Gene Robinson - arwr

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Jon Bon Jela » Maw 15 Gor 2008 10:23 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:
Jon Bon Jela a ddywedodd:Dwi'n falch gweld bod oes crefydd yn dod i ben yn raddol (yn fy marn i). Tybiaf mai geiriau'r gân uchod, ynghyd â datganiad cyffredinol hawliau dynol 1948 fydd Beibl y dyfodol.


Er mod i'n Gristion fedrai ddim gwadu fod cylch-oes bresennol Cristnogaeth yn dyfod i ben, yr hen anghydffurfiaeth yma yng Nghymru. Ond gwan iawn yw unrhyw ddadl fod oes crefydd yn dod i ben, yr unig beth sy'n digwydd yw fod pobl yn rhoi eu ffydd mewn pethau eraill: daeth rhywioldeb yn grefydd (ac mae'r diwydiant rhyw yn trin merchaid yn waeth na fu'r eglwys yn eu trin ar y gwaethaf), daeth Man U a Chelsea yn grefydd (mae temlau Old Traffod a Stamford Bridge yn gneud i Westminster Abby edrych fel pisho driw), daeth ffasiwn yn grefydd (mae Oxford Circus yn bowlen fawr sy'n ymdebygu i'r haid o bobl sy'n troi o gwmpas Mecca).

Boed i chi gytuno efo'r ffydd Gristnogol neu beidio yn wyneb y datblygiadau diweddara gyda's knife crimes yma does dim gwadu fod lles cymdeithasol Cristnogol wedi arwain at ddirywiad cymdeithasol dirfawr. Dudwch wrtha i beth mae annffyddiaeth wedi rhoi i ni yn lle'r ysgol Sul i'r bobl ifanc yma? Dim byd a hyd lenwith annffyddiaeth dwll Cristnogaeth gyda rhywbeth mwy na materiolaeth cyfalafol fedra i ddim tewi a sôn am Grist.


Wel, ti'n siarad â rhywun gafodd ei ddiarddel o'r ysgol Sul yn dair oed am ofyn ble oedd Adda ac Efa yn cadw'r deinosors yng ngardd Eden.

Sghwla, calon - sai'n gwadu dy hawl i grefydd, ond mae fel petai bod nifer o bobl crefyddol ddim yn caniatau eraill WRTHOD crefydd - sydd yn hawl dynol sylfaenol. Mae dy neges uchod yn profi hynny.
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 15 Gor 2008 10:45 am

Jon Bon Jela a ddywedodd:Wel, ti'n siarad â rhywun gafodd ei ddiarddel o'r ysgol Sul yn dair oed am ofyn ble oedd Adda ac Efa yn cadw'r deinosors yng ngardd Eden.

Sghwla, calon - sai'n gwadu dy hawl i grefydd, ond mae fel petai bod nifer o bobl crefyddol ddim yn caniatau eraill WRTHOD crefydd - sydd yn hawl dynol sylfaenol. Mae dy neges uchod yn profi hynny.


Nid gyda'r ffydd Gristnogol a Iesu mae dy issue di ond gyda crefydd sefydliadol, mae dy brofiad o'r ysgol Sul yn profi hynny. Dwi yn caniatau i ti wrthod Cristnogaeth (ond dwi'n gwrthod derbyn fod hi'n bosib i unrhywun wrthod crefydd oherwydd fod crefydda, boed yn Gristnogol neu yn faterol neu penodi ti dy hun yn Dduw yn ein greddf naturiol), dwi ddim yn theocrat ac felly dwi ddim yn credu mewn gorfodi Cristnogaeth ar bobl ond dwi yn credu fod yna slot "crefydd" ynom ni gyd ac fel Cristion dwi yn eio weld yn ddyletswydd i bwyntio allan fod Iesu yn ffitio'r slot yn well na hunan-hyder neu fateriolaeth. Ond o ran gwthio Cristnogaeth arno ti, as if, byddai hynny yn amhosib pe taw ni'n trio. Yr unig beth dwi'n gwneud ydy cyflwyno Iesu ac yna yn gadael i ti dderbyn neu wrthod... gwrthod yw dy benderfyniad yn amlwg, wnai barchu hynny er mod i'n credu fod amgennach ffordd i ti.

Dois i ar draws y dyfyniad yma yn ddiweddar:

Suppose I spot a serious fault with your car that will soon cause a life-threatening and so I warn you of it. It would be madness to say, ‘Don’t force your opinion on me.’ Suppose I knew of a wonderful free gift available for all who ask. It would be madness to say, ‘Don’t force your opinion on me.’


Dwi'n gwbod na wnei di gytuno JonBonJela ond siawns dy fod yn deall y gwahaniaeth rhwng cyflwyno fy ffydd i ti a'i orfodi arno ti?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan dawncyfarwydd » Maw 15 Gor 2008 10:48 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Cristnogaeth: Rho dy ffydd ynof fi a chei di faddeuant ac wedyn fe fydda i'n dy helpu di i wneud yr hwn a'r llall.
Ydi'r help yma'n cynnwys gwneud rhywun yn strêt?

Dwi'n credu hefyd bod angen deall yn iawn beth sy'n achosi natur rywiol amrywiol - ydi o'n rhywbeth biolegol ta'n benderfyniad personol/cymdeithasol? Dwi ddim yn gwbod dim am y wyddoniaeth (ond dwi'n siŵr mod i di darllen yn rhywle bod 'na dystiolaeth o wrywgydiaeth mewn anifeiliaid - difyr achos wrth gwrs does yna ddim pwysau cymdeithasol ar anifeiliaid). Ond hyn dwi'n wbod - dwi jyst yn methu bod yn attracted i ddynion; dio ddim yn bosib i fi. Dwi'n cymryd bod natur hoywon yn debyg iawn - na allan nhw ond bod yn attracted i ddynion. Os felly, does gynnyn nhw ddim dewis, mae o'n rhywbeth biolegol hollol naturiol, ac mae cosbi rhywun am fod yn hoyw mor abswrd â hela sinsiriaid.

Ond dwi wedi clywed Cristnogion yn siarad yn ymosodol am Gristion a ddaeth 'allan' - yr awgrym pendant oedd mai penderfyniad ymwybodol am resymau (na wnes i eu deall) cymdeithasol oedd o. Er bod y boi wedi aberthu eglwys ffyniannus a bywyd efo'i deulu. Roedden nhw'n trio gwneud allan mai cymhellion gwahanol i fod yn driw i'r hunan sy'n achosi i rywun 'fod yn hoyw'. Roedden nhw'n flin efo'r boi am ddod allan. Ac yn dyfynnu tystiolaeth od fel bod yna ardaloedd lle roedd cyfansoddiad y dŵr tap wedi achosi bod mwy o bobol yn hoyw yno.

Mi oedd ymgais digon gonest i lynu at y Beibl yn arwain at ignorans a siarad-ar-eu-cyfer eitha ffiaidd. Mae yna le i addysgu pobl ynglŷn â be yn union sy'n achosi bod rhai pobl yn hoyw a rhai ddim. Does dim angen i Gristnogion ofni edrych ar y Beibl yng ngoleuni'r hyn sy'n realiti (mwy neu lai) gwyddonol. Os ydi hynny'n arwain at ailystyried natur gwirionedd y Beibl, so be it oherwydd dwi'n credu y gall agor ein llygaid a meddwl am Gristnogaeth y tu allan i'w bybl ei hun arwain at well dealltwriaeth o be ydi Cristnogaeth go iawn.

Mae'r dyfyniad yma gan Awstin o Hipo yn reit ddifyr - ydi o'n berthnasol?
Awstin a ddywedodd:Usually, even a non-Christian knows something about the earth, the heavens, and the other elements of this world, about the motion and orbit of the stars and even their size and relative positions, about the predictable eclipses of the sun and moon, the cycles of the years and the seasons, about the kinds of animals, shrubs, stones, and so forth, and this knowledge he hold to as being certain from reason and experience. Now, it is a disgraceful and dangerous thing for an infidel to hear a Christian, presumably giving the meaning of Holy Scripture, talking nonsense on these topics; and we should take all means to prevent such an embarrassing situation, in which people show up vast ignorance in a Christian and laugh it to scorn. The shame is not so much that an ignorant individual is derided, but that people outside the household of faith think our sacred writers held such opinions, and, to the great loss of those for whose salvation we toil, the writers of our Scripture are criticized and rejected as unlearned men. If they find a Christian mistaken in a field which they themselves know well and hear him maintaining his foolish opinions about our books, how are they going to believe those books in matters concerning the resurrection of the dead, the hope of eternal life, and the kingdom of heaven, when they think their pages are full of falsehoods and on facts which they themselves have learnt from experience and the light of reason? Reckless and incompetent expounders of Holy Scripture bring untold trouble and sorrow on their wiser brethren when they are caught in one of their mischievous false opinions and are taken to task by those who are not bound by the authority of our sacred books. For then, to defend their utterly foolish and obviously untrue statements, they will try to call upon Holy Scripture for proof and even recite from memory many passages which they think support their position, although they understand neither what they say nor the things about which they make assertion. [1 Timothy 1.7]



(GYDA LLAW: dwi ddim yn licio'r awgrym 'gorfod credu'r holl Feibl i fod yn Gristion'. Cristion ydi rhywun y mae Duw wedi ei ethol, Crist wedi marw drosto, ac y mae'r Ysbryd Glân wedi ei dynnu trwy fwlch yr argyhoeddiad. Dim mwy, dim llai. Mae yna lot o Gristnogion sy ddim yn credu'r un fath yn ddiwinyddol â fi - Arminiaid ac ati. Ond dwi ddim yn deud bod nhw ddim yn Gristnogion - mae hynny'n wirion. Dydi anghytundeb ynglŷn â mater Beiblaidd ddim yn trympio gwaith gras Duw yn nhragwyddoldeb, marwolaeth Iesu dros yr un etholedig a gwaith yr Ysbryd yn ei fywyd o!)
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Jon Bon Jela » Maw 15 Gor 2008 10:53 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:
Jon Bon Jela a ddywedodd:Wel, ti'n siarad â rhywun gafodd ei ddiarddel o'r ysgol Sul yn dair oed am ofyn ble oedd Adda ac Efa yn cadw'r deinosors yng ngardd Eden.

Sghwla, calon - sai'n gwadu dy hawl i grefydd, ond mae fel petai bod nifer o bobl crefyddol ddim yn caniatau eraill WRTHOD crefydd - sydd yn hawl dynol sylfaenol. Mae dy neges uchod yn profi hynny.


Nid gyda'r ffydd Gristnogol a Iesu mae dy issue di ond gyda crefydd sefydliadol, mae dy brofiad o'r ysgol Sul yn profi hynny. Dwi yn caniatau i ti wrthod Cristnogaeth (ond dwi'n gwrthod derbyn fod hi'n bosib i unrhywun wrthod crefydd oherwydd fod crefydda, boed yn Gristnogol neu yn faterol neu penodi ti dy hun yn Dduw yn ein greddf naturiol), dwi ddim yn theocrat ac felly dwi ddim yn credu mewn gorfodi Cristnogaeth ar bobl ond dwi yn credu fod yna slot "crefydd" ynom ni gyd ac fel Cristion dwi yn eio weld yn ddyletswydd i bwyntio allan fod Iesu yn ffitio'r slot yn well na hunan-hyder neu fateriolaeth. Ond o ran gwthio Cristnogaeth arno ti, as if, byddai hynny yn amhosib pe taw ni'n trio. Yr unig beth dwi'n gwneud ydy cyflwyno Iesu ac yna yn gadael i ti dderbyn neu wrthod... gwrthod yw dy benderfyniad yn amlwg, wnai barchu hynny er mod i'n credu fod amgennach ffordd i ti.

Dois i ar draws y dyfyniad yma yn ddiweddar:

Suppose I spot a serious fault with your car that will soon cause a life-threatening and so I warn you of it. It would be madness to say, ‘Don’t force your opinion on me.’ Suppose I knew of a wonderful free gift available for all who ask. It would be madness to say, ‘Don’t force your opinion on me.’


Dwi'n gwbod na wnei di gytuno JonBonJela ond siawns dy fod yn deall y gwahaniaeth rhwng cyflwyno fy ffydd i ti a'i orfodi arno ti?


Rhai pwyntiau teg iawn, ond rwyt ti'n dal i osod geiriau yn fy ngheg.

Weles i ddyfyniad diddorol ar boster yn ddiweddar...

Leviticus 18:22 says "Thou shalt not lie with mankind as with womankind. It is abomination."

Romans (methu cofio'r adnod) says "All those who commit adultery or steal [ ... ] will not inherit the Kingdom of God."

What do you say?
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Jon Bon Jela » Maw 15 Gor 2008 10:57 am

Llawer clap i Dawncyfarwydd

[JBJ - does dim angen dyfynnu y cwbwl lot bob tro ti'n ymateb, yn enwedig os nad wyt ti'n ymateb i unrhywbeth yn benodol - gol. ]
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 15 Gor 2008 11:00 am

Jon Bon Jela a ddywedodd:

Weles i ddyfyniad diddorol ar boster yn ddiweddar...

Leviticus 18:22 says "Thou shalt not lie with mankind as with womankind. It is abomination."

Romans (methu cofio'r adnod) says "All those who commit adultery or steal [ ... ] will not inherit the Kingdom of God."

What do you say?


Beth dwi'n ddeud? Wel, dyma mae'r ysgyrthurau yn ddeud....

Rhufeiniaid 3:10-18 a ddywedodd:"Does gan neb berthynas iawn gyda Duw – neb o gwbl! Does neb sy'n deall go iawn, neb sydd wir yn ceisio Duw. Mae pawb wedi troi cefn arno, ac yn dda i ddim. Does neb yn gwneud daioni – dim un!" "Mae eu geiriau’n drewi fel beddau agored; dim ond twyll sydd ar eu tafodau." "Mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau." "Mae eu cegau yn llawn melltith a chwerwedd." "Maen nhw’n barod iawn i ladd; mae dinistr a dioddefaint yn eu dilyn nhw i bobman, Dyn nhw'n gwybod dim am wir heddwch." "Does ganddyn nhw ddim parch at Dduw o gwbl."


Ond yn wahanol i dy selective quoting di JohnBonJela beth am i ni ddarllen ymlaen:

Rhufeiniaid 3:21-26 a ddywedodd:Ond mae Duw bellach wedi dangos i ni sut allwn ni gael perthynas iawn gydag e. Dim cadw’r Gyfraith Iddewig ydy’r ffordd, er bod y Gyfraith a'r Proffwydi yn dangos y ffordd i ni. Y rhai sy’n credu sy’n cael perthynas iawn gyda Duw, am fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon. Mae’r un fath i bawb, am fod pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw ar eu pennau eu hunain. Duw sy’n gwneud y berthynas yn iawn. Dyma ydy rhodd Duw i ni, am fod y Meseia Iesu wedi gwneud popeth oedd ei angen i'n gollwng ni’n rhydd. Trwy ei ffyddlondeb yn tywallt ei waed, rhoddodd Duw e yn aberth i gymryd y gosb am ein pechod ni. Cafodd ei gosbi yn ein lle ni! Roedd yn dangos fod Duw yn berffaith deg, er bod pechodau pobl yn y gorffennol heb eu cosbi cyn hyn. Bod yn amyneddgar oedd e. Ac mae’n dangos ei fod yn dal yn berffaith deg, wrth iddo dderbyn y rhai sy'n credu yn Iesu i berthynas iawn ag e’i hun.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Jon Bon Jela » Maw 15 Gor 2008 11:04 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:
Jon Bon Jela a ddywedodd:

Weles i ddyfyniad diddorol ar boster yn ddiweddar...

Leviticus 18:22 says "Thou shalt not lie with mankind as with womankind. It is abomination."

Romans (methu cofio'r adnod) says "All those who commit adultery or steal [ ... ] will not inherit the Kingdom of God."

What do you say?


Beth dwi'n ddeud? Wel, dyma mae'r ysgyrthurau yn ddeud....

[


H.y. roedd y poster yn amlygu'r hawl i TI gael dweud dy ddweud. Os wyt ti'n cytuno neu'n anghytuno. Yn rhoi'r cyfle i ti benderfynu dros dy hun a bod hawl gyda ti i wrthod y claptrap sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o'r Beibl.

Rydym ni i gyd yn gymdeithasau, yn llywodraethau ac yn grefyddau ynom ni ein hunain, a dwi'n edrych ymlaen at y diwrnod pan allwn gydnabod hynny yn llaw a diffinio ein hunain fel unigolion yn hytrach na dibynnu ar awdurdod hanes i gyfiawnhau ein bodolaeth ar y blaned.
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 15 Gor 2008 11:06 am

JBJ - dwi ddim yn meddwl fod fy neges wedi dod fynny yn llaw gyda ti - wyt ti am ymateb i honna?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Jon Bon Jela » Maw 15 Gor 2008 11:17 am

Ond beth am dy farn di? Faint o dy fywyd wyt ti wir yn ei fyw os wyt ti'n dibynnu cymaint ar grefydd a syniadau sydd eisoes wedi eu datblygu i gyfiawnhau dy hun? Gyda llaw, dwi ddim yn credu bod taflu adnodau at ein gilydd mewn peli Pokemon yn syniad da.

I fi, dim ond geiriau mewn llyfr yw'r Beibl, ac mae gen i'r hawl i'w ddarllen neu i'w ddefnyddio i wasgu blodau neu gefnogi coes bord sy'n rhy fyr.
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan johnkeynes » Maw 15 Gor 2008 11:28 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:
johnkeynes a ddywedodd:Fe weles i erthygl ddim hir yn ol oedd yn son bod hunanladdiad ymysg nifer o ddynion ifanc yn yr Alban yn eu arddegau hwyr yn reit uchel. Rheswm mawr am hynny oedd oherwydd eu bod nhw yn hoyw/neu a tueddiadau hoyw au bod yn rhy ofnus i gwynebu'r sefyllfa.


Mae hyn wrth gwrs yn broblem enfawr. Ond fedri di ddim rhoi'r bai ar ddrws yr eglwys ag eithrio llond dwrn o enghreifftiau penodol trist oherwydd y gymdeithas ehangach seciwlar sydd ar fai. Dydy'r eglwys ddim yn cymeradwyo perthnasau rhywiol hetrorywiol tu allan i glymau priodas ond tydy pobl sydd wrthi tu allan i glymau priodas ddim yn lladd eu hunain na? Hynna yn profi mae nid pwysau yr eglwys sydd ar waith yn yr hanes drist ond pwysau'r gymdeithas seciwlar. Efallai mod i'n siarad ar fy nghyfer nawr, a dwi'n fodlon syrthio ar fy mai yn syth os ydw i, ond dwi'n reit ffyddiog y byddai person hoyw yn cael croeso cynhesach gan Gristnogion nag y byddai gan gymdeithasau seciwlar fel e.e. clybiau Rygbi, clybiau Ffermwyr Ifanc etc etc ac yn wahanol i'r Eglwys all y cymdeithasau hynny ddim cyfeirio at ddysgeidiaeth unrhyw Lyfr Sanctaidd (for argument's sake maen rhaid i chi dderbyn fod y Cristion yn ei weld fel llyfr sanctaidd) ac felly mae casineb at bobl hoyw o dy clybiau seciwlar yn ddim byd mwy na homoffobia pur, ofn yr hyn sy'n wahanol (o diar, ro ni'n gofyn am drwbwl o deud hynna!)

Mae angen i'r gymdeithas seciwlar fod yn gwbl niwtral ond mae hefyd angen i'r Eglwys gadw ei hawl i'w hannibyniaeth o ymyriad o dŷ'r Wladwriaeth.


Dwi yn cytuno mai dim bai yr Egwlys yw e yn gyfangwbl(hunanladdiadau ymysg dynion ifanc yr Alban)- ond fe allent yn sicr cymryd mwy o arweiniad yn y mater trwy ddweud y dylsai pobl cael eu derbyn yn y cymdeithas beth bynnag yw ei rhyw- maent wedi bod yn wan ar y mater, heb os.

Dwi yn cytuno hefyd , y bydde cristnogion yn rhoi 'croeso' i rhywun hoyw , yn wahanol i grwpiau eraill fath a clybiau rygbi etc...ond y pwynt yw, bydde nhw dal yn meddwl bod gwrigydiaeth yn anghywir ac o bosib, mewn rhai amgylchiadau yn ceisio eu perwasdio i droi i ffwrdd ou 'pechodau' - i fi ma hynny dal yn homoffobia . Fe welwyd hwn er enghraifft gyda gwraig gweinidog cyntaf Gogledd Iwerddon, Peter Robinson. Mae hi hithau hefyd yn aelod cynulliad Stormont. Mae'r hyn wedodd hi yn ddiweddar yn ffiaidd, ac yn homoffobia or fath gwaetha. Roedd hi yn son fe all gwrygydwyr cael ei 'ciwro'. Dyna'r fath o bethe odd yn digwydd yny 50au (a chyn hynny) pam odd gwrigydiaeth yn anghyfreithlon. Roedd nifer yn cael ei danfon/fforsio ir doctor er mwyn cael eu 'ciwro' oi rhywioldeb. Roedd hyn yn gyfnod ofnadwy ble roedd gwrigydwyr yn cael eu ymosod yn ffisegol ac yn emosiynol. Yn sicr dwi ddim am gweld cymdeithas yn mynd nol i'r cyfnod hynny. Pam ma pobl dylawnadol fath a hi yn dweud pethe fel na, ond cynyddu casineb a rhagfarn yn y gymdeithas sydd yn digwydd. Fe all hyn gynyddu trais yn erbyn hoywon ac arwain at sefyllfa ble mae homoffobia yn 'dderbyniol'.

Cymerir enghraifft diweddar hefyd, ble ennillodd dyn hoyw tribiwnal yn erbyn yr eglwys..fe brofodd ir tribiwnlys na cafodd swydd da'r egwlys fel swyddog ieuentcid oherwydd ei rhywiodeb. Fe ennillodd yr achos. Ble oedd arweiniad yr Eglwys fan hyn?

Pwy wnath son am 'love the sinner, not the sin' ?? mewn cyfraniad blaenorol...dwi yn meddwl bod yna elfen o wironedd mewn hynny.

Dwi wedi bod i nifer o gyfarofodydd Alffa yn y gorffennol. Rwf yn mwynhau'r trafodaethau yn fawr iawn yn y sesiynnau yma. Mae gen i lot o ffrinidau sydd yn mynd i Alffa sydd yn bobl caredig ac yn bobl da iawn. Er yn anghytuno ar brydiau,ac ar brydiau yn unig, dwi dal yn parchu eu barn nhw...Dwi, yn serch hynny, yn teimlo weithiau pan yn mynd i Alffa bod rhai (rhai yn unig, gaf fi pwysleisio)yn dilyn 'be bynnag' mae'r Beibl yn dweud . Ac ar gwrigydiaeth, pan yn trafod hyn, mae un neu ddau wedi siarad yn dweud ' wel mae'r beibl yn dweud bod e yn bechod....'etc etc...ie, ond be ma nhw acshiwali yn 'TEIMLO' am hyn ?..dwi yn meddwl nad yw nhw yn TEIMLO (sydd yn wahanol i DILYN syniad/polisi) bod gwrigydiaeth yn rong ond 'achos bod y beibl yn dweud hyn etc etc'.....Tydi pobl fel na ddim yn homffobaidd, ond dwi yn teimlo bod nhw ag ofn datgan barn sydd yn wahanol ir hyn allegedly sydd yn cael ei ddweud yn y beibl, rhag ofn bod nhw yn mynd i fynd i uffern o bosib, a nad yw nhw yn gristnogion llawn. Dwi yn tristhau yn hynny,dwi wastad yn dweud i bido gwadu eich teimladau a bod yn agored abathdi fe..ond fy moto i yw hwnna sbo

Dwi a diddordeb mewn crefydd a cristnogaeth yn enwedig . Fel wedes i , dwi yn cytuno a gwreiddiau cristnogol ond ma na rhai ishiws gyda'r beibl gallai jyst ddim cytuno a - gwrigydiaeth yw un ohoynt - mae agwedd at ferched yn un arall. Sori, ond gallai ddim. Dwi yn gatholig fy hunain (wel lapsed catholig dylwn i ddweud!!!) - a ma na rhai/lot o pethe fa na yn digwydd sydd yn wath byth, na'r Egwlys Anglicanaidd!!!
johnkeynes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Maw 24 Meh 2008 10:19 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron