Dewis a dethol o'r Beibl

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dewis a dethol o'r Beibl

Postiogan Iwan Rhys » Iau 10 Gor 2008 7:52 am

Pan ro'n i'n fyfyriwr yn Aber, roedd sawl un wedi dweud/honni nad ydw i'n Gristion, am wn i yn bennaf am nad ydw i'n credu bod rhaid derbyn pob rhan o'r Beibl fel gair Duw. (e.e. dwi ddim o anghenraid yn credu bod gwrywgydiaeth yn anghywir, na chwaith rhyw cyn priodi, o anghenraid).

Y ddadl a ddefnyddid, droeon, oedd na ellid dewis a dethol rhannau o'r Beibl i gredu neu beidio. Unwaith rwyt ti'n dechrau tynnu darnau allan, meddid, bydd yr holl beth yn dymchwel.

Ond mae na ddarnau/syniadau yn y Beibl nad yw'r Cristnogion sydd â'r farn hon yn eu dilyn hyd yn oed, e.e. 1 Corinthiaid, Pennod 11, sy'n dweud bod merched yn fod i orchuddio eu pennau wrth weddio. Fe glywais i am rywun yn herio un o'r Cristnogion hyn ar y pwynt hwn, a'i ateb e oedd rhywbeth fel "Ond arferiad yr oes oedd hynny, mae pethau'n wahanol erbyn hyn".

Wel DY!, byddwn i'n dadlau mai "arferiad yr oes" (a rhagfarn yr oes) oedd gwrthod gwrywgydiaeth, gwrthod rhyw cyn priodoi rhwng dau sy'n caru ei gilydd ac yn bwriadu treulio'u bywyd gyda'i gilydd, gwrthod rhoi llais/pwer i'r ferch yn yr eglwys, ac ati.

Felly, a fyddai rhywun sy'n credu bod yn rhaid derbyn a chredu'r Beibl yn ei gyfanrwydd, yn fodlon bwrw ymateb i hyn? Diolch

(Dwi ddim yn trio bod yn pici - mae gen i ddiddordeb go iawn i wybod barn pobl).
Fel mollusc yn syrthio i gysgu, neu fel dwy falwen yn caru, siwr o bleser yw blasu'n ara' deg y gwyn a'r du.
Iwan Rhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 219
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 11:28 pm
Lleoliad: Wellington, Seland Newydd

Re: Dewis a dethol o'r Beibl

Postiogan Chickenfoot » Iau 10 Gor 2008 5:30 pm

Be' dw i 'm yn daeall yw pam fod pobl yn dweud fod son am darnau o'r Beibl sydd yn hollol ffiaidd - lladd plant sy'n gwrthryfelgar;torri foreskins eich gelynion i ffwrdd mewn rhyfeloedd; achosion o ladd ceithwas weithiau yn iawn; ceithwasaeth yn gyffredin; dweud fod merched ar eu periods yn "unclean" - "allan o gydestun"?

Ym mha gydestunm basa'r pethau yma'n iawn?

Hefyd, os mai gair Duw ei hun yw'r Beibl, pam oedd rhaid cael fersiwn 2.0? Os oedd duw perffaith yn rhoi ei destament, 'sa ti'n meddwl basa fo'n ddweud y peth i bobl fasa'n cael y peth yn gywir tro cyntaf.

Hefyd, pam mae Iesu ond yn iachau y pobl sal mae'n digwydd dod ar draws, a pham oedd Duw angen arberth am ein pechodion. Pam fod Duw mor dreisgar? Pam fod Duw yn ddweud "it's my way or the highway?" Pam yn union ydw i fod i ddilyn ei reolau yn yr Hen Destament os ydi o'n anghywir?

Pam, oes yw achosion o bobl yn iachau yn "wyrthiol", pam dim on rhai bobl mae Duw yn iachau? Pam dydi Duw byth wedi iachau amputee?
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron