Tudalen 1 o 1

Protest y Gymanfa

PostioPostiwyd: Maw 03 Meh 2008 2:34 am
gan Hen Rech Flin
Gan nad oes sylw wedi ei roi i'r achos yn y wasg draddodiadol, dyma gyfeiriad at adroddiad ar fy mlog am hanes y brotest a fu tu allan i Gymanfa Ganu Eisteddfod yr Urdd nos Sul diwethaf:

http://henrechflin.blogspot.com/2008/06 ... fodol.html

a chefndir yr achos

http://henrechflin.blogspot.com/2008/01 ... n-cas.html

Re: Protest y Gymanfa

PostioPostiwyd: Maw 03 Meh 2008 8:13 am
gan Rhys Llwyd
Beth yw dadl swyddogion y capel felly?

Re: Protest y Gymanfa

PostioPostiwyd: Mer 04 Meh 2008 12:42 am
gan Hen Rech Flin
Rhys Llwyd a ddywedodd:Beth yw dadl swyddogion y capel felly?



Yn ôl y llythyr twrnai a derbyniwyd gan denant y tŷ, achos y capel yw eu bod yn ei ddigartrefi oherwydd bod ganddynt hawl gyfreithiol i wneud hynny heb roi achos.

Yn fy nhybiaeth i tydi hynny ddim yn digion da i gapel, mae gan gapel dyletswydd i ymddwyn yn ôl safonau moesol yn ogystal â llythyren gyfraith gwlad.

Yn ol dy sylw ar y post yr wyt ti di cael gwybod am y wir reswm dros wneud y gwron yn ddigartref . Mae'r gwirionedd yna wedi tymheru dy wylltineb tuag at swyddogion y capel ar ôl clywed eu hachos nhw. Rwy'n sicr byddai'r tenant ei hun yn hoffi gwybod be oedd y rhesymau hyn, gan nad oes neb wedi trafferthu eu rhannu ag ef.

Re: Protest y Gymanfa

PostioPostiwyd: Mer 04 Meh 2008 3:53 pm
gan Mali
Diolch am yr ypdêt a'r lluniau HRF .
Be 'di hanes y gwr rwan?