johnkeynes a ddywedodd: y ffordd dwi yn gweld e yw bod yr hen destament yn reit 'thatcherite' a wedyn y testament newydd yn newid cyfeiriad ac yn troi yn fwy 'centre-ground' pam ma Iesu yn dod, ac yn fwy empathetic/cariadus..Mae yn newid 'ton' , sdim dwy waith am hynny...a ma na anghysondenau yna...Mae yna darnau gwych ac hefyd darnau dwi'n llwyr anghytuno a.....A gallai ddim gytuno a elfennau gwrth-gyrygydol y beibl. Fel wedes i, os ma hynny yn meddwl bo fi yn mynd i fynd i uffern, achos nad i fi yn derbyn y Beibl 'yn llawn' , so be it.......(ill suffer in pain!)
Hen Destament – adain dde, Testament Newydd – adain chwith. Dydy e ddim mor clear-cut a hynny. Mae pobl yn dewis a dethol rhannau o'r Beibl: Rhai yn anwybyddu'r Hen Destament, ond wedyn beth am rannau o'r Testament Newydd sy'n cyfeirio at yr Hen? Rhai yn cyfeirio at yr Hen Destament fel fod Duw wedi ei ysgrifennu cyn iddo ef ei hun ddod yn Gristion! Dwi'n meddwl fod llawer o broblemau o fewn yr Eglwys yn codi oherwydd fod pobl yn penderfynu drostynt hwy eu hunain beth sy'n dderbyniol a beth sydd ddim. Mae pobl yn dweud eu bod nhw'n dilyn Iesu ac nid y Beibl, ar un llaw dwi'n medru cydymdeimlo a hynny felly beth am i ni ddilyn Iesu? Wel, mi oedd Iesu yn ddarllenwr mawr o'r Hen Destament, wrth gwrs ni ddarllenodd y TN o gwbl! A phan yn cyfeirio at yr 'ysgrythurau' (scriptures) cyfeirio mae Iesu at yr HD.
Daeth Iesu i'r byd i'n gwaredu mewn tri ffordd: daeth i'n (i.)
barnu drwy enwi drygioni fel drygioni, daeth i'n (ii.)
maddau drwy dorri cylch dieflig drygioni a gwneud cymod yn bosib ac fe ddaeth i'n (iii.)
dysgu drwy dangos sut mae cychwyn adferiad a bywyd newydd. Yn ei lyfr A Generous Orthodoxy (Zondervan, 2004) fe ddywed Brian McLaren:
'Sometimes God saves by judging. To speak of judgement as a form of salvation surprises people who have religious baggage and don't actually read the Bible... But in the biblical context, judgment is generally a good thing. It means the coming of truth and justice into our deceived and oppressed world.'
Yr hyn sy'n drawiadol am farn Duw yw ei fod bob tro yn dod law yn llaw a maddeuant, a dyma lle mae goleuni a dysgeidiaeth Iesu, y gwirionedd hwnnw, yn torri trwyddo, hyd yn oed yn yr hen destament. O ddyfynnu McLaren eto:
'Salvation is what happens when we experience both judgment and forgiveness, both justice (exposing the truth about our wrong) and mercy (forgoing the negative consequences we deserve). Without both we don't end up with true salvation... Forgiveness without conviction is not forgiveness: it is irresponsible toleration. It doesn't lead to reconciliation and peace; it leads to chaos.'
Felly wn i ddim sut mae hwn wedi cyfrannu i'r drafodaeth am Gene Robinson... ddim o gwbl amwni, ond gobeithio ei fod wedi rhoi peth golau ar beth mae'r Cristion yn ei gredu am awdurdod, cyfiawnder a chariad fel sydd i'w weld yn yr Hen Destament yn ogystal a'r Newydd.