Cymedrolwr: Rhys Llwyd
Duw a ddywedodd:Yn dilyn trychinebau'r Dwyrain Pell, sut all berson dal i gredu mewn "duw"? Os ydych yn dilyn y duw cristnogol, fel bo'r rhan fwyaf postwyr crefyddol y seiat hon, na ddyweddodd Duw na fydde byth yn boddi'r planed eto?
Os nid ewyllys Duw oedd y rhain, ewyllys pwy? Os nid bwriad Duw oedd hwn, a oedd ganddo'r gallu i'w rhwystro? Beth yw'r pwynt o weddio ac addoli os nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth? Os rhaid aros i ni farw cyn fanteisio ar yr holl amser coll hynny?
Stim rhyfedd gen i bod y seiat hon wedi bod yn segur mor hir. God has left the building.
Naill ai Ef wnaeth ei achosi neu nid oes ots ganddo am Ei bobl. Beth bynnag, nid Duw dwi ishe dilyn.
O ie, chestnut - "pwy ydyn ni i gwestiynnu Ef?"
Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:Mae'n gwestiwn ddigon teg, a dwi'n meddwl fod y rhai sy'n dwrdio duw am arddull ei ofyn braidd in disinjeniwas, oherwydd mae o'n un o'r cwestiynnau sylfaenol yna am bob honiad crefyddol.
ceribethlem a ddywedodd:Fi'n credu mai'r pwynt yw fod pawb yn slagio rooney off am ei ffordd "efengylaidd" o drafod/trolio. Nawr (yn yr edefyn yma) mae Duw wedi gwneud yn union yr un peth o'r ochr arall. Dyw hi ddim yn agoriad da i gael trafodaeth gall ac adeiladol mas ohono fe.
Nid dy ddwrdio di oedd pwynt fy nghyfraniad. Ceisio egluro ymateb eraill oeddwn i.Duw a ddywedodd:ceribethlem a ddywedodd:Fi'n credu mai'r pwynt yw fod pawb yn slagio rooney off am ei ffordd "efengylaidd" o drafod/trolio. Nawr (yn yr edefyn yma) mae Duw wedi gwneud yn union yr un peth o'r ochr arall. Dyw hi ddim yn agoriad da i gael trafodaeth gall ac adeiladol mas ohono fe.
Gyda pharch Ceri, dwi wedi gosod fy ngwestiwn (ac wedi ymddiherio am y ffordd y cafodd ei ofyn) er mwyn darganfod barn postwyr ar y cysyniad sylfaenol hwn. Postwyr a fydd yn penderfynu os yw'r drafodaeth yn adeiladol ac yn werth gosod ei sylwadau. Rwyt ti yn amlwg wedi teimlo bod yn rhaid rhoi sylw.
Dyw cymharu dy ddull trafod gyda rooney ddim yn gam da i'w gymryd ydyw e' nawr?Duw a ddywedodd:A pheth arall! Mae'r seiat 'ma yn sgrechen mas i gael pobl yn dadle'u safbwyntie. Os oeddwn yn gadael e lan i bobl crefyddol i rannu eu syniadau a chlapio'i gilydd ar eu cefne, lle diflas y diawl bydde fe. Mae'n rhaid bod lle i fod yn brofoclyd. Nid yw'r ffaith fy mod yn eithafol yn peth gwael. Edrycha ar y edefs prysuraf yn ddiweddar a geid di weld rooney ac anti-rooney'n cyfrannu a hyd yn oed eu dechrau.
Duw a ddywedodd:Diolch Dafydd am dy syniadau a dehongliadau predestination. Diddorol iawn. O ran "shit happens", nid yw'n wir i ddweud "good happens" hefyd. A ydy gweddio i seintiau/Iseu/Duw ar gyfer intercetions (e.e. gwella plentyn tost) mewn ofer felly? A ydy Duw'n ymyrrid?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 36 gwestai