Tudalen 4 o 5

Re: Cenedlaetholdeb

PostioPostiwyd: Llun 28 Ebr 2008 11:07 pm
gan Chickenfoot
Dw i wedi pellhau oddiwrth cenedlaetholdeb in my own mental little way yn ddiweddar. I ddweud y gwir, 'roeddwn i'n fwy wladgarol pan nad oeddwn i'n siarad yr iaith nac yr ydw i rwan. Mae bod yn falch o fod yn Gymro, Saes neu unrhyw beth arall yn rywbeth rhyfedd iawn i fi. Jest fel pobl sydd yn dweud eu bod nhw'n falch o fod yn ddu neu gwyn. Pam?

Mae cenedlaetholdeb yn gallu arwain at agweddau negyddol iawn; a dyna un o'r brif resymau pam nad ydw i ddim yn teimlo fel Cymro "go iawn". Mae fy neuroses personol yn cyfrannu hefyd, ddo :seiclops: .

Cyn belled a mae crefydd yn y cwestiwn, mae gan cenedlaetholwyr yr hawl i feirniadu pobl crefyddol mewn ffordd, achod o leiaf mae cenedlaetholdeb yn deillio o rywbeth tangiable (?), sef hanes. Prfi sail crefydd yw entity yn y gofod neu dimensiwn arall sydd wedi rhoi'r Beibl i ni i brofi fod o yma. Pam dydi o ddim jest yn ymddangos bob hyn a hyn, dwi'm yn gwybod.

Eniwe, apparently dw i'n troll (feed me if you wil) a dw i off rwan.

Re: Cenedlaetholdeb

PostioPostiwyd: Llun 28 Ebr 2008 11:37 pm
gan Duw
Pwy wyt ti'n galw troll, Mac? Ro'n i'n meddwl gwnes i'r pwynt fod cd a chrefydd yn debyg mewn rhai cyd-destunau ond yn hollol wahanol mewn rhai eraill. Y ffaith bo cyfle da fi i bocsio cluste Rooney, wel ...

Re: Cenedlaetholdeb

PostioPostiwyd: Maw 29 Ebr 2008 12:36 pm
gan Macsen
Duw a ddywedodd:Pwy wyt ti'n galw troll, Mac?

Mae galw dy hun yn 'Duw' yn hint mai cythruddo yn hytrach na cyfathrebu yw dy ddileit.

Re: Cenedlaetholdeb

PostioPostiwyd: Maw 29 Ebr 2008 1:18 pm
gan Muralitharan
rooney a ddywedodd: Duw a ddywedodd:Sori Rooney, falle oedd "salwch meddwl" yn rhy gryf, beth am "gwan" / "feeble"?



:lol:

a ble mae dy atebion i'r holl gwestiynau wnes i ofyn?


Ia, go dda wan Rooney, mae gen ti hiwmor wedi'r cyfan!

Re: Cenedlaetholdeb

PostioPostiwyd: Maw 29 Ebr 2008 3:16 pm
gan Duw
Cythruddo? Wwwwwwwww. Dewisais yr enw "Duw" am fod "diafol" (fy monicer arferol ar fforymau eraill) wedi'i gymryd. Roeddwn yn synnu nid oedd unrhyw un arall wedi'i gymryd, ac roedd yn ddoniol gweld "Duw a ddywedodd" wrth i mi gael fy nyfynu am ddweud rhywbeth hurt. Cythruddo (be. to provoke) - eitha cywir. Dylai rhai fforymau trafod fod llawn sylwadau dadleuol a safbwyntiau heriol. Mae'r ffaith bod rhai ohonom yn profocio yn rhywbeth i'w groesawu. Rwyf pob amser yn ceisio cyfathrebu a chynnig esboniad llawn i bopeth - pob cwestiwn (hyd yn oed rhai gwirion Rooney).
Ond, rhaid cyfaddef dy fod yn gywir, mae gennyf ddileit yn dadlau gyda'r cyntefigs (homo ofergoelus), neu yn achos Rooney, (hetero ofergoelus ofergoelus).

Re: Cenedlaetholdeb

PostioPostiwyd: Mer 30 Ebr 2008 12:59 am
gan rooney
Duw a ddywedodd:Dewisais yr enw "Duw" am fod "diafol" (fy monicer arferol ar fforymau eraill) wedi'i gymryd.


paid chwarae gyda tan, plis, er mwyn ti nid ni

Re: Cenedlaetholdeb

PostioPostiwyd: Mer 30 Ebr 2008 8:08 am
gan ceribethlem
rooney a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Dewisais yr enw "Duw" am fod "diafol" (fy monicer arferol ar fforymau eraill) wedi'i gymryd.


paid chwarae gyda tan, plis, er mwyn ti nid ni

:lol:

Re: Cenedlaetholdeb

PostioPostiwyd: Mer 30 Ebr 2008 7:16 pm
gan Seonaidh/Sioni
Be dy'r holl fusnes "peidied a chwarae gyda than"? Wrth ddewis enw ar y fforwm? A dweud y gwir, ron i wedi sysu nad "duw gwirioneddol" oedd "Duw" ar y fforwm yma - ac basai'r un beth yn wir am "Diafol" ayb. Oes na ddisgwyl i bobl ddewis enwau sy'n cyfateb yn iawn i'w statws? Y ffaith nad oes ydy rhan o lawennydd a mwynhad y fath fforymau. Fel maen nhw'n dweud yn Nether Slaughter, "'Is bochd an duine a gabh fhèin ro throime" - neu, mewn geiriau eraill, paid a bod yn surpws Rwni.

Be oedd y pwnc eniwe? Y berthynas rhwng crefydd/ffydd a chenedlaetholdeb? Mae pethau ar grwydro ymaith...

Re: Cenedlaetholdeb

PostioPostiwyd: Gwe 02 Mai 2008 12:09 am
gan rooney
mae galw dy hun yn "Duw" yn blasphemi. Os ti ddim yn credyn yn Nuw yna pam fydde ti eisiau galw dy hun yn "Duw"? Yn amlwg, dim parch tuag at teimladau pobl. Nid wyf yn credu mae "Allah" yw Duw ond nid wyf yma'n galw fy hun yn "Allah" o ran speit.

Re: Cenedlaetholdeb

PostioPostiwyd: Gwe 02 Mai 2008 8:05 am
gan ceribethlem
rooney a ddywedodd:mae galw dy hun yn "Duw" yn blasphemi. Os ti ddim yn credyn yn Nuw yna pam fydde ti eisiau galw dy hun yn "Duw"? Yn amlwg, dim parch tuag at teimladau pobl. Nid wyf yn credu mae "Allah" yw Duw ond nid wyf yma'n galw fy hun yn "Allah" o ran speit.

Mae rhai pobl yn addoli Wayne Rooney, rooney