Tudalen 1 o 1

Cyngwystlo ar grefydd

PostioPostiwyd: Sul 01 Meh 2008 4:04 am
gan Hen Rech Flin
Rwy'n chwilio am ddyfyniad. Byrdwn y dyfyniad yw:

Os am roi bet ar fodolaeth Duw, y peth doethaf i'w gwneud yw cefnogi'r achos dwyfol. Os nad yw Duw yn bod, ni fydd dy gred yn gwneud gwahaniaeth tragwyddol. Os yw Duw yn bod ac yr wyt yn anghrediniwr, gall wneud uffern o wahaniaeth tragwyddol.

Mae gen i ryw syniad yng nghefn fy meddwl mai'r dramodydd Ffrenig Victor Hugo bia'r dyfyniad, ond rwy'n ansicir.

Er chwilio fy holl lyfrau dyfyniadau, a Gwglo pob math o amrywiadau ar y syniad, rwy'n methu'n lan cael hyd i'r dyfyniad. Oes yna aelod o'r Maes yn gwybod y dyfyniad rwy'n chwilio amdani?

O.N.
Cyn i'r corachod o'r naill ochor neu'r llall glanio ar yr edefyn fel clêr ar dom, chwilio am ddyfyniad ydwyf, nid ffrae am rinweddau neu ddiffyg rhinweddau'r syniad.

Re: Cyngwystlo ar grefydd

PostioPostiwyd: Sul 01 Meh 2008 7:22 am
gan sian
Hwn ti'n feddwl?

Re: Cyngwystlo ar grefydd

PostioPostiwyd: Sul 01 Meh 2008 6:15 pm
gan ceribethlem
O'n i'n meddwl mai Voltaire wedodd e', ond mae linc Sian yn awgrymu'n wahanol.

Re: Cyngwystlo ar grefydd

PostioPostiwyd: Sul 01 Meh 2008 7:28 pm
gan Cilan
O na fyddai pethau mor syml ag y mae Pascal yn ei awgrymu.
Rydw i'n ei chael yn anodd iawn i weld sut y mae penderfynu credu ym modolaeth Duw hollalluog 'jesd rhag ofn'. Os ydi Duw yn hollalluog, mae'r Duw hwnnw'n mynd i wybod nad ydyw rhywun yn credu go iawn, tydi? Neu mi fasa pob enaid yn 'gadwedig'.
Ond dydi petha ddim mor syml ag yr ydw i'n ei awgrymu 'chwaith, mae'n siwr. :?

Re: Cyngwystlo ar grefydd

PostioPostiwyd: Sul 01 Meh 2008 7:53 pm
gan Duw
Ceri - dwi meddwl roedd Voltaire yn dipyn o foi - ansicr os fyddai fe wedi dweud shwd beth hurt:

As long as people believe in absurdities they will continue to commit atrocities.

Faith consists in believing when it is beyond the power of reason to believe.

God is a comedian, playing to an audience too afraid to laugh.

I have only ever made one prayer to God, a very short one: O Lord, make my enemies ridiculous. And God granted it.

If God created us in his own image, we have more than reciprocated.

Er, falle fy mod yn anghywir. Mae f'arian i ar Pascal.

Re: Cyngwystlo ar grefydd

PostioPostiwyd: Sul 01 Meh 2008 10:13 pm
gan Hen Rech Flin
sian a ddywedodd:Hwn ti'n feddwl?

Dolch o galon Sian