Stori fach ddiddorol ar y BBC heddiw yn sôn am eglwys yn gwneud cais i gael trwydded alcohol.
Dwi'n weld o'n syniad da fy hun .
Cymedrolwr: Rhys Llwyd
ceribethlem a ddywedodd:Gynta'r 'Steddfod, nawr Eglwys, beth nesa, bar mewn arholiadau gradd?
huwwaters a ddywedodd:Braidd yn drist fod RHAID i bobol cael alcohol fel rhan o ddigwyddiad cymdeithasol.
Mali a ddywedodd:huwwaters a ddywedodd:Braidd yn drist fod RHAID i bobol cael alcohol fel rhan o ddigwyddiad cymdeithasol.
Ond does 'na ddim rhaid i bobl gael alcohol ....eu dewis nhw fasa cael gwin neu jiws / cwrw neu ddwr .
sian a ddywedodd:A dweud y gwir roedd y ddau oedd yn dadlau yn erbyn rhoi'r drwydded ar Taro'r Post yn ddigon i anfon urnhyw un i estyn am y botel jin.
Ond wedyn, fe allech chi ddadle y byddai lle fel hyn yn dangos esiampl trwy drin alcohol yn gall.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai