Tudalen 1 o 2

Ffarwel rooney

PostioPostiwyd: Sul 29 Meh 2008 9:33 pm
gan Duw
Mae'n ymddangos y bod rooney druan wedi darfod. Dim un post ers 02/06! Mae gennyf lawer o atgofion melys o'r ffieiddyn, a fyddech gystal a rhannu'ch hoff rhai? Pwy a wyr, falle y gwelwn atgyfodiad! Dyw pethe ddim cweit r'un peth hebddo. :ing:

Re: Ffarwel rooney

PostioPostiwyd: Sul 29 Meh 2008 10:07 pm
gan Macsen
Ti jesd isio fo nol achos bo ti angen cristion eithafol fel ffoil i dy anffyddiaeth eithafol. :rolio:

I aralleirio'r Joker yn y ffilm Batman newydd: "Rooney, you complete me."

Re: Ffarwel rooney

PostioPostiwyd: Llun 30 Meh 2008 11:06 am
gan Duw
Allai ddim anghytuno 'da ti Macsen. Ni all eithafwyr fodoli heb fod eithafwyr ar gael ar y pegwn arall. Mae fy mysedd yn ysu am ddadl marathon di-ystyr, hollol ddi-bwys arall. :crechwen:

Re: Ffarwel rooney

PostioPostiwyd: Llun 07 Gor 2008 2:41 pm
gan Dylan
Macsen a ddywedodd:anffyddiaeth eithafol. :rolio:


be ddiawl ydi un o rheiny be bynnag

Re: Ffarwel rooney

PostioPostiwyd: Llun 07 Gor 2008 3:17 pm
gan Macsen
Dylan a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:anffyddiaeth eithafol. :rolio:

be ddiawl ydi un o rheiny be bynnag

Rywbeth sy'n gyffredin i bob defnyddiwr ar y Maes gyda enw sy'n dechrau gyda 'D'.

Re: Ffarwel rooney

PostioPostiwyd: Llun 07 Gor 2008 9:13 pm
gan Duw
Macsen a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:anffyddiaeth eithafol. :rolio:

be ddiawl ydi un o rheiny be bynnag

Rywbeth sy'n gyffredin i bob defnyddiwr ar y Maes gyda enw sy'n dechrau gyda 'D'.


!Egad!

Re: Ffarwel rooney

PostioPostiwyd: Maw 08 Gor 2008 5:44 pm
gan Chickenfoot
Cnociwch tair gwaith ar y plenfwd os wyt ti isio Rooney; dwywaith ar y pibell, if the feeling is nay!

Re: Ffarwel rooney

PostioPostiwyd: Mer 09 Gor 2008 1:21 pm
gan Barbarella
Duw a ddywedodd:Mae'n ymddangos y bod rooney druan wedi darfod.


Odd e jysd yn ormod o waith i gadw'r alter-ego i fynd, sori. Dwi di diflasu ar fod yn rooney, felly fyddai nôl ar y Maes fel fy nghymeriad gwreiddiol o hyn allan - Barbarella.

Heddwch i lwch rooney, mae Babs nôl yn y tŷ 8)

Re: Ffarwel rooney

PostioPostiwyd: Mer 09 Gor 2008 1:25 pm
gan sian
Croeso nôl ond paid â neud e 'to :D

Re: Ffarwel rooney

PostioPostiwyd: Mer 09 Gor 2008 1:36 pm
gan Rhys Llwyd
Barbarella a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Mae'n ymddangos y bod rooney druan wedi darfod.


Odd e jysd yn ormod o waith i gadw'r alter-ego i fynd, sori. Dwi di diflasu ar fod yn rooney, felly fyddai nôl ar y Maes fel fy nghymeriad gwreiddiol o hyn allan - Barbarella.

Heddwch i lwch rooney, mae Babs nôl yn y tŷ 8)


Plis deud mae tynnu ein coes wyt ti Barbs?! :ofn: