Undodiaid

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re:

Postiogan rooney » Maw 22 Ion 2008 12:59 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Yr unig un yr ydym yn gwybod amdano sydd wedi ei gadw trwy ras Crist o'r Beibl yw'r lleidr a chyd ddienyddwyd gyda Christ. Pe bai rhywun wedi gofyn i'r gwron hwn beth oedd ei farn am athrawiaeth y Drindod, neu beth oedd ei farn am athrawiaeth draws gyfnewidiad yr offeren, ni fuasai ganddo glem. Mi fuasai wedi ei gondemnio fel heretic gan yr uchel Galfiniaid. Ond eto roedd ei ffydd syml, heb ddealltwriaeth athrawiaethol, yn ddigon i'r Arglwydd dweud wrtho Heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys.
...Cariad at Grist yw sail ffydd Cristionogol. Ffydd yng Nghrist yw sylfaen gwaredigaeth nid athrawiaeth.


Amen, HRF.
Dyna un o'r digwyddiadau mwyaf anhygoel yn y Beibl. Tra buasai crefyddau dyn yn condemnio y lleidr ar y groes i uffern, fe wnaeth Iesu ei wobrwyo am ei ffydd syml, fel cafodd Abraham, Isaac, Jacob, Moses a phawb arall oherwydd eu FFYDD.
Camddealltwriaeth sylfaenol am Gristnogaeth yw fod cyfiawnder a'ch ticed i'r nefoedd yn dod o'ch gweithredoedd. Nope. Ni fydd eich gweithredoedd byth ddigon da i gael pasport i'r nefoedd.
Rwy'n clywed y sceptics yn barod yn gweiddi- dyw hynny ddim yn deg! Gwn am bobl sydd ddim wedi bod yn lladrata, gwn am bobl sydd wedi rhoi i elusennau... a dyw nhw ddim yn Gristion. Felly pam mae nhw'n mynd i uffern?
Cwestiwn teg. Wel oherwydd ni i gyd yn bechaduriaid, ie, pawb ohonom. Ein pechodau sy'n ein ymatal rhag mynd i'r nefoedd. Crefyddau dynol sy'n dilyn y drefn "rydych chi'n cynilo eich lle yn y nefoedd gyda'ch gweithredoedd". Crefydd Duw yn dweud "wnewch chi byth gyraedd fy safonau sanctaidd trwy eith gweithredoedd. Felly, rhowch ffydd ynddo i, fe wnaf i chi yn gyfiawn, gan mae cyfiawnder ond yn dod gen i, ac fe gewch eich gwobrwyo".
Fydde dim dyn sydd eisiau pwer dros pobl yn creu y fath grefydd, dim ond Duw gyda'i awdurdod fyddai'n gallu cario'r fath beth. Mae'r gras yn anhygoel, mor anhygoel nes fod ein rhesymeg ni methu dygymod gyda dyn ar y groes yn cael ei achub, ond dyna mor anhygoel yw gras Duw, mae tu hwnt i ddealltwriaeth.
Wedyn fe ddweith y sceptic: "ond peth hawdd yw cael ffydd". Fe welwn o brofiad fod ffydd yn beth anodd, ac yn wir, gwobr gan Dduw yw y pendraw a fedr yr unigolyn byth dderbyn y wobr os yw gyda'r agwedd anghywir.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Undodiaid

Postiogan rooney » Maw 22 Ion 2008 1:24 am

sori, ond ddim yn deall beth mae'r undodwyr neu pwy bynnag arall yn ffeindio mor anodd i'w ddeall
mae'r gwrthwynebiad i'r geni gwyrthiol yn eitha chwerthinllyd. Os yw Duw wedi creu yr holl fydysawd, y byd, bywyd ayyb yna siawns mae chwarae bach yw iddo gael merch yn feichiod heb fod y sperm wedi dod o ddyn, neu wahanu'r mor coch, neu dod a phobl nol yn fyw, neu cerdded ar ddwr ayyb.

yn ail, rwy'n meddwl mae siarad am Iesu fel "mab" Duw yn methu'r pwynt mewn llawer o ffyrdd. Beth am siarad am Iesu fel "Oen" Duw. Ai Iesu oedd Oen Duw? Wel, mae'r dystiolaeth yn gryf iawn. Ar yr un mynydd ac y gwnaeth Abraham fwriadu aberthu ei fab ac y gwnaeth Iesu aberthu ei hun dros ddynoliaeth gyfan. Er mwyn y "passover" roedd yr Iddewon fod dewis eu oen gorau a'i aberthu ayyb. mae'r Hen destament yn pwyntio tuag at y groes gymaint o weithiau all person synhwyrol ddim dod i'r casgliad mae cyd-ddigwyddiad. Felly, os nad yw pobl yn credu mae Iesu oedd aberth fwyaf a terfynol Duw yna beth yw?Yr oedd yr Israeliaid yn aberthu anifeiliad, mae Duw angen cael aberth tollti gwaed i ddelio gyda difrifoldeb pechod. Os chi ddim yn credu yn Iesu fel yr aberth gwaed terfynol yna pam chi ddim yn aberthu anifeiliad bellach? Os chi ddim yn aberthu anifeliaid yna lle mae eich aberth gwaed am eich pechodau? Dim ond aberth gwaed wneith y tro, darllenwch hanes Cain ac Abel os na chi'n credu fi. Nid yw'r Cristion angen aberthu anifeiliad am aberth gwaed oherwydd mae Iesu wedi gwneud aberth gwaed sydd yn fwy na hynny i gyd, drost ni i gyd.

Rwy'n gwybod fy mod yn ail-adrodd fy hun ond rhaid i bobl ddeall: nid eich gweithredoedd sy'n mynd a chi i'r nefoedd, ond ffydd yn Iesu a'i weithredoedd ef. Nid oes unrhyw ffordd arall. Mae llawer o grefyddau yn y byd, a rhai o nhw'n dysgu pethau neis, ond mae eich iachawdwriaeth neu eich achubiaeth yn dod trwy Iesu Grist yn unig. Eich pechodau sy'n eich atal rhag nefoedd, Iesu yw'r unig ffordd i gael maddeuant i'ch pechodau ac felly yr unig ffordd i'r nefoedd trwy ffydd ynddo ef.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Undodiaid

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 22 Ion 2008 3:52 am

Rooney, plis paid a'm cam ddyfynu er mwyn cyfiawnhau agweddau at grefydd na allwn eu derbyn. Yr wyt ti, ac i raddau llai Rhys, yn credu mewn gwaredigaeth trwy athrawiaeth.

Gwaredigaeth trwy ffydd sy'n bwysicach i mi. Yng nghyd destyn y pwnc dan sylw mae nifer o bobl yn ardal y "smotyn du" yn bobl sydd a ffydd rhagorol.

Gwers y lleidr ar y Groes ym mae ffydd, a naw wfftt i dy athrawiaeth, sy'n bwysig.

O ran fy mhrofiad unigol, rwy'n gweld Cathligion fel bobl sydd yn byw efo'u ffydd yng Nghrist, faint mor anathrawiaethol gywirl mo'u cred.

Diffiyg diddordeb yw nowedd yr anghydffurfiiwr Cymreig cyffredin!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re:

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 22 Ion 2008 2:29 pm

Macsen a ddywedodd:Neges braidd yn anffodus gan Macsen oed 18 o ystyried bod Macsen oed 23 nawr yn byw a bod yn undodwr central! :ofn:


Paid a son - dwi weithiau yn edrych nol dros hen negeseuon sgwennesi pan o ni dal yn ysgol ac yn gwrido :wps:

Ond parthed Undodiaeth - mae neges Carwyn uchod yn hynod ddifyr - fe ymatebaf yn llawn heno ma ond am nawr gwerth i mi nodi mod i'n cytuno gyda Carwyn sef mae fel rhyw fath o sect dyneiddiol a dyfodd allan o anghydffurfiaeth Gristnogol mae'r ffordd orau i edrych ar Undodiaeth ac nid fel Eglwys Gristnogol. Mae mwy o barch gennyf am undodaeth ddyneiddiol Carwyn nac at Undodwyr sy'n honni eu bod yn Eglwys Gristnogol - pan fydd mwy o amser gennai wnai esbonio'n fanylach pa mor wan yw dadl Undodwyr eu bod nhw'n eglwys Gristnogol.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Undodiaid

Postiogan rooney » Mer 23 Ion 2008 12:41 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Rooney, plis paid a'm cam ddyfynu er mwyn cyfiawnhau agweddau at grefydd na allwn eu derbyn. Yr wyt ti, ac i raddau llai Rhys, yn credu mewn gwaredigaeth trwy athrawiaeth.

Gwaredigaeth trwy ffydd sy'n bwysicach i mi.


dwi ddim wedi honni unrhywbeth arall ond gwaredigaeth trwy ffydd
does dim o'i le yn cymryd diddordeb yn yr athrawiaeth hefyd
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Undodiaid

Postiogan sian » Iau 24 Ion 2008 10:49 am

Newydd feddwl - ydi Undodiaid yn credu mewn bywyd ar ôl marwolaeth?
Mwy na thebyg ddim.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re:

Postiogan fela mae » Iau 24 Ion 2008 2:01 pm

sian a ddywedodd:
fela mae a ddywedodd:mae undodwyr yn gristnogion !! Ma Mam yn undodwraig ac aye ma hi'n dod o ardal y smotyn du - Talgarreg. Pwy ydych chi bobol i weud pwy sy'n gristnogion a pwy sydd ddim.


Dwi'n meddwl bod ateb fela mae (a dwi'n sylweddoli bod hynny bedair blynedd yn ôl) yn dangos fel y mae pobl wedi mynd i feddwl mai ystyr Cristion yw rhywun neis a chymwynasgar. Fues i mewn sefyllfa yn ddiweddar:

"Dyna i chi Gristion!" (am rywun caredig)
"Nadi"
"Ydi mae o"
"Na, mae'n anffyddiwr"
"Allith o ddim bod siwr"


Diolch am nodi fod pedair mlynedd wedi mynd ers i fi ysgrifennu pethe mor dwp.

Dwi ddim yn meddwl i mi erioed weld y gwahaniaeth pan yn blentyn wrth fynd i gapel undodwyr yn ne ceredigion, i gapel methodistiaid ym Mhen Llyn neu i gapel Bedyddwyr ym Mhenrhyn-Coch i mi capel oedd capel.. roedd pawb yn mynd i'r capel am yr un rheswm yn fy ngolwg i sef i addoli ac i fyfyrio am Dduw . I mi doedd dim gwahanieth yn y bregeth.. ond ma siwr bod na ond fy mod i heb ddeall a heb wrando. Doedd o ddim byd i wneud gyda pwy oedd yn pregethu Mr Llwyd just twpdra merch ifanc!
wyt ti'n fy herio i y Meri Jen ??
Rhithffurf defnyddiwr
fela mae
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 504
Ymunwyd: Sul 26 Hyd 2003 3:06 pm
Lleoliad: Penrhyn-Coch, Bangor

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron