Croeso i, ahem, Criw Duw.
Fi yw cymeradolwr y cylch hwn, felly gadewch i mi osod i lawr y gyfraith. Esi ddim i dop mynydd i hol rhain, ond mi wnesi gerdded deg munud o fy nhy i'w postio yma:
1.) Mae Criw Duw ar agor i bawb, cristion ai peidio. Does dim rhaid i chi gael unrhyw wybodaeth o'r beibl i siarad yma. Mi gewch hi fod yn atheist, mwslim, neu beth bynnag.
2.) Mae posib dechrau edefyn ar nifer fawr o bynciau gwahanol, fel hanes crefydd, a.y.y.b. Peidiwch a temilo eich bod chi'n cael eich cyfyngu i astudio ystyr geiriau y beibl cristnogol yn unig.
3.) Os mae unrhyw un yn defnyddio ei ffydd fel fforddi gael go ar unrhyw grwp crefyddol arall, pobl hoyw neu fel arall, am resymau di-ystyr mi gewch chi eich gwahardd.
4.) Cofiwch bod y term 'cristion' yn cymeryd i mewn grwp eang iawn o bobl, a'r term 'crefyddol' yn cymeryd i mewn llawer mwy. Tydi pawb ddim yn dehongli'r beibl yn yr un modd a chi, a dylsid ddim galw'r bobl yna'n anghywir a troi cefn. Cylch trafod ydi hwn!
5.) Gan mai cylch crefyddol yw hwn, mae'n syniad peidio rhegi, amwn i.
6.) Dim cylch i drafod Father Ted mo hwn. Gwelwch yr cylch Ffilm a Theledu.
Dyna yr, ym, 6 Rheol! Os alwch chi feddwl am bedair arall, rhowch neges i mi. A cofiwch mai dim angladd mo hwn. Mae hwyl i'w gael!
A cofiwch, os dach chi methu gweld edefyn sy'n dal eich diddordeb cychwynwch un eich hun.