Tudalen 1 o 5

Duw ar ei wyliau?

PostioPostiwyd: Sul 18 Mai 2008 9:25 pm
gan Duw
Yn dilyn trychinebau'r Dwyrain Pell, sut all berson dal i gredu mewn "duw"? Os ydych yn dilyn y duw cristnogol, fel bo'r rhan fwyaf postwyr crefyddol y seiat hon, na ddyweddodd Duw na fydde byth yn boddi'r planed eto?

Os nid ewyllys Duw oedd y rhain, ewyllys pwy? Os nid bwriad Duw oedd hwn, a oedd ganddo'r gallu i'w rhwystro? Beth yw'r pwynt o weddio ac addoli os nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth? Os rhaid aros i ni farw cyn fanteisio ar yr holl amser coll hynny?

Stim rhyfedd gen i bod y seiat hon wedi bod yn segur mor hir. God has left the building.

Naill ai Ef wnaeth ei achosi neu nid oes ots ganddo am Ei bobl. Beth bynnag, nid Duw dwi ishe dilyn.

O ie, chestnut - "pwy ydyn ni i gwestiynnu Ef?"

Re: Duw ar ei wyliau?

PostioPostiwyd: Llun 19 Mai 2008 7:53 am
gan ceribethlem
Mae'r anti-rooney wedi siarad :winc:

Re: Duw ar ei wyliau?

PostioPostiwyd: Llun 19 Mai 2008 10:17 am
gan Llefenni
Credu alle ti ddadle bod bywyd yn y ddau le wedi bod yn uffernol eniwe so A) Mae'n beth caredig i neud i ddod a bobl i'r newfoedd a b) Bydd rhaid i'r Junta yn Burma a'r llywodraeth yn Tseina adel bobl fewn i helpu. ac yna bydd y sefyllfa'n gwella i bawb sydd ar ôl.

Bingo.

Re: Duw ar ei wyliau?

PostioPostiwyd: Llun 19 Mai 2008 11:39 am
gan Duw
Ocei, ocei, seiat yn dawel, angen rywbeth i brofocio dadl. Dyna'm ddileit! Anti-rooney wedi siarad, er bo'r anti-rooney yn wir i'w air ac yn credu yn yr hyn mae'n dweud - nid bachu'r tir uchel ynglyn a moese ac yna lledu ei iaith ffiaidd dros seiadau eraill - er blag arbennig o dda. Ond eto, ble ma Duw? Ydy omnipotent wedi troi i impotent?

Re: Duw ar ei wyliau?

PostioPostiwyd: Llun 19 Mai 2008 12:56 pm
gan Chickenfoot
Mae nifer o gristnogion yn honni mai ewyllus Duw yw gwyrthiau ac ati, ond wedyn yn dweud na fedrwch chi farnu Duw am "acts of God". IT NO MAKE SENSE!

Re: Duw ar ei wyliau?

PostioPostiwyd: Llun 19 Mai 2008 1:10 pm
gan Macsen
Beth yn union yw pwynt yr edefyn yma? Os dych chi ddim yn credu bod Duw yn bodoli dyna ni, sdim pwynt poeni a pryfocio pobol sydd yn. Sdim un person erioed di stopio credu achos bod pobol yn gwneud hwyl am ei ben.

Re: Duw ar ei wyliau?

PostioPostiwyd: Llun 19 Mai 2008 1:26 pm
gan bartiddu
Dyfyniad bach des ar draws 'chydig o ddiwrnodau nol...8)
Delwedd

Re: Duw ar ei wyliau?

PostioPostiwyd: Llun 19 Mai 2008 1:49 pm
gan Hogyn o Rachub
Macsen a ddywedodd:Beth yn union yw pwynt yr edefyn yma? Os dych chi ddim yn credu bod Duw yn bodoli dyna ni, sdim pwynt poeni a pryfocio pobol sydd yn. Sdim un person erioed di stopio credu achos bod pobol yn gwneud hwyl am ei ben.


Yn union. Prin iawn, Duw, dy fod am ennyn na haeddu ymateb pan mae'r unig reswm ti'n dod i'r seait 'ma ydi i fychanu credoau pobl eraill :rolio:

Re: Duw ar ei wyliau?

PostioPostiwyd: Llun 19 Mai 2008 3:21 pm
gan Gowpi
Macsen a ddywedodd:Beth yn union yw pwynt yr edefyn yma? Os dych chi ddim yn credu bod Duw yn bodoli dyna ni, sdim pwynt poeni a pryfocio pobol sydd yn. Sdim un person erioed di stopio credu achos bod pobol yn gwneud hwyl am ei ben.

Yn gwmws.
Os dechre edefyn i ddwrdio Duw am droi ei gefen (Duw nad wyt, duw, yn credu ynddo) beth am ddechre edefyn yn diolch Iddo am ragoriaethau'r byd.
Diolch Dduw, ma' heddi yma yng Ngheredigion, yn ddwrnod arbennig o braf, y mor yn las, yr haul yn gwenu, a'r blodau'n blaguro ar eu gorau. Amen.

Re: Duw ar ei wyliau?

PostioPostiwyd: Llun 19 Mai 2008 8:47 pm
gan Duw
Ie cywir chi'ch tri - y bwriad yw profocio, ond nid gwneud hwyl am ben y rheini sy'n credu. Dwi wir am wybod beth yw ymateb y rheini ohonoch sy'n credu. Mae dyfyniad Epicurus yn un dilys iawn. Nac oes hawl gennyf ofyn cwestiwn ar ddehongliad bodolaeth Duw yn sgil trychinebau?

Gowpi a ddywedodd:Os dechre edefyn i ddwrdio Duw am droi ei gefen (Duw nad wyt, duw, yn credu ynddo) beth am ddechre edefyn yn diolch Iddo am ragoriaethau'r byd.
Diolch Dduw, ma' heddi yma yng Ngheredigion, yn ddwrnod arbennig o braf, y mor yn las, yr haul yn gwenu, a'r blodau'n blaguro ar eu gorau. Amen.


Nid yw hwn yn ateb y cwestiwn, yn hytrach mae'n ail-adrodd fy nhryswch ynglyn a chreodau postwyr. Nid pwrpas yr edefyn yw ffeindio gwyrthoedd ofergoelus ynglyn a'r byd naturiol, ond ceisio a derbyn dehongliadau "ffyddwyr" ynglyn a'r digwyddiadau hyn. O sydych yn derbyn mai Duw sy'n gyfrifol am holl daioni'r byd, nid efe sy'n gyfrifol am bob drwg y byd hefyd. Os na, pam ydyw'n gadael hyn i ddigwydd?