi unwaith eto gan Macsen ynglyn a ffydd- nid dim ond crefydd (neu gwrth-grefydd) sydd angen ffydd yn y byd yma.

Myth a chelwydd yw fod "Cristion yn afresymol ac yn byw ar ffydd ddall , tra mae'r atheist yn byw ar reswm a ffeithiau di-gwestiwn." Ni i gyd yn rhoi ffydd mewn cymaint o bethau bob dydd, mae crefydd ac atheism angen ffydd hefyd.

Mae gwledydd sydd wedi gwadu Duw wedi bod yn fethiant yn y byd, ac wedi cyflwyno dinistr nas gwelwyd erioed o'r blaen. Does dim angen mynd nol bellach na hanes y ganrif ddwetha i ddysgu hynny. Diolch i Dduw fod y regimes yma yn dod i ben fesul un. Mae achos i gredu, o ddarllen yr ysgrythurau, fod Duw yn delio gyda cenhedloedd, gyda nifer o esiamplau o nhw'n cael eu bendithio a'u melltithio (darllenwch am Israel).
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Cenedlaetholdeb

Postiogan Duw » Sul 27 Ebr 2008 7:40 pm

rooney a ddywedodd:Myth a chelwydd yw fod "Cristion yn afresymol ac yn byw ar ffydd ddall , tra mae'r atheist yn byw ar reswm a ffeithiau di-gwestiwn." Ni i gyd yn rhoi ffydd mewn cymaint o bethau bob dydd, mae crefydd ac atheism angen ffydd hefyd.


Mae anffydd angen ffydd?? Mae'n rhaid dweud Rooney, dwi'n credu rhai pethau oherwydd taw dyna'r peth mwyaf rhesymegol i feddwl (i mi). Os oedd darn o dystiolaeth yn dod i siglo yr hyn roeddwn yn ei gredu, byddwn yn delio gydag e a phenderfynu os oedd angen newid fy safbwynt. Mae'r sefydliad gristnogol ar y llaw arall yn ceisio gwadu, anwybyddu, cyfaddawdu os oes tystiolaeth yn mynd erbyn ei herbyn.

Serch hynny, mae gan ffydd a c.d. dardd cyffredin. Rydym wedi gweld bod natur dynol yn gallu ei blygu a heintio negeseuon trugarol. Yn anffodus, bydd wastod arweinwyr a defaid yn ein plith. Bydd arweinwyr yn aml yn edrych am ffyrdd o gadw pwer - ffyrdd hawdd - apelio at grefydd a c.d. Mae crefydd yn beth ofnadwy o hawdd i ddefnyddio - dilynwyr ofergoelus, yn barod i wrando ar awdurdod ac i glywed am wyrthoedd. Pa mor hawdd yw winclo arian allan ohonynt mewn enw Iesu. Mae angen i ti roi dy bensiwn i mi yr wythnos hon er mwyn adeiladu pwll nofio yn f'ardd. TV Preacherland - da iawn bois. Tybed sawl pab dros y canrifoedd sydd wir yn credu yn yr hyn maent yn pregethu ar ol darllen yr holl 'sgruthurau yn dadle yn erbyn eu ffydd. Naill ai gwadu/anwybyddu neu dweud celwydd noeth wrth y defaid. A chyn bod rhywun yn fy nghyhuddo o fod yn wrth-gatholig, hoffwn ddweud fy mod yn meddwl bod pob gristion yn dioddef o salwch meddwl.



Mae c.d. hefyd yn hawdd i'w ddefnyddio - mae hanes llawn enghreifftiau. Bydd Sioni Estron yn sicr o .... ayyb.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Cenedlaetholdeb

Postiogan Muralitharan » Sul 27 Ebr 2008 7:49 pm

Roeddwn i ar fin gofyn i Rooney ymuno yn y drafodaeth yn hytrach na phregethu, ac yna ymddangosodd rant Duw. A'n helpo.
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Cenedlaetholdeb

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 27 Ebr 2008 7:51 pm

Pan ymosododd brenin Gwynedd ar Northumbria, roedd mynaich Jarrow yn ei felltithio'n arw. Pan bu o farw ger Hecsam (cadfan a elwir "Heavenfield") bu' mynaich Jarrow yn bendithio brenin Northumbria. Digon teg, efallai. Ond pan ymosodd y Northumbriaid ar Gaer a lladd y mynaich yno, yn ol mynaich Jarrow, dyna Gwaith Duw. Ai teg yr holl fendithio a melltithio yna? Efallai fod Rooney yn credu fod Cymru ymhlith y gwledydd sy wedi cael eu melltithio ac sydd ar ddiflannu. Crefydd pwy? Ffydd pwy?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Cenedlaetholdeb

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 27 Ebr 2008 7:53 pm

...gobeithio mod i wedi dy helpu, Furalitharan...
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Cenedlaetholdeb

Postiogan Macsen » Sul 27 Ebr 2008 8:11 pm

rooney a ddywedodd:Mae gwledydd sydd wedi gwadu Duw wedi bod yn fethiant yn y byd, ac wedi cyflwyno dinistr nas gwelwyd erioed o'r blaen.

Sut mae'r ddamcaniaeth yna'n esbonio llwyddiant China ac India yn ddiweddar?

Fel y dywedodd Ceribethlem mae elfen o ffydd ynghlwm a chenedlaetholdeb, ond nid ceisio cyfiawnhau crefydd drwy ddweud bod cenedlaetholdeb yn seiliedig ar ffydd oeddwn i. Wrth gwrs bod angen ffydd arnom ni i fyw ein bywydau bob dydd, ond yn wahanol i grefydd mae ein ffydd yn y pethau elfennol dydd i ddydd rheini wedi ei gefnogi gan dystiolaeth gadarn. Mae ffydd yn rhan annatod o wleidyddiaeth - ffydd y byddai Prydain yn well gyda'r Toriad mewn grym na Llafur, er engraifft.

Dwi'n derbyn pwynt Gasyth ynglyn a ffynhonnel cenedlaetholdeb yn yr oes fodern, ond dwi'm yn credu bod 'dyma'r ffordd gorau i drefnu cymdeithas' yn esbonio'r brwdfrydedd gwladgarol y mae cenedlaetholdeb yn ei beri mewn pobol.

Er engraift, mae hanner fy nheulu yn byw yn Lloegr. Mae fy nghefndryd wedi cael i bob pwrpas yr un fagwraeth a mi, jed dros y ffin - y gwahaniaeth mwya ydi bod fy nheulu ochor yma i'r ffin yn genedlaetholwyr brwd o blaid Cymru, ac bod fy nghefndryd yn teimlo'n union yr un fath am Loegr. Pa resymeg sydd yna i hynny, wir? Dyw fy nghasgliad i o fflagiau, symbolau, arwyr a seintiau ddim mwy na llai perthnasol nag eu rhai nhw. Eu pwrpas yw dynodi fy mod i'n rhan o un llwyth a nhwythau o lwyth arall, fel pe bai ni nol yn glynu plu peunod i'n gwallt yn y diffeithwch. Dim ond sgil effaith ein esblygiad o greuaduriaid oedd yn byw mewn llwythi ydi hynny, rywbeth hollol afresymegol, a byddai ochor weinyddol y genedl yn gweithio'n union yr un fath hebddo.

Ond eto mae gyda ni ryw fath o gariad ffôl tuag at ein 'llwyth' ni, a'r holl petheuach sy'n dod ynghlwm a fo. Felly pan mae anffyddwyr cenedlaetholgar yn condemnio crefydd am fod yn afresymegol a'n sgil effaith o'n esblygiad, falle dylen nhw edrych yn agosach at adre. :P
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Cenedlaetholdeb

Postiogan mabon-gwent » Sul 27 Ebr 2008 8:17 pm

Macsen a ddywedodd:
rooney a ddywedodd:Mae gwledydd sydd wedi gwadu Duw wedi bod yn fethiant yn y byd, ac wedi cyflwyno dinistr nas gwelwyd erioed o'r blaen.

Sut mae'r ddamcaniaeth yna'n esbonio llwyddiant China ac India yn ddiweddar?


Hanes Rhufain hefyd (cyn y Pab)?
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Re: Cenedlaetholdeb

Postiogan Duw » Sul 27 Ebr 2008 10:07 pm

Macsen a ddywedodd:Ond eto mae gyda ni ryw fath o gariad ffôl tuag at ein 'llwyth' ni, a'r holl petheuach sy'n dod ynghlwm a fo. Felly pan mae anffyddwyr cenedlaetholgar yn condemnio crefydd am fod yn afresymegol a'n sgil effaith o'n esblygiad, falle dylen nhw edrych yn agosach at adre.


Pam ydy c.d. yn afresymegol? Stad naturiol ydyw yn deillio o ddiogelu'r genynnau. Dwi wedi datgan eisoes (parthed crefydd a c.d.):

Duw a ddywedodd:Dwi'n cytuno bod y ddau wedi esblygu.


Mae c.d. yn rhoi ffocws i'n brwydrau beunyddiol. Cryfder mewn niferoedd ayyb. Mae gwleidyddiaeth, ffactorau economaidd, cynhesu byd-eang ac ati yn real - bydd y rhain yn effeithio ar ein ffordd o fyw yn y dyfodol. Bydd pobl yn edrych am bobl eraill sy'n teimlo'r un ffordd ac yn ymgasglu - stad naturiol (cryfder mewn niferoedd) - dim byd afresymegol mor belled a dwi'n gallu gweld. Nawr, credu mewn bwgi bos a throi cwpwl o friwsion mewn i wledd a all fwydo miloedd - dyna beth dwi'n galw afresymegol.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron