Duw ar ei wyliau?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Nei » Maw 20 Mai 2008 3:29 pm

Dyn greodd duwiau i lanw'r tyllau anesboniadwy na all gwyddoniaeth ei ateb, nagife?
Me meus nemed naou miz da roul va yaounkiz...
Rhithffurf defnyddiwr
Nei
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 235
Ymunwyd: Llun 27 Hyd 2003 6:37 pm
Lleoliad: Pontypridd

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Iau 05 Meh 2008 12:51 pm

"Good happens" hefyd? Mae hynny'n swnio'n rhesymol i fi - mae na ddarn arall yn Matthew lle mae Iesu'n dweud wrth bobol i efelychu Duw sy'n gadael i'r haul dywynnu a'r glaw ddisgyn ar bawb (ond pan ddaeth hi at Gymru, fe redodd o allan o haul - dydi'r darn yna ddim yn Matthew, bai ddy we).
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 05 Meh 2008 2:02 pm

Dwi newydd orffen darllen trafodaeth Yr Athro D. Densil Morgan am drychineb Aberfan yn ei gyfrol Span of The Cross: Christian Religion and Society in Wales 1914-2000 (Gwasg Prifysgol, 1999). Mae'r drafodaeth rhwng tudalenau 230-242 os ydych chi am dwrio trosoch chi eich hun.

Ond dyma yn fras beth mae Densil Morgan yn ddweud: i.) ar y cyfan bywiogwyd bywyd yr eglwys yn dilyn y drychineb ac ii.) yr unig bobl oedd yn codi'r cwestiwn 'lle roedd duw?' oedd rheini oedd ddim, yn eironig, yn credu mewn Duw ta beth! a iii.) yr Eglwysi a'i harweinwyr fu'n fwyaf o gefn i'r teuluoedd a'r pentre wrth geisio ail-godi bwyyd y pentref ac yn olaf iv.) arweinwyr yr Eglwysi wnaeth arwain yr ymgyrch wedi hynny i gael gwared o'r slag heaps peryglus o dde Cymru a galw ar lywodrath Llundain i gymryd y cyfrifoldeb, ymarferol ac ariannol, dros hynny.

Dyma ddyfyniad o lyfr Densil Morgan:

D. Densil Morgan yn Span of The Cross a ddywedodd: Remarkable and perhaps unexpected was the lack of resentment or hostility towards God. 'Two or three people did ask me in the first days, "Why did God allow this tragedy to happen?" but I have not hered it since then', the Revd Hayes recalled. 'From my correspondance I would say that this question has been asked much more by people outside Aberfan.' There was no cynicism; only unbelievers blamed God for the tragedy. If there would be no evidence of a widespread revival neither was there any renounciation of faith... Faith, if shaken, had once more stood the test.


Llywodraeth a Glo Prydain fu'n gyfrifol am drychineb Aberfan ac erbyn cyfnod y drychineb roedd yr Eglwysi yn enw'r ffydd Gristnogol wedi bod yn siarad yn gryf allan yn erbyn agwedd Llywodraeth Prydain ar sawl ffrynt ers degawdau. Materioliaeth a hunanoldeb sy'n ganlyniad i bechod oedd yn gyfrifol am drychineb Aberfan a Duw a'r Eglwysi oedd a'r ateb i'r broblem nid Duw oedd y broblem.

Wrth gwrs nid natural disaster clasurol oedd Aberfan ond mae rhai o'r egwyddorion mae Densil Morgan yn tynnu sylw atynt yn dal sef mae y di-gred, yn eironig, sy'n beidio Duw bob tro.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan dawncyfarwydd » Iau 05 Meh 2008 3:32 pm

Rwan dwi'n gweld cyfraniad DI - un efo'r disgleiria dwi wedi weld ar maes-e. Biti am y paragraff isod! :)
Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:Pan ddatblygodd diwynyddiaeth - yn enwedig y diwynyddiaeth Awstinaidd a Chalfinaidd a ddaeth i arglwyddiaethu ar lawer o gapeli Cymru - roedd y prif ffocws ar Hollalluogrwydd Duw: does na'm byd yn digwydd heb i Dduw ei achosi, sydd ar un lefel yn hollol lojical, gan mai dyna ydi un o'r pyrcs o fod yn hollalluog. Y broblem ydi ei fod o'n arwain at syniadau hollol hurt e.e. fod Duw wedi penderfynnu cyn dechrau amser pwy yn union oedd yn mynd i'r nefoedd a pwy oedd yn mynd i uffern, sydd nid yn unig yn ffiaidd fel syniad, ond yn gwrthddweud llawer o'r syniadau yn yr ysgrythurau am y ffordd y mae Duw yn creu pobol yn rhydd ac, o'i gariad, yn fodlon achub pechaduriaid nad ydynt yn hyd yn oed yn gwybod ei fod yn eu caru.

a. Nid mater o benderfynu pwy i'w ddwyn i'r nefoedd a phwy i'r anfon i uffern ydi o, ond mater o bwy i'w ethol o'r default position o fod yn mynd i uffern.

b. "achub pechaduriaid nad ydynt yn hyd yn oed yn gwybod ei fod yn eu caru" - dwi ddim yn dilyn hyn. Mae Calfiniaeth yn dysgu bod pawb, trwy bechod, yn naturiol anymwybodol o Dduw, ac felly yn anymwybodol o'i gariad tuag aton ni; dan ni'n rhodio yn y tywyllwch. Mae hynny'n rhan o pam na all dyn ddod at Dduw drosto'i hun (mae'n rhaid cael yr ysbryd glan i ddatguddio Duw, i'n harwain ni i edifeirwch a'n gosod ni'n iawn ar ffordd y bywyd etc). So dwi ddim yn dallt sut ti'n gallu deud mai d'Arminiaeth ydi'r ddiwinyddiaeth sy'n galluogi achub pechaduriaid nad ydynt yn hyd yn oed yn gwybod fod Duw yn eu caru - pan mai dyna ydi un o hanfodion Calfiniaeth!

c. Dwi hefyd o'r farn mai Calfiniaeth (dwi'n Uchel-Galfinydd so ella mod i'n golygu U-G pan dwi'n deud Calfiniaeth) ydi'r ddiwinyddiaeth sy'n dod agosaf at ddeall y cysoniad rhwng ewyllys rydd a hollallu Duw. Dydi bod Duw yn gallu rheoli pob peth ddim yn golygu ei fod o yn - sa hynny'n gwneud robots allan ohonon ni. Ond mae Cwymp dynoliaeth - gafodd ei achosi gan ewyllys rydd - wedi creu un sefyllfa lle mae Dyn yn gwbwl analluog, felly os oes rhywbeth yn mynd i ddigwydd (achubiaeth, presiwmabli) yna mae hynny'n GORFOD dod o Dduw ac nid o Ddyn o gwbwl.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Duw » Iau 05 Meh 2008 11:03 pm

Bachan diawl, mae fel pwll tro 'ma! Os dwi wedi cal hwn yn reit - mae Duw yn gallu ymyrryd ond fel rheol ddim yn boddran. Mae wedi rhoi ewyllys rydd, ond yn cyfeirio pobl i wneud pethe pan fydd yn ei blesio?

O'r uchod gallwn ddweud nac oes llawer o ots gan Dduw am unigolion - dim ond y darlun cyflawn? Felly, a ydyw'n mynd ar Ei wyliau o dro i dro? A ydyw'n gwrando ar bob weddi a phenderfynu anwybyddu 99.999% (oes modd ei fesur)?

{plis dim rhagor o'r predestination stwff na, allai byth cymryd mwy! Mae'n ddigon i mi fynd yn ol i'm rosari!}
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Hen Rech Flin » Gwe 06 Meh 2008 1:17 am

Mae Rhys eisoes wedi ateb y cwestiwn.

Yng ngwyneb trychineb mae'r crediniwr yn gofyn Sut gall fy nuw fy nghynnal trwy'r fath drychineb?

Yr un sy' ddim yn credu ym modolaeth unrhyw fath o dduwdod sy'n gofyn lle mae Duw?

Mae'r rheswm am y gwahaniaeth yn eithaf syml, sef agwedd at farwolaeth.

I'r anghrediniwr mae marwolaeth yn ddiwedd, yn golled aruthrol, yn drasiedi.

I'r crediniwr, dechrau taith arall yw marwolaeth, mae'n golled dros dro ac o'r herwydd yn achos tristwch, ond tydi o ddim yn drasiedi.

Gwendid yr edefyn yma yw ei fod yn dechrau efo rhagdybiaeth anghrediniwr, ac yn disgwyl i grediniwr ymateb efo'r un rhagdybiaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Boibrychan » Gwe 06 Meh 2008 3:09 am

Dwi'n deall eich agwedd chi gredinwyr ond mae'n peri dryswch mawr i fi. Yn lle damio Duw am adael i ddeargeyn ladd miloedd o bobol prun ai am ei fod ddim yn medru/ ddim eisiau ymyryd, chi'n dweud diolch Duw am brawf arall i fy ffydd gadarn.

Lle wela'i gyfle synhwyrol ar gyfer gwanhau eich ffydd mae'n eich cryfhau, chi'n greaduriaid od iawn. Os o'n i'n sinic bydden i'n dweud ei fod yn arwydd o ban mor gryf yw'r swyn hypnotig sydd arnoch chi gyd!

Heb fod ar maes-e am chydig fisoedd oherwydd mis Ebrill fu fy fam farw yn ifanc a sydyn. Dynes grefyddol a thyner a chariadus iawn a mae'r sylw gan y gymuned grefyddol, ein gyn bregethwyr ac ati wedi bod yn brofiad od. Mae nhw yn sylwi falle bydde fe'n gwneud i Dad gwestiynu ei ffydd ond yn amcan na ddylse fe. Gwasanaethau coffa yn bwysig ond teimlo fel "recruitment drive" i fi ac yn bersonol dim eisiau "breichau Duw amdana'i" bydde wedi bod yn well os oedd o heb adael i un o'i rai da i'n gadael ni yn y lle cyntaf.

Ond eto enghraifft arall mai un sydd ddim yn credu sy'n dweud lle mae Duw? Drysu fi pam fod y rhai sy'n credu ddim yn dweud yr un fath?

Mae'n debyg ro'n i'n set i fod yn anghredinwr o'n ifanc iawn er fy mod wedi byw fel gwadwr am sawl blwyddyn wedyn yn ceisio plesio fy nheulu hefyd, gan fod un cyn bregethwr wedi ysgrifennu mewn cofint i mam ym mhapur Y Tyst fy mod wedi'w ofyn yn saith mlwydd oed;
"Os mai Duw wnaeth y byd pwy wnaeth Duw?" o'n i wedi anghofio am hyn ond mae'n dangos bod y cwestiynu yn fy meddwl wedi bod yn mynd ymlaen ers blynyddoedd.

Dyw colli mam heb newid fy meddwl i am fodolaeth Duw ond mae'r ffaith ei fod heb newid meddwl neb yn syndod i mi. Dwi'n parchu Dad a'r teulu a ffrindiau sy'n dal i gredu a falle'n defnyddio ffydd i'w helpu ac wrth gwrs yn gorfod bod yn athiest bach tawel yn ei cwmni, ond mae yn peri syndod mawr i fi y diffyg cwestiynu.
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Boibrychan » Gwe 06 Meh 2008 3:24 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae'r rheswm am y gwahaniaeth yn eithaf syml, sef agwedd at farwolaeth.

I'r anghrediniwr mae marwolaeth yn ddiwedd, yn golled aruthrol, yn drasiedi.

I'r crediniwr, dechrau taith arall yw marwolaeth, mae'n golled dros dro ac o'r herwydd yn achos tristwch, ond tydi o ddim yn drasiedi.



Hoffwn i fedru credu felly am y rhesymau amgen uchod ond fedra'i ddim.
Deall be ti'n ddweud ond falle felly eich bod chi'n credu fel bod chi'n medru ymdopi a marwolaeth trwy yn fy marn i byw mewn celwydd sy'n cadw pawb yn hapus ac yn gwneud cam ar fywyd daearol rhywun trwy credu bod na fwy i ddod.

Wrth gwrs ei fod yn drasiedi yn un o'r llawer o drasiediau sy'n digwydd yn y byd yma. Dwi'n ymdopi gyda atgofion melys ac yn ymdopi yn reit dda er fod ni angredinwyr fod yn bobl hynod o drist am fod ein bywydau mor wag!
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Duw » Sad 07 Meh 2008 12:08 am

HRF - gwendid yw dechrau edefyn o safbwynt anffyddiaeth - sut allaf wneud unrhyw ffordd arall?

Dwi bron a chytuno 'da hyn:
Hen Rech Flin a ddywedodd:Yng ngwyneb trychineb mae'r crediniwr yn gofyn Sut gall fy nuw fy nghynnal trwy'r fath drychineb?

Yr un sy' ddim yn credu ym modolaeth unrhyw fath o dduwdod sy'n gofyn lle mae Duw?

Mae'r rheswm am y gwahaniaeth yn eithaf syml, sef agwedd at farwolaeth.


"Lle mae Duw?" - fi? Na dwi ddim yn gofyn y cwestiwn hwnnw o gwbl i'n hunan (i brofocio trafodaeth efallai, ond nid unrhyw bryd arall). Dyw Duw ddim yn ffactor yn fy mywyd, ond rwyn synnu bod pobol mas 'na sy'n dal yn credu, ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn hwnnw.

Mae colled yn eich gwneud yn gryfach o ran eich crefydd. I gredwyr, eu ffydd yw'r peth pwysicaf mewn bywyd, felly ydy'n deg i ddweud eich bod yn croesawu trychinebau personol i gryfhau eich ffydd?? Faint ohonoch sy'n ysu bod fel Lot, druan bach?

Yn bersonol, dwi ddim ishe Duw i ddelio gyda thristwch personol. Mae pawb yn galaru yn dilyn marwolaeth (fel ddwedodd Boibrychan) ond mae gen i ffydd yn fy hun i symud mlaen. Os dwi'n lwcus byddai 'ma am rhyw 30 mlynedd arall ac yna ta ta bodolaeth, nice while it lasted. Ydw i'n becso? Na, pam? Dyma natur pethe byw - geni - atgenhedlu - marw. Serch hynny, mae gen i fwy o barch at fywydau pobol eraill achos dyna'r cyfan fydd - dim ail gyfle unwaith i'r corff fynd offline. Beth bynnag, dechre ranto.

Mae sawl cristion wedi siarad gydag awdurdod ar faterion yr ysbryd glan ayyb, ond sut gall berson dilyn Duw sy'n cymryd dileit mewn profi unigolion - caniatau pethe cas i ddigwydd i nhw a gweld sut mae'n nhw'n ymdopi. Os ydynt yn hapus oherwydd bod ganddyn nhw ffydd gadarn - llongyfarchiadau, come on down, dyma'r allweddi i'r nen. Ond, os nac yw'r ffydd yn 100% a bod amheuon ac anhapusrwydd difrifol am weddill bywyd y poor wretch - go to hell, go directly to hell, do not pass go, do not collect £200.

Dwi reli ddim am fod yn sarhaus, ond ma'ch ffydd yn bafflo'r creadur syml hwn.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Hen Rech Flin » Sad 07 Meh 2008 3:37 am

Mewn ffordd od ar y naw, mae'r dadleuon uchod yn ceisio dadlau bod barn anghredinwyr am Dduw yn parchu Duw (nad yw'n bod, yn eu tyb hwy) mwy nag ydyw barn y crediniwr am Dduw. :?

Mae'r anghredinwyr yn dweud bydda Dduw byth yn caniatáu i fam ifanc marw o gancr, na gadel i blentyn marw mewn trychineb. Maen nhw'n gosod safon ar gyfer Duw, ac o ganfod bod eu safon ddim yn cael ei gyrraedd yn gweld hynny fel prawf diamheuol nad ydy Duw yn bodoli.

Yn ôl ei thystysgrif marwolaeth bu fy nain annwyl, yr un anwylaf a fu, marw o achosion naturiol.

Oni fyddwn yn ymddangos yn hurtyn petawn yn dewed nid ydwyf yn credu mewn achosion naturiol o'r herwydd? Trwy ladd Nain, fe syrthiodd achos natur i lefel is nag oeddwn yn disgwyl, felly dydy natur, yn amlwg, ddim yn bodoli!

Dadleuon o'r un safon hurt sy'n cael eu cynnig uchod.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron