Lluniau o Lyfr Kells

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Lluniau o Lyfr Kells

Postiogan nicdafis » Maw 07 Hyd 2003 4:04 pm

Ocê, dyna'r peth. Dw i ddim yn Gristion, a sa i wedi bod ers amser maith (stori am ddiwrnod arall bydd honna), ond mae cof cryf 'da fi o ymweld â'r arddangosfa Llyfr Kells yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, a meddwl wrth fy hun bod unrhywbeth sy'n gallu ysbrydoli person i greu <a href="http://www.dubois.ws/people/paul/kells/">rhywbeth mor brydferth</a> yn werth meddwl mwy amdano. Ers hynny, dw i wedi ceisio beidio syrthio i'r trap o fod yn "wrth-Gristogaeth", er fy mod i'n dal yn euog o fod yn "wrth-Gristogaeth-ffug".

Dw i ddim yn siwr beth dw i'n disgwyl gan ddechrau edefyn fel hyn. Falle bydd y cymedrolwr yn penderfynnu dileu fy neges. Byddai hynny yn ddiddorol.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Maw 07 Hyd 2003 4:06 pm

Anghofiais i ddweud, daw'r linc o'r wefan <a href="http://www.nielsenhayden.com/makinglight/">Making Light</a>, sy'n wastad yn ddiddorol.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Maw 07 Hyd 2003 4:15 pm

Nicidafis a ddywedodd:Dw i ddim yn siwr beth dw i'n disgwyl gan ddechrau edefyn fel hyn. Falle bydd y cymedrolwr yn penderfynnu dileu fy neges. Byddai hynny yn ddiddorol.


:lol: I ddweud y gwir, dyma'r union math o drafodaeth oeddwn i'n chwilio amdano. Gweler yr Edefyn Croeso!

Diddorol iawn yw'r Llyfr Kells. Rhyfeddol bod rywun wedi medru creu darluniau maor brydferth heb unrhyw fath o linell disiap neu gamgymeriad o gwbwl. Bron yn amhosib fysai creu y math yma o lyfr; bysai fy mhrinter i methu gwneud printout mor dda a'r gwreiddiol.

Dyna'r broblem; mae angen gweld y llyfr a'ch llygaid eich hun. Dwi'n siwr fod y llyniau yna ddim yn gwneud ffafr i'r gwreiddiol. Bydd rhaid i mi edrych i mewn i sut crewyd y math yma o lyfr (mi ddylswn i wybod-mi roeddwn i'n gwneud Medieval English flwyddyn dwythaf!).
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Cardi Bach » Maw 07 Hyd 2003 4:24 pm

Pwynt diddorol.
Wy'n cofio i David Attenborough weud ar y teledu nad oedd e'n Gristion.
wedodd e fod pawb yn cadw gweud wrtho fe i edrych ar y pethe pert fel dolphins yn neidio a blodau yn blaguro a gweud fod yn rhaid fod yna Dduw i wneud y fath beth.

Ei ateb e oedd fod e'n ffili help a sylwi ar y dioddefaint a'r erchyllterau yn y byd, a meddwl gall fod yna ddim Duw neu bydde Duw yn datrys hyn.

Mae hon yn hen hen ddadl.

Ond ma'n rhaid cofio fod y Bod Mawr wedi'n creu ni ag ewyllys rydd. Petai Duw yn dod lawr a datrys pob dim yna beth fyddai diben ewyllys rydd? Beth fyddai diben yr enaid? Gallwn i gasau, ymdrechu i ladd neu dreisio ayb, a byddai Duw yn dod lawr a rhwystro'r cwbwl.

Yr ateb rhwydda wrth gwrs yw peidio a chwestiynnu amcanion Duw. Fi ddim. Ond ar yr un pryd ma'n rhaid i ni sylweddoli mai unigolion ag ewyllys rydd i ni gyd i weithredu fel y'm ni moyn. Ma canllawiau wedi eu gosod yn y Beibl.

Gallwn ni ddefnyddio'r ewyllys rydd hynny i geisio gwneud daioni a chael gwared ar y dioddefaint, sydd yr un mor 'brydferth' a gweld blodyn yn blaguro. Neu gallwn ni ddefnyddio fe ar gyfer dibenion yr hunan a chyfforddusrwydd a moethusrwydd cnawdol y ddaear (fel rhyfeloedd olew Bush ayb).

Mae cyfeiriad Nic at brydferthwch gallu dynol i wneud gweithiau godidog fel Kells yn clymu fewn i hyn, weden i.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Macsen » Maw 07 Hyd 2003 4:32 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Yr ateb rhwydda wrth gwrs yw peidio a chwestiynnu amcanion Duw. Fi ddim.


Y broblem gyda'r math yma o ddadl ydi bod 'Paid a Chwestiynnu Pethau' yn edrych ychydig yn rhu agos i 'Da Ni'n Gwybod Bod O'n Wir- Paid A Gofyn Am Unrhyw Fath o Dystiolaeth'.

Efallai bydd angen dechrau edefyn or enw 'Bywyd, Y Bydolaeth a Popeth'.

Credaf bod 'patrwm bywyd' yn un o brif ddadleuon cristnogion dros y ffaith bod Duw wir yn bod. Y gwrth ddadl dwi'n credu ydi: 'Mae'r fydolaeth mor fawr a di-ddiwedd bod rhaid fod y math yma o beth wedi dod i fodolaeth cyn hir'.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 08 Hyd 2003 11:08 pm

Nic a ddywedodd: Ers hynny, dw i wedi ceisio beidio syrthio i'r trap o fod yn "wrth-Gristogaeth", er fy mod i'n dal yn euog o fod yn "wrth-Gristogaeth-ffug".


Dwi yn wrth-Gristnogaeth ffug
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Iau 09 Hyd 2003 12:32 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi yn wrth-Gristnogaeth ffug


Sut felly? :?

Wyt ti'n gwadu nabod Iesu tri gwaith cyn i'r casglwyr bins ddod rownd?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan nicdafis » Iau 09 Hyd 2003 2:27 pm

Dw i'n credu oedd Rhys yn dweud ei fod yn erbyn "Cristogion ffug", h.y. pobl sy'n honi bod yn Gristion, ond sy'n meddwl ei fod yn iawn i ladd llawer o bobl er mwyn eu huchelgeisiau gwleidyddol *peswch*Tony*peswch*Blair*peswch*

Dyna beth o'n i'n meddwl gan "wrth-Gristogaeth-ffug", ta beth.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 09 Hyd 2003 4:05 pm

ie a fi.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Gwe 10 Hyd 2003 8:42 am

Aha dealltaf yn awr.

Mae llawer o gristnogion-ffug yn defnyddio ei ffugffydd i roi bricesn extra dan ei traed ar y moral high ground. Dwi'n credu mai ym mholitics mae yn nifer mwyaf o gristnogion-ffug amlwg; allwch chi ddim cael mewn i office yn America heb honni eich bod chi'n gristion. Edrychwch ar Arnold- fysech chi'n dweud ei fod o'n gristion? :?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron