Gene Robinson - arwr

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan dawncyfarwydd » Llun 14 Gor 2008 8:14 pm

Faswn i ddim yn amddiffyn daliadau sic ac anwaraidd. Ond mi faswn i yn deud bod angen delio yn fwy sensetif efo daliadau rhywun crefyddol, am fod rhywun sgen ffydd mor bendant siŵr ei fod o'n iawn a bod ei ddaliadau o yn cydymffurfio ag awdurdod uwch. Wrth gwrs nad oes modd esgusodi homoffobia - ond mae gen i gydymdeimlad efo rhywun sy'n arddel y fath ragfarn ac mae dileu'r gred honno yn anos os ydi'r un sy'n credu yn ei seilio hi ar berthynas â'i Greawdwr. Nes i drio dangos bod cred yn Nuw ddim yn cynnwys homoffobia by default.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan johnkeynes » Llun 14 Gor 2008 8:33 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:Faswn i ddim yn amddiffyn daliadau sic ac anwaraidd. Ond mi faswn i yn deud bod angen delio yn fwy sensetif efo daliadau rhywun crefyddol, am fod rhywun sgen ffydd mor bendant siŵr ei fod o'n iawn a bod ei ddaliadau o yn cydymffurfio ag awdurdod uwch. Wrth gwrs nad oes modd esgusodi homoffobia - ond mae gen i gydymdeimlad efo rhywun sy'n arddel y fath ragfarn ac mae dileu'r gred honno yn anos os ydi'r un sy'n credu yn ei seilio hi ar berthynas â'i Greawdwr. Nes i drio dangos bod cred yn Nuw ddim yn cynnwys homoffobia by default.


Mae hynny yn un ffordd arall o edrych arno fe. Ond ffordd i fi yn edrych arno fe yn glir - yn syml, os ma rhywun yn meddwl, yn teimlo ac or farn bod gwirygydiaeth yn bechod ac felly yn anghywir , yn berson homoffobaidd a tydw i ddim yn mynd i gydymdeimlo a nhw o gwbl!
Mae, ga i pwyslesio, cristnogion sydd yn derbyn pobl hoyw ac yn cefnogi eu hawliau sifil, ond mae, ar y run pryd elfen gref o homoffobia yn bodoli ymysg cristnogion hefyd, yn anffodus
johnkeynes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Maw 24 Meh 2008 10:19 am

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan dawncyfarwydd » Llun 14 Gor 2008 8:49 pm

johnkeynes a ddywedodd:Mae hynny yn un ffordd arall o edrych arno fe. Ond ffordd i fi yn edrych arno fe yn glir - yn syml, os ma rhywun yn meddwl, yn teimlo ac or farn bod gwirygydiaeth yn bechod ac felly yn anghywir , yn berson homoffobaidd a tydw i ddim yn mynd i gydymdeimlo a nhw o gwbl!
Ond alli di ddim cael gwared ar deimlad nad wyt ti wedi trio'i ddeall.

Dwi'n bendant fod modd dileu homoffobiaeth ffydd trwy reswm a heb ddymchwel Cristnogaeth os ydi Cristnogion yn fodlon ystyried yn iawn be ydi craidd eu ffydd nhw. Mae Eglwys Loegr wedi colli pob cyfeiriad a phendantrwydd diwinyddol ac felly dwi ddim yn rhagweld y caiff y ddadl ei datrys o fewn yr eglwys.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan johnkeynes » Llun 14 Gor 2008 9:08 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:
johnkeynes a ddywedodd:Mae hynny yn un ffordd arall o edrych arno fe. Ond ffordd i fi yn edrych arno fe yn glir - yn syml, os ma rhywun yn meddwl, yn teimlo ac or farn bod gwirygydiaeth yn bechod ac felly yn anghywir , yn berson homoffobaidd a tydw i ddim yn mynd i gydymdeimlo a nhw o gwbl!
Ond alli di ddim cael gwared ar deimlad nad wyt ti wedi trio'i ddeall.



Cytuno, os ma rhywun yn 'teimlo' mewn ffordd arbennig,ac yn y cyd-destun yma, da ni yn son am bobl sydd yn 'teimlo' atgasedd tuag at gwrygydwyr . Gelwir pobl sydd yn teimlo fel hyn yn homoffobaidd. Os na modd newid eu teimladau? Gobitho yn fawr..
johnkeynes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Maw 24 Meh 2008 10:19 am

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 14 Gor 2008 9:45 pm

johnkeynes a ddywedodd:da ni yn son am bobl sydd yn 'teimlo' atgasedd tuag at gwrygydwyr . Gelwir pobl sydd yn teimlo fel hyn yn homoffobaidd.


Maen wir bod yna bobl homoffobaidd i gael ond dwi'n meddwl dy fod briadd yn anheg JohnKeynes i baentio pob Cristion a'r un brwsh - o'i roi mewn cyd-destun arall, cymer unigolion hetrorywiol sy'n cysgu o gwmpas sy'n mynd yn erbyn y ddysgeidiaeth Gristnogol gan Dduw fod perthnasau rhywiol i'w hymarfer a'i mwynhau i'r eithaf o fewn clymau priodas - fel Cristion dwi ddim yn cyd-weld a hynny sef y busnes yma o gysgu rownd hyd yn oed yn hetrorywiol ond dwi ddim yn "teimlo" atgasedd at y bobl hynny, i'r gwrthwyneb rwy'n teimlo consyrn drostynt ac yn eu caru. Felly y pwynt dwi'n trio ei wneud yw hyn yw fod credu mewn "amgennach ffordd" ddim o'r rheidrwydd yn golygu eich bod chi'n "casau" y bobl sy'n ymarfer ffordd arall...

Doh! Do ni ddim am ymuno a'r drafodaeth yma. :(
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan sian » Llun 14 Gor 2008 9:49 pm

johnkeynes a ddywedodd:
dawncyfarwydd a ddywedodd:
johnkeynes a ddywedodd:Mae hynny yn un ffordd arall o edrych arno fe. Ond ffordd i fi yn edrych arno fe yn glir - yn syml, os ma rhywun yn meddwl, yn teimlo ac or farn bod gwirygydiaeth yn bechod ac felly yn anghywir , yn berson homoffobaidd a tydw i ddim yn mynd i gydymdeimlo a nhw o gwbl!
Ond alli di ddim cael gwared ar deimlad nad wyt ti wedi trio'i ddeall.



Cytuno, os ma rhywun yn 'teimlo' mewn ffordd arbennig,ac yn y cyd-destun yma, da ni yn son am bobl sydd yn 'teimlo' atgasedd tuag at gwrygydwyr . Gelwir pobl sydd yn teimlo fel hyn yn homoffobaidd. Os na modd newid eu teimladau? Gobitho yn fawr..


Dw i'n meddwl bod rhai pobl sy'n defnyddio crefydd fel rhyw fath o fasg i guddio homoffobia ond dw i hefyd yn siwr bod Cristnogion hollol ddidwyll sydd yn erbyn ordeinio pobl hoyw yn offeiriaid/esgobion oherwydd yr hyn sydd yn y Beibl a'r ffordd y mae'n nhw yn ei ddehongli. Dydi'r bobl hyn ddim yn casau pobl hoyw ac felly dydyn nhw ddim yn homoffobic. Mae peryg i eiriau fel homoffobia gael eu lluchio o gwmpas braidd.

dawncyfarwydd a ddywedodd:Be o'n i'n trio ddeud ydi bod y ddadl o fewn Cristnogaeth ei hun ddim yn open-and-shut. Wrth gwrs, mae unrhyw un seciwlar sy o blaid gwrthod hawliau i hoywon yn sic ac yn anwaraidd. Gellir maddau i Gristion, oherwydd bod y Beibl yn deud fel arall. O'n i'n trio deud y dylai Cristnogion fod yn edrych yn ofalus ar natur y Beibl ac ar be ydi craidd eu crefydd eu hunain.

Dw i ddim yn siwr be ti'n feddwl wrth "gwrthod hawliau i hoywon" - y tu allan i'r eglwys, wela i ddim fod modd cyfiawnhau trin pobl hoyw'n wahanol i neb arall.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Chickenfoot » Llun 14 Gor 2008 9:58 pm

Os ydi rheol yn y Beibl, a gair Duw ydi'r Beibl, yna dyna beth ddylia Cristnogion eu dilyn. Fedrwch chi ddim ailysgrifennu'r Beibl, gan dewis a dethol y darnau rydych yn cytuno a nhw.

Os yw Duw yn berffaith, rhoddod ei air i ddynion oedd yn mynd i'w ysgrifennu fel 'roedd i fod, neu dydi Duw ddim yn berffaith.

Mae rhai wedi dweud "nonsens!" pan dywedais hyn o'r blaen, ond mae Iesu yn cytuno hefo rheolau'r Hen Destament felly dylia Cristnogion dilyn y Beibl fel ac y mae....stonings, ogsoi merched ar eu period and all.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan johnkeynes » Llun 14 Gor 2008 10:00 pm

sian a ddywedodd:
Dw i'n meddwl bod rhai pobl sy'n defnyddio crefydd fel rhyw fath o fasg i guddio homoffobia ond dw i hefyd yn siwr bod Cristnogion hollol ddidwyll sydd yn erbyn ordeinio pobl hoyw yn offeiriaid/esgobion oherwydd yr hyn sydd yn y Beibl a'r ffordd y mae'n nhw yn ei ddehongli. Dydi'r bobl hyn ddim yn casau pobl hoyw ac felly dydyn nhw ddim yn homoffobic. Mae peryg i eiriau fel homoffobia gael eu lluchio o gwmpas braidd.



Sori Sian, ond i fi ma unrhyw un sydd a tueddiadau gwrth-gwrygydol ( dilyn be sydd yn y beibl neu bido) yn homoffobaidd.
Da ni yn son am hawliau a discrimineiddiad fan hyn. Os tase rhywun yn mynd ar y maes ac yn dweud bod nhw yn erbynb hawliau ieithyddol (ir gymraeg fi yn son am yn y cyswllt yma) ond yna yn dweud bod nhw ddim yn casau siaradwyr Cymraeg, dyw hwnna ddim yn meddwl felly bod y person yn bigot? Wrth gwrs ei fod nhw!..
Sori ond gas gennai'r s line ma mae rhai cristnogion yn cymryd, sef bod nhw ddim yn erbyn gwrygydwyr , ond yn hytrach yn erbyn y weithred gwrigydol, ac am gweddio drostyn nhw o'i 'phecodau' ddim yn homoffobaidd - nonsens llwyr!
johnkeynes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Maw 24 Meh 2008 10:19 am

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Cardi Bach » Llun 14 Gor 2008 10:12 pm

Chickenfoot a ddywedodd:Os ydi rheol yn y Beibl, a gair Duw ydi'r Beibl, yna dyna beth ddylia Cristnogion eu dilyn. Fedrwch chi ddim ailysgrifennu'r Beibl, gan dewis a dethol y darnau rydych yn cytuno a nhw.

Os yw Duw yn berffaith, rhoddod ei air i ddynion oedd yn mynd i'w ysgrifennu fel 'roedd i fod, neu dydi Duw ddim yn berffaith.

Mae rhai wedi dweud "nonsens!" pan dywedais hyn o'r blaen, ond mae Iesu yn cytuno hefo rheolau'r Hen Destament felly dylia Cristnogion dilyn y Beibl fel ac y mae....stonings, ogsoi merched ar eu period and all.


Do, ti wedi gweud hyn o'r blaen, ac unwaith eto mi wyt ti'n dangos dy ddiffyg dealltwriaeth o'r ddysgeidiaeth Gristnogol.
Mae Iesu yn cyfeiria mewn sawl man am gamwedd yr hen ysgrythurau, yr enghraifft mwyaf amlwg sydd yn dod i'r cof i fi yw ym Mathew, pennod 5:
38 "Dych chi wedi clywed fod hyn yn cael ei ddweud, 'Llygad am lygad, a dant am ddant.' 39 Ond dw i'n dweud wrthoch chi, Peidiwch ceisio talu’n ôl. Os ydy rhywun yn rhoi clatsien i ti ar dy foch dde, cynnig y foch arall iddo. 40 Ac os ydy rhywun am dy siwio a chymryd dy grys, rho dy gôt iddo hefyd. 41 Os ydy milwr Rhufeinig yn dy orfodi i gario ei bac am un filltir, dos di ddwy. 42 Rho i bwy bynnag sy'n gofyn am rywbeth gen ti, a paid gwrthod y sawl sydd eisiau benthyg rhywbeth gen ti.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Duw » Llun 14 Gor 2008 10:18 pm

Bois bach, dwi wedi drysu'n llwyr nawr. A ydy'r Beibl (mewn unrhyw le) yn datgan bod gweithred rhywiol rhwng dynion (neu menywod am hynny) yn bechod? Gallai ddeall nad oedd shwd beth a phriodas yn bodoli i wrigydwyr nol pryd 'ny, ac felly gallaf ddeall pwynt Rhys Llwyd o glymu hyn gyda heteros.

Serch hynny, mewn egwyddor, ydy'r eglwys (y sefydliad swyddogol) yn edrych ar berthynas hoyw fel pechod (pur a syml)? Os ydy, sut all berson/pobl newid y ddogma? Dweden i bod hyn yn sylfaenol i'r ffydd.

Fel anffyddiwr, hoffwn gachu ar unrhyw idiot sy'n dangos safbwynt homoffobig, ond dywedai rhai bod perffaith hawl ganddynt i ddangos rhagfarn (nid atgasedd!) os oes sail crefyddol i hynny. Rhagfarn yw rhagfarn, boed chi'n galw enwau neu gwrthod swydd (fel offeiriad) i rywun ar sail ei berswad personol.

Yn bersonol, ni allaf weld ffordd allan i'r Eglwys Seisnig - llyncu egwyddorion os ydynt yn ildio, neu gwynebu gwatwar os ydynt yn dal i wrthod.

Ydy cristnogaeth wedi mynd tu hwnt i'w "sell by date"? A ydy'n gallu bod yn berthnasol i bawb mewn cymdeithas (h.y. i'r rheini sydd am fyw bywyd glan a dilyn neges yr Iesu, ond sydd yn anffodus yn cwympo tu allan i'r pre-requisites)?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai