Ocê, dyna'r peth. Dw i ddim yn Gristion, a sa i wedi bod ers amser maith (stori am ddiwrnod arall bydd honna), ond mae cof cryf 'da fi o ymweld â'r arddangosfa Llyfr Kells yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, a meddwl wrth fy hun bod unrhywbeth sy'n gallu ysbrydoli person i greu <a href="http://www.dubois.ws/people/paul/kells/">rhywbeth mor brydferth</a> yn werth meddwl mwy amdano. Ers hynny, dw i wedi ceisio beidio syrthio i'r trap o fod yn "wrth-Gristogaeth", er fy mod i'n dal yn euog o fod yn "wrth-Gristogaeth-ffug".
Dw i ddim yn siwr beth dw i'n disgwyl gan ddechrau edefyn fel hyn. Falle bydd y cymedrolwr yn penderfynnu dileu fy neges. Byddai hynny yn ddiddorol.