Tudalen 1 o 1

Eglwys yn gwneud cais am drwydded alcohol

PostioPostiwyd: Mer 23 Ebr 2008 4:01 pm
gan Mali
Stori fach ddiddorol ar y BBC heddiw yn sôn am eglwys yn gwneud cais i gael trwydded alcohol.
Dwi'n weld o'n syniad da fy hun . 8)

Re: Eglwys yn gwneud cais am drwydded alcohol

PostioPostiwyd: Mer 23 Ebr 2008 4:14 pm
gan Kez
A finna - o leia, maen nhw'n agor yn gynnar ar y Sul 8)

Re: Eglwys yn gwneud cais am drwydded alcohol

PostioPostiwyd: Mer 23 Ebr 2008 5:01 pm
gan huwwaters
Braidd yn drist fod RHAID i bobol cael alcohol fel rhan o ddigwyddiad cymdeithasol.

Re: Eglwys yn gwneud cais am drwydded alcohol

PostioPostiwyd: Mer 23 Ebr 2008 7:22 pm
gan Chickenfoot
Sa'n rhaid i mi gael alcohol i gymryd unrhyw wasanaeth crefyddol o ddifri.

Re: Eglwys yn gwneud cais am drwydded alcohol

PostioPostiwyd: Mer 23 Ebr 2008 8:01 pm
gan ceribethlem
Gynta'r 'Steddfod, nawr Eglwys, beth nesa, bar mewn arholiadau gradd?

Re: Eglwys yn gwneud cais am drwydded alcohol

PostioPostiwyd: Mer 23 Ebr 2008 10:59 pm
gan mabon-gwent
ceribethlem a ddywedodd:Gynta'r 'Steddfod, nawr Eglwys, beth nesa, bar mewn arholiadau gradd?


Ond mae'r capeli i fynd eto 8)


O ble mae'r Eglwys yng Nghymru'n cael yr arian i wneud yna?

Re: Eglwys yn gwneud cais am drwydded alcohol

PostioPostiwyd: Iau 24 Ebr 2008 4:40 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Cafwyd trafodaeth ddifyr iawn ar Taro'r Post. Un yn son am datws (ia, tatws!). Gwglwch wasanaeth Gwrando Eto Radio Cymru. Bobol bach...

Re: Eglwys yn gwneud cais am drwydded alcohol

PostioPostiwyd: Iau 24 Ebr 2008 5:52 pm
gan Mali
huwwaters a ddywedodd:Braidd yn drist fod RHAID i bobol cael alcohol fel rhan o ddigwyddiad cymdeithasol.


Ond does 'na ddim rhaid i bobl gael alcohol ....eu dewis nhw fasa cael gwin neu jiws / cwrw neu ddwr .

Re: Eglwys yn gwneud cais am drwydded alcohol

PostioPostiwyd: Iau 24 Ebr 2008 6:07 pm
gan sian
Mali a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:Braidd yn drist fod RHAID i bobol cael alcohol fel rhan o ddigwyddiad cymdeithasol.


Ond does 'na ddim rhaid i bobl gael alcohol ....eu dewis nhw fasa cael gwin neu jiws / cwrw neu ddwr .


Dw i'n meddwl mai beth oedd huwwaters yn ei ddweud oedd ei bod yn drist na allwch chi gynnal digwyddiad cymdeithasol heb alcohol.
Dw i ddim yn siwr lle ydw i'n sefyll ar hyn. Mae 'na beryg i normaleiddio alcohol a hwnnw'n achosi'r fath bryder yn ein cymdeithas ni.
Ond wedyn, fe allech chi ddadle y byddai lle fel hyn yn dangos esiampl trwy drin alcohol yn gall.
A dweud y gwir roedd y ddau oedd yn dadlau yn erbyn rhoi'r drwydded ar Taro'r Post yn ddigon i anfon urnhyw un i estyn am y botel jin.

Re: Eglwys yn gwneud cais am drwydded alcohol

PostioPostiwyd: Iau 24 Ebr 2008 8:55 pm
gan Mali
sian a ddywedodd:A dweud y gwir roedd y ddau oedd yn dadlau yn erbyn rhoi'r drwydded ar Taro'r Post yn ddigon i anfon urnhyw un i estyn am y botel jin.


:lol:

Ond wedyn, fe allech chi ddadle y byddai lle fel hyn yn dangos esiampl trwy drin alcohol yn gall.

Cweit. :)