Undodiaid

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Marwolaeth » Llun 08 Rhag 2003 3:36 pm

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Sut dyma nhw'n dod i'r casgliad bod Iesu Grist ddim yn fab i Dduw?


Hawdd. Dim ond ryw ddwywaith mae Iesu yn cael ei alw'n fab i Dduw, a mae posib dadlau mae tampro gan eraill ar ol i'r Beibl gael ei ysgrifennu ydi hwn. A fel oeddet ti'n dweud, yn yr union edefyn hwn:
Ifan a ddywedodd:Mae'n dibynnu sut wyt ti'n dehongli y beibl: Pam mae Iesu yn gofyn i'r disgyblion 'pwy ydw i?' mae nhw'n ateb 'Y Meseiah'. Ond dadl rhai yw bod 'Mesaiah' hefyd yn medru cael ei gyfiaethu fel 'un o feibion Dafydd'. Ac mi roedd Iesu yn un o 'feibion' Dafydd, fel mae'n ei ddweud ar dechrau'r testiment newydd.
Fin nos, fan hyn
Lladdwyd Llywelyn.
Fyth nid anghofiaf hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Marwolaeth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 52
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 1:04 am
Lleoliad: Ymhobman

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 08 Rhag 2003 4:23 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Sori, Fela Mae, nid y bwriad oedd dwyn sen ar rywun neu ame ffydd pobol fel dy fam.

Ond ystyria'r peth mewn gwaed oer - dyw Undodwr ddim yn credu mewn Crist fel mab Duw. Dyw undodwr ddim yn credu i Iesu atgyfodi ar y trydydd dydd. Ond y gred hyn yw sylfaen y gred Gristnogol - y ffaith fod Iesu wedi dod i'n achub ni, ac wedi atgyfodi, gan ddangos i bawb ei fod yn fab Duw.

Nawr, by definition wedyn, dyw Undodwr ddim yn 'Gristion'(CRISTion). Ni'n credu yn yr un Duw, ie, ond mae Crist yn Arglwydd ar fywyd Cristion, fel mae'r ysbryd glan, y tri yn un - nid felly'r Undodwr.

Wy ddim yn ame ffydd dy fam o gwbwl - pwy odw i neu unrhyw un arall i neud hynny, ac mewn gwirionedd falle mai splitting hairs odw i. :winc:


cytunaf cardi, a fel wedesdi pwy i ni i farnu, ond ma hawl gyda ni herio a dangos i bobl allan or beibl pwy oedd iesu a beth wnaeth e, dyna hanfod cristnogaeth
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Maw 09 Rhag 2003 4:55 am

Marwolaeth a ddywedodd:Hawdd. Dim ond ryw ddwywaith mae Iesu yn cael ei alw'n fab i Dduw, a mae posib dadlau mae tampro gan eraill ar ol i'r Beibl gael ei ysgrifennu ydi hwn. A fel oeddet ti'n dweud, yn yr union edefyn hwn:


Myfi a ddywedodd:Mae'n dibynnu sut wyt ti'n dehongli y beibl: Pam mae Iesu yn gofyn i'r disgyblion 'pwy ydw i?' mae nhw'n ateb 'Y Meseiah'. Ond dadl rhai yw bod 'Mesaiah' hefyd yn medru cael ei gyfiaethu fel 'un o feibion Dafydd'. Ac mi roedd Iesu yn un o 'feibion' Dafydd, fel mae'n ei ddweud ar dechrau'r testiment newydd.


Ia ond fy mhwynt i yw os wyt i'n edrych ar y Beibl mewn ffordd pur-textual Iesu yw mab Duw ond os wyt ti'n edrych arno mewn ffordd hanesyddol mae'n bosib ei ddehongli mewn ffordd nad yw Iesu yn mab Duw...

Pa ffordd wyt ti'n edrych arno Fela Mae?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan fela mae » Maw 09 Rhag 2003 12:15 pm

wel win credu bod Iesu Grist yn fab i Dduw - Mam sy'n undodwraig .. a ges i fy medyddio gyda'r undodwyr ond mi rydw in mynychu capel y bedyddwyr erbyn hyn .. lle ma gen i y dewis i gal fy medyddio unwiath eto ! Jest dwi yn cyfri Mam fel Cristion ... ma hi bellach fyd yn mynd i capel y bedyddwyr ond ma hin aelod yng nghapel yr undodiaid.

Bydd rhaid fi ofyn i Mam yn union be ma'r undodwyr yn credu .. ond dwin siwr bod nhw yn credu bod iesu yn fab i dduw ond bod y tri yn un - Y mab ar tad ar ysbryd Glan. Dwi di bod mewn gwasannaethau gyda'r undodwyr a nes i ddim sylwi bod na wahaniaeth yn y bregeth a be dwi'n gal hefo'r bedyddwyr !
wyt ti'n fy herio i y Meri Jen ??
Rhithffurf defnyddiwr
fela mae
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 504
Ymunwyd: Sul 26 Hyd 2003 3:06 pm
Lleoliad: Penrhyn-Coch, Bangor

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 09 Rhag 2003 5:00 pm

fela mae a ddywedodd: Dwi di bod mewn gwasannaethau gyda'r undodwyr a nes i ddim sylwi bod na wahaniaeth yn y bregeth a be dwi'n gal hefo'r bedyddwyr !


ie wel, ma hynnyn dweud mwy am brygethu Peter thomas ai debyg na maen dweud am yr undodwyr.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Maw 09 Rhag 2003 5:40 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:ie wel, ma hynnyn dweud mwy am brygethu Peter thomas ai debyg na maen dweud am yr undodwyr.


Mewn ffordd da ta drwg? Pa gapel mae o'n ei bregethu ynddo?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 09 Rhag 2003 5:53 pm

"bedyddwyr" cymraeg ardal aber
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan fela mae » Maw 09 Rhag 2003 6:15 pm

Oi Rhys Llwyd be ma Peter Thoams wedi ei wneud oi le ?? fe yw fy ngwenidog i Ifan.. sai'n deall be o tin drio awgrymu Rhys !!
wyt ti'n fy herio i y Meri Jen ??
Rhithffurf defnyddiwr
fela mae
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 504
Ymunwyd: Sul 26 Hyd 2003 3:06 pm
Lleoliad: Penrhyn-Coch, Bangor

Postiogan Macsen » Maw 09 Rhag 2003 6:27 pm

Iawn, iawn calm down. Dim pwraps dechrau lladd ar bregethwyr eich gilydd. Wel, mi gewch chi wneud, ond mi fydda i yn dileu y negeseuon beth bynnag. Lladdwch ar farn y pobl, nid y pobl ei hunain.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan fela mae » Maw 09 Rhag 2003 10:08 pm

yn union !! mowredd :ofn: siomedig :drwg:
wyt ti'n fy herio i y Meri Jen ??
Rhithffurf defnyddiwr
fela mae
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 504
Ymunwyd: Sul 26 Hyd 2003 3:06 pm
Lleoliad: Penrhyn-Coch, Bangor

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron