Cymedrolwr: Rhys Llwyd
Chickenfoot a ddywedodd:Dadlau crefyddol - soooooo 2007.
Nid dadleuon hurt HRF. Teimlo dwi i eich bod yn penderfynu pa weithredoedd sydd lawr i Dduw pan ei fod yn eich siwtio. Mae hwn yn rhyfedd i mi a llawer o anffydwyr eraill. Paid a diystyru ein safbwynt fel "hurt". Nid oes rhesymeg tu ôl i'th dadleuon. Pryd ydy Duw yn ymyrryd ar y Ddaear? Byth? Ydyw'n aros tan i chi farw i roi Ei feirniadaeth?
Oni fyddwn yn ymddangos yn hurtyn petawn yn dewed nid ydwyf yn credu mewn achosion naturiol o'r herwydd? Trwy ladd Nain, fe syrthiodd achos natur i lefel is nag oeddwn yn disgwyl, felly dydy natur, yn amlwg, ddim yn bodoli!
Dadleuon o'r un safon hurt sy'n cael eu cynnig uchod.
Duw a ddywedodd:Rhyfedd yndi, bod anghredinwyr yn beio Duw am beidio ag ymyrryd pan fo trychineb yn digwydd ond ddim am ei ddiolch am ymyrryd pan fo trychineb yn cael ei hosgoi?
Mr Gasyth a ddywedodd:Oni fyddwn yn ymddangos yn hurtyn petawn yn dewed nid ydwyf yn credu mewn achosion naturiol o'r herwydd? Trwy ladd Nain, fe syrthiodd achos natur i lefel is nag oeddwn yn disgwyl, felly dydy natur, yn amlwg, ddim yn bodoli!
Dadleuon o'r un safon hurt sy'n cael eu cynnig uchod.
Dwi heb ymyrryd ers tawlm yn y seiat yma, ond rhaid ymateb i hyn!
Tydi anghredinwyr ddim yn honi fod i natur rinweddau cariadus a chyfiawn fel y mae credinwyr yn eu rhoi i Dduw. Mae pawb yn derbyn fod natur yn gallu bod yn greulon - tydi hyn ddim yn negydu ei fodolaeth o gwbl oherwydd mae marwolaeth a dioddefaint yn ran ganolog o natur.
Ond mae credinwyr yn credu mai Duw sydd y tu ol i'r creulondeb yma - Duw honedig cariad a chyfiawnder. Mae'r anghrediniwr yn gweld y paradocs yma yn ormod ac yn methu credu yn y fath beth.
Hen Rech Flin a ddywedodd:Ond sail dy baradocs yw bod marwolaeth a dioddefaint yn bethau drwg wrth eu natur! Rwy'n credu mai fy marwolaeth bydd fy mhorth i'r Nefoedd a bod pob dioddefaint daw i'm rhan, cyn hynny, yn brawf o'm ffydd.
Hen Rech Flin a ddywedodd:Yr hyn sy'n fy nrysu yw sut y gelli ddadlau bod marwolaeth a dioddefaint yn bethau drwg a chreulon os oes Duw, ond dyna fo rhan o natur, di-ddrwg, anghreulon, naturiol ydynt os nad oes Duw?
Ti'n deud bod natur yn deg os nad oes creawdwr ond yn fastard os oes creawdwr!
Duw a ddywedodd:Yr hyn sy'n fy niddori yw sut ydy person (credwr) yn gwybod y gwahaniaeth rhwng weithred Duw a digwyddiad naturiol?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 39 gwestai