fela mae a ddywedodd:mae undodwyr yn gristnogion !! Ma Mam yn undodwraig ac aye ma hi'n dod o ardal y smotyn du - Talgarreg. Pwy ydych chi bobol i weud pwy sy'n gristnogion a pwy sydd ddim. Dwi'n meddwl ma unigolyn sy'n gallu gweud os ydyn nhw'n gristion ne peidio. Dwim yn deall pam na all capeli uno at ei gilydd ! Yn ty ni ma na amrywiaeth - dad yn fethodist , mam yn undodwraig a finnau yn fedyddwraig - da ni gyd yn cyfri ein huanin fel cristnogion !! Wrth ymuno capeli - bydd mwy yn cyd-addoli.
Sori, Fela Mae, nid y bwriad oedd dwyn sen ar rywun neu ame ffydd pobol fel dy fam.
Ond ystyria'r peth mewn gwaed oer - dyw Undodwr ddim yn credu mewn Crist fel mab Duw. Dyw undodwr ddim yn credu i Iesu atgyfodi ar y trydydd dydd. Ond y gred hyn yw sylfaen y gred Gristnogol - y ffaith fod Iesu wedi dod i'n achub ni, ac wedi atgyfodi, gan ddangos i bawb ei fod yn fab Duw.
Nawr,
by definition wedyn, dyw Undodwr ddim yn 'Gristion'(CRISTion). Ni'n credu yn yr un Duw, ie, ond mae Crist yn Arglwydd ar fywyd Cristion, fel mae'r ysbryd glan, y tri yn un - nid felly'r Undodwr.
Wy ddim yn ame ffydd dy fam o gwbwl - pwy odw i neu unrhyw un arall i neud hynny, ac mewn gwirionedd falle mai
splitting hairs odw i.