http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/americas/3208586.stm
Gene Robinson, yn syml , arwr sydd yn brwydro dros ei egwyddorion. Dyn dewr sydd yn dod a gobaith i filiynau o hoywon ar draws y byd. Mewn cymdeithas ble ma homoffobia dal yn bodoli, gobeithio bydd Gene Robinson yn gallu newid agwedd nifer yn yr Eglwys Anglicanaidd (a capeli/egwlysi cristnogol eraill). Mae yna nifer o gristnogion da a cariadus sydd yn cefnogi hawliau sifil ac yn derbyn hoywon i fewn ir Eglwys, ond yn anffodus mae yna dal elfennau homoffobaidd o fewn yr Eglwys sydd yn pregethu casineb a discrimination.
Gene Robinson, yn syml, un o arwyr mawr ymgyrch hawliau sifil y ganrif yma. Pob lwc a pob dymuniad da yn ei ymgyrch yw fy neges i.