Gene Robinson - arwr

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gene Robinson - arwr

Postiogan johnkeynes » Llun 14 Gor 2008 10:03 am

http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/americas/3208586.stm

Gene Robinson, yn syml , arwr sydd yn brwydro dros ei egwyddorion. Dyn dewr sydd yn dod a gobaith i filiynau o hoywon ar draws y byd. Mewn cymdeithas ble ma homoffobia dal yn bodoli, gobeithio bydd Gene Robinson yn gallu newid agwedd nifer yn yr Eglwys Anglicanaidd (a capeli/egwlysi cristnogol eraill). Mae yna nifer o gristnogion da a cariadus sydd yn cefnogi hawliau sifil ac yn derbyn hoywon i fewn ir Eglwys, ond yn anffodus mae yna dal elfennau homoffobaidd o fewn yr Eglwys sydd yn pregethu casineb a discrimination.

Gene Robinson, yn syml, un o arwyr mawr ymgyrch hawliau sifil y ganrif yma. Pob lwc a pob dymuniad da yn ei ymgyrch yw fy neges i.
johnkeynes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Maw 24 Meh 2008 10:19 am

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Jon Bon Jela » Llun 14 Gor 2008 10:05 am

Eiliaf :)
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Duw » Llun 14 Gor 2008 11:26 am

Cytuno a'r sylwadau ynglyn a rhagfarn, ond beth yw safbwynt yr eglwys? Beth yw'r Beibl yn dweud ynglyn a hoywder? Os ydy'r Beibl yn eu condemio, sut all berson hoyw ddilyn crefydd sydd yn ei gondemio? Nid pwynt o fod yn PC yw hwn, ond egwyddor crefyddol. Os ydy person angen bod yn rhan o sefydliad fel yr Eglwys Seisnig am eu bod yn cytuno gyda'r ddogma, nad yw'n rhyfedd wedyn eu bod yn "pechu" yn ol y ddogma?

Er, gallwch wastod dechrau crefydd (neu o leiaf offshoot) eich hunain sy'n derbyn pobl hoyw fel y maen nhw. Dyma beth mae cristnogion wedi gwneud ers sefydliad cyntaf yr eglwys. Anghytuno = rhwygo. Mae wastod ffordd o gwmpas dogma anghyfleus.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan johnkeynes » Llun 14 Gor 2008 11:40 am

Duw a ddywedodd:Cytuno a'r sylwadau ynglyn a rhagfarn, ond beth yw safbwynt yr eglwys? Beth yw'r Beibl yn dweud ynglyn a hoywder? Os ydy'r Beibl yn eu condemio, sut all berson hoyw ddilyn crefydd sydd yn ei gondemio? Nid pwynt o fod yn PC yw hwn, ond egwyddor crefyddol. Os ydy person angen bod yn rhan o sefydliad fel yr Eglwys Seisnig am eu bod yn cytuno gyda'r ddogma, nad yw'n rhyfedd wedyn eu bod yn "pechu" yn ol y ddogma?

Er, gallwch wastod dechrau crefydd (neu o leiaf offshoot) eich hunain sy'n derbyn pobl hoyw fel y maen nhw. Dyma beth mae cristnogion wedi gwneud ers sefydliad cyntaf yr eglwys. Anghytuno = rhwygo. Mae wastod ffordd o gwmpas dogma anghyfleus.


Dwi yn gallu gweld dy bwynt di Duw..

Fy hunain, dwi yn gyffredinol yn cytuno a 90% o egwyddorion cristonogol. Ond galla i ddim wir derbyn yr elfen homoffobia (ac hefyd sexism) sydd ynddi.

Mae lot o gristnogion yn dweud bod rhaid i berson dderbyn y beibl yn llawn neu os ddim dyw'r person hynny ddim felly yn gristion. So be it, oherwydd bo fi yn erbyn yr elfennau homoffobia yn y beibl sydd aparantli yn dweud bod gwrigydiaeth yn bechod, edrych fel bo fi ddim yn gristion felly a byddai yn mynd i uffern.

Dweud ni, lot o contraction yn y llyfr mawr tho...Lot o bethe da ond rhai pethe drwg hefyd gallai ddim wir gytuno a o gwbl..
johnkeynes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Maw 24 Meh 2008 10:19 am

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Jon Bon Jela » Llun 14 Gor 2008 12:54 pm

Wel, diddorol yw nodi na wnaeth Iesu ei hun ddweud unrhyw beth am bobl hoyw. Dim ond y nutcase rhagrithiol ein hannwyl Sant Paul ar ei grwsad o Anschluss moesegol o gwmpas môr y canoldir yw'r unig enghraifft o homoffobia yn y Testament Newydd - dyn oedd yn erlid Cristnogion ac nad oedd wedi cwrdd â Iesu yn y lle cyntaf.

Mae'n siwr bod agweddau'r deinosoriaid ceidwadol yn yr eglwys Anglicanaidd yn gwneud i Iesu droi yn ei fedd. O, hang on...
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Duw » Llun 14 Gor 2008 4:44 pm

Jon Bon Jela a ddywedodd:Mae'n siwr bod agweddau'r deinosoriaid ceidwadol yn yr eglwys Anglicanaidd yn gwneud i Iesu droi yn ei fedd. O, hang on...


Digri iawn Jon!

Fy mroblem i (nid gyda pobl hoyw!!!) yw bod pobl yn dethol a dewis yr hyn rydynt am ddilyn. Pam ydy e'n iawn i dderbyn pobl hoyw mewn i'r Eglwys Seisnig nawr ond nid oedd yn iawn rhyw 20 mlynedd yn ol? Beth o ran ffydd a dogma (a chred sylfaenol) sydd wedi newid?

Ydy'n iawn bod crefydd yn esblygu? Fy nheimlad i yw dylai crefydd fod yn gyson, fel carreg neu angor i ddal ymlaen iddi yn ystod bywyd stormus. I mi mae crefydd yn newid oherwydd bod pobl am iddo newid - pobl sy'n siapo crefydd ac nid crefydd yn siapo pobl. Sawl dogma ydy'r catholigion wedi'u dileu neu'u meddalu dros y 50 mlynedd diwethaf?

Bydde mwy o barch gennyf at gristnogion os oeddent yn mynnu ar reolau nhw eu hunain ac yn gwrthod newid, ond rwyn deall, er mwyn aros yn gyfredol, mae rhaid plygu a mynd yn ol ar egwyddorion.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan dawncyfarwydd » Llun 14 Gor 2008 5:15 pm

Gen ti rai pethau mewn Cristnogaeth sy'n egwyddorion hollol sylfaenol sy'n amhosib eu gwrthod, pethau ysbrydol a diwinyddol (TULIP, rili). Mae gen ti bethau eraill sy'n ymwneud â materion ymarferol anodd yn eglwysi cyfnod Paul. Y broblem ydi bod Paul yn sôn am y problemau dynol yma mewn termau ysbrydol.

Er enghraifft, y rheswm y mae Paul yn gwahardd merched rhag bod yn arweinyddion ydi bod addysg merched yn wael yn y cyfnod hwnnw. Roedd hynny'n eu gwneud nhw'n fwy agored i goelio a phregethu rwtsh. OND dydi deud hynny ddim yn ddigon i Paul - mae o'n datgan rhesymau eraill pam na ddylai merched gael bod yn arweinyddion, sy'n deillio o Efa. Hefyd, a oedd Saul yn sgitsoffrenig? Mae hynny yn cael ei esbonio mewn termau o angylion drwg ac ati yn y Beibl ond, rili, ai problem seicolegol oedd hi?

So dan ni'n gorfod derbyn un o ddau esboniad:
a. bod pob dim mae Paul yn ddeud yn hollol dragwyddol gywir ac yn dod o Dduw.
b. bod diwinyddiaeth Paul yn gywir, ond bod rhai rhannau o'r hyn mae o'n ddeud - y rhannau ymarferol, yr oedd o'n eu rhoi fel cymorth i'r eglwysi oedd yn tyfu - yn gynnyrch ignorans ei gyfnod a'i fod o yn camdadogi arwyddocâd ysbrydol ar y problemau hyn. Ond mae hynny yn ein gorfodi ni i wadu bod y Beibl yn 100% ysbrydoledig. I mi mae hynny'n gwneud lot mwy o sens - ac yn amddiffyniad lot gwell o Gristnogaeth go iawn yn y diwedd.

Be sy'n fwya trawiadol am y ddadl yma ydi mai Gene Robinson ydi'r un sy'n swnio rwbath yn debyg i rywun sy wedi profi adnabyddiaeth o Iesu Grist. Mae lot o bobol yn anghofio: os ydi rhywun yn Gristion, yna mae o'n etholedig gan Dduw. I fi mae hynny'n trympio unrhyw ystyriaeth o ran rhywioldeb a phethau'r cnawd.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Duw » Llun 14 Gor 2008 6:37 pm

Digon teg Dawn, mae hwn yn anodd i mi, oherwydd dwi ddim yn credu fy hun, ond yn cydnabod hawl pawb i gredu beth bynnag y maen nhw ishe. Peth diwethaf ddylai digwydd yw bod adran o gymdeithas (e.e. pobl hoyw neu menywod) yn cael eu gwahardd o ddilyn crefydd neu gael yr hawl i leisio'u barn neu hyd yn oed cyfrannu at arwain ffyddwyr. Wrth edrych ar y darlun ehangach (rwyn derbyn dy ddadl ynglyn a Paul/Saul ger llaw), os oeddwn yn gredwr, anodd byddai i mi i dderbyn newidiadau i'm ffydd (cyd-destun = enwad) gan "arweinwyr goleuedig". Gallwn ddefnyddio'r ddadl o "oesoedd cyntefig" ac "anwybodaeth" i esbonio llawer o'r arferion hurt (am chwant geiriau gwell) ond hefyd gall y ddadl ei ddefnyddio i siapo'r ffydd gyfredol i bron unrhyw gyfeiriad. Rydym wedi gweld sawl cwlt yn cael eu geni o anfodlonrwydd neu gais am bwer personol.

Oes pwynt newid egwyddorion a dogma i wneud bywyd yn haws i bobl fan hyn ar y ddaear, dim ond i dal cael eu condemio ar ol marw?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan dawncyfarwydd » Llun 14 Gor 2008 6:56 pm

Sori - Saul yn yr Hen Destament o'n i'n feddwl, doedd hwnna ddim yn glir.

Be o'n i'n trio ddeud ydi bod y ddadl o fewn Cristnogaeth ei hun ddim yn open-and-shut. Wrth gwrs, mae unrhyw un seciwlar sy o blaid gwrthod hawliau i hoywon yn sic ac yn anwaraidd. Gellir maddau i Gristion, oherwydd bod y Beibl yn deud fel arall. O'n i'n trio deud y dylai Cristnogion fod yn edrych yn ofalus ar natur y Beibl ac ar be ydi craidd eu crefydd eu hunain.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Mr Gasyth » Llun 14 Gor 2008 7:45 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:Wrth gwrs, mae unrhyw un seciwlar sy o blaid gwrthod hawliau i hoywon yn sic ac yn anwaraidd. Gellir maddau i Gristion, oherwydd bod y Beibl yn deud fel arall.


:ofn: Ti o ddifri?

Mae daliadau sic an anwaraidd yn sic ac anwaraidd waeth bynnag sut mae'r sawl sy'n eu harddel yn cyfiawnhau hynny.

A fueset yn amddiffyn hunan-fomiwr Islamaidd yn erbyn cyhuddiado fod yn sic ac anwaraidd am ei fod yn credu fod y Qu'ran yn dweud wrtho ei fod yn iawn?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron