Yn dilyn trychinebau'r Dwyrain Pell, sut all berson dal i gredu mewn "duw"? Os ydych yn dilyn y duw cristnogol, fel bo'r rhan fwyaf postwyr crefyddol y seiat hon, na ddyweddodd Duw na fydde byth yn boddi'r planed eto?
Os nid ewyllys Duw oedd y rhain, ewyllys pwy? Os nid bwriad Duw oedd hwn, a oedd ganddo'r gallu i'w rhwystro? Beth yw'r pwynt o weddio ac addoli os nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth? Os rhaid aros i ni farw cyn fanteisio ar yr holl amser coll hynny?
Stim rhyfedd gen i bod y seiat hon wedi bod yn segur mor hir. God has left the building.
Naill ai Ef wnaeth ei achosi neu nid oes ots ganddo am Ei bobl. Beth bynnag, nid Duw dwi ishe dilyn.
O ie, chestnut - "pwy ydyn ni i gwestiynnu Ef?"