Pan ro'n i'n fyfyriwr yn Aber, roedd sawl un wedi dweud/honni nad ydw i'n Gristion, am wn i yn bennaf am nad ydw i'n credu bod rhaid derbyn pob rhan o'r Beibl fel gair Duw. (e.e. dwi ddim o anghenraid yn credu bod gwrywgydiaeth yn anghywir, na chwaith rhyw cyn priodi, o anghenraid).
Y ddadl a ddefnyddid, droeon, oedd na ellid dewis a dethol rhannau o'r Beibl i gredu neu beidio. Unwaith rwyt ti'n dechrau tynnu darnau allan, meddid, bydd yr holl beth yn dymchwel.
Ond mae na ddarnau/syniadau yn y Beibl nad yw'r Cristnogion sydd â'r farn hon yn eu dilyn hyd yn oed, e.e. 1 Corinthiaid, Pennod 11, sy'n dweud bod merched yn fod i orchuddio eu pennau wrth weddio. Fe glywais i am rywun yn herio un o'r Cristnogion hyn ar y pwynt hwn, a'i ateb e oedd rhywbeth fel "Ond arferiad yr oes oedd hynny, mae pethau'n wahanol erbyn hyn".
Wel DY!, byddwn i'n dadlau mai "arferiad yr oes" (a rhagfarn yr oes) oedd gwrthod gwrywgydiaeth, gwrthod rhyw cyn priodoi rhwng dau sy'n caru ei gilydd ac yn bwriadu treulio'u bywyd gyda'i gilydd, gwrthod rhoi llais/pwer i'r ferch yn yr eglwys, ac ati.
Felly, a fyddai rhywun sy'n credu bod yn rhaid derbyn a chredu'r Beibl yn ei gyfanrwydd, yn fodlon bwrw ymateb i hyn? Diolch
(Dwi ddim yn trio bod yn pici - mae gen i ddiddordeb go iawn i wybod barn pobl).