johnkeynes a ddywedodd:http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/7508120.stm (ymmddiheuriadau am yr erthygl saesneg, ond nid yw'r BBC heb rhoi'r fersiwn Gymraeg fyny
)
Rwyf yn falch bod y llysoedd yn taclo homoffobia yn y gweithle/yr eglwys, ond trist gweld bod e dal yn digwydd... Hen bryd i lot o arweinwyr yn yr Eglwys fyw yn yr unfed ganrif ar hugain nawr a derbyn y neges clir yma na fydd rhagfarn a casineb (fel diwgyddodd yn yr achos yma) tuag at gwrygydwyr yn cael ei dderbyn o gwbl
Ro ni jest yn darllen y stori yna nawr. Beth bynnag yw barn pobl ynglyn a rôl pobl hoyw yn yr Eglwysi, beth ar wyneb daear oedd Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn gneud yn cyflogi rhywun oedd yn "aggressive behaviour, foul language and bullying" yn y lle cyntaf?! Ffydd sy'n bwysig wrth gwrs ond mae'r Beibl yn dysgu fod y saint i'w hadnabod trwy eu ffrwythau:
Galatiaid 5:19-26 a ddywedodd:19 Mae canlyniadau gwrando ar y natur bechadurus yn gwbl amlwg: anfoesoldeb rhywiol, meddyliau mochaidd a penrhyddid llwyr; 20 hefyd addoli eilun-dduwiau a dewiniaeth; a phethau fel casineb, ffraeo, cenfigen, gwylltio, uchelgais hunanol, rhaniadau, carfanau gwahanol, 21 eiddigeddu, meddwi, partïon gwyllt, a phechodau tebyg. Dw i'n eich rhybuddio chi eto, fel dw i wedi gwneud o'r blaen, fydd pobl sy'n byw felly ddim yn cael perthyn i deyrnas Dduw. 22 Ond dyma’r ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, 23 addfwynder a hunanreolaeth. Does dim cyfraith yn erbyn pethau felly. 24 Mae pobl y Meseia Iesu wedi lladd y natur bechadurus gyda’i nwydau a’i chwantau drwy ei hoelio hi ar y groes. 25 Felly os ydy’r Ysbryd wedi rhoi bywyd i ni rhaid i ni adael i’r Ysbryd ein harwain ni. 26 Gadewch i ni beidio bod yn falch, a phryfocio'n gilydd a bod yn eiddigeddus o’n gilydd.
Ddim mod i'n
role model o bell ffordd, i'r gwrthwyneb dwi'n syrthio'n fyr ymhobman, fodd bynnag 'toedd y fenyw yma ddim exactly yn ffitio'r bill yn ôl y Beibl i weithio i'r Eglwys nacoedd?! O diar...