Undodiaid

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Undodiaid

Postiogan Cardi Bach » Maw 07 Hyd 2003 4:30 pm

O's unrhyw un ohonoch chi'n Undodwr?

Beth wy am weld yw a yw Undodwr wirioneddol yn Gristion?
Alla i ddim gweld siwd gall Undodwr alw ei hun yn Gristion.
Dyw Undodwr ddim yn credu yng Nghrist fel mab Duw, ond yn hytrach yn gweld Iesu fel proffwyd a dyn rhagorol o dda - ond ddim fel mab y Duw.
Dyw hyn ddim yn Gristion felly - by definition! all e ddim bod.

Beth y'ch chi'n weud?
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Macsen » Maw 07 Hyd 2003 4:40 pm

Mae'n dibynnu beth yw dy syniad o gristion. Os mae christion i chdi yw dyn (isht chi feminists yn y cefn!) sydd yn credu bod Iesu wedi marw ar y groes dros ei bechodau dydio ddim. Mi fysai Undodwr yn dadlau mae cristion yw un sydd yn credu mewn Duw ac yn gwneud ei orau i'w wasanaethu.

Mae'n dibynnu sut wyt ti'n dehongli y beibl: Pam mae Iesu yn gofyn i'r disgyblion 'pwy ydw i?' mae nhw'n ateb 'Y Meseiah'. Ond dadl rhai yw bod 'Mesaiah' hefyd yn medru cael ei gyfiaethu fel 'un o feibion Dafydd'. Ac mi roedd Iesu yn un o 'feibion' Dafydd, fel mae'n ei ddweud ar dechrau'r testiment newydd.

Ond ar y llaw arall mae'r disgyblion yn ei alw'n fab i Dduw ar mwy nag un amser. Gall rywun gymeryd hwn fel metaphor (mae llawer o gristnogion heddiw yn galw Duw yn ei 'tad'), ond go debyg roedd y disgyblion yn ei weld fel y mab Duw.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 08 Hyd 2003 11:06 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Beth wy am weld yw a yw Undodwr wirioneddol yn Gristion?
Alla i ddim gweld siwd gall Undodwr alw ei hun yn Gristion.
Dyw Undodwr ddim yn credu yng Nghrist fel mab Duw, ond yn hytrach yn gweld Iesu fel proffwyd a dyn rhagorol o dda - ond ddim fel mab y Duw.
Dyw hyn ddim yn Gristion felly - by definition! all e ddim bod.

Beth y'ch chi'n weud?


Win cytuno da ti, nid cristnogaeth yw hyn FELLY ni allant fod yn Griastnogion (yn anffodus).

Craidd y gred Cristnogol yw fod Iesu yn fab i Dduw a fod mab Duw wedi marw ar y groes dros ein pechodau!!!!!

Ma nhw'n swnio fwy fel mormoniaid neu Jehovas i fi.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Undodiaid

Postiogan nicdafis » Iau 09 Hyd 2003 2:24 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Dyw Undodwr ddim yn credu yng Nghrist fel mab Duw, ond yn hytrach yn gweld Iesu fel proffwyd a dyn rhagorol o dda - ond ddim fel mab y Duw.
Dyw hyn ddim yn Gristion felly - by definition! all e ddim bod.

Beth y'ch chi'n weud?


Swnio fel fi. Undodwr ydw i 'te? Wel, wel. :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Undodiaid

Postiogan Cardi Bach » Iau 09 Hyd 2003 2:55 pm

nicdafis a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Dyw Undodwr ddim yn credu yng Nghrist fel mab Duw, ond yn hytrach yn gweld Iesu fel proffwyd a dyn rhagorol o dda - ond ddim fel mab y Duw.
Dyw hyn ddim yn Gristion felly - by definition! all e ddim bod.

Beth y'ch chi'n weud?


Swnio fel fi. Undodwr ydw i 'te? Wel, wel. :winc:


Wel a bo ti'n Llangrannog bydden i'n synnu dim!

Ddim yn bell o ble wyt ti (ardal Talgarreg lawr i Cwmsychbant) odd ardal y Smotyn Du, lle'r odd yr Undodwyr ar eu cryfa. Yn anffodus ma'n hanes i'n anelwig iawn fan hyn, a fi ddim cweit yn gwbo pam fo gymaint o Undodwyr yn yr ardal yma o'r byd, ond na fe!

o ran neges IMJ, beth wy'n olygu yma yw'r ystyr strict. Mae Cristion, yn ol ei enw, yn credu yng Nghrist.

Er mai'r un Duw sydd gyda'r Undodied a fi, i fi hefyd yn gweld Crist fel Duw - y tri yn un - dyna sy'n fy ngwneud yn Gristion, sef credu yn yr atgyfodi.

Nid felly yr Undodied.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan fela mae » Gwe 05 Rhag 2003 2:12 pm

mae undodwyr yn gristnogion !! Ma Mam yn undodwraig ac aye ma hi'n dod o ardal y smotyn du - Talgarreg. Pwy ydych chi bobol i weud pwy sy'n gristnogion a pwy sydd ddim. Dwi'n meddwl ma unigolyn sy'n gallu gweud os ydyn nhw'n gristion ne peidio. Dwim yn deall pam na all capeli uno at ei gilydd ! Yn ty ni ma na amrywiaeth - dad yn fethodist , mam yn undodwraig a finnau yn fedyddwraig - da ni gyd yn cyfri ein huanin fel cristnogion !! Wrth ymuno capeli - bydd mwy yn cyd-addoli.
wyt ti'n fy herio i y Meri Jen ??
Rhithffurf defnyddiwr
fela mae
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 504
Ymunwyd: Sul 26 Hyd 2003 3:06 pm
Lleoliad: Penrhyn-Coch, Bangor

Postiogan Cardi Bach » Gwe 05 Rhag 2003 3:56 pm

fela mae a ddywedodd:mae undodwyr yn gristnogion !! Ma Mam yn undodwraig ac aye ma hi'n dod o ardal y smotyn du - Talgarreg. Pwy ydych chi bobol i weud pwy sy'n gristnogion a pwy sydd ddim. Dwi'n meddwl ma unigolyn sy'n gallu gweud os ydyn nhw'n gristion ne peidio. Dwim yn deall pam na all capeli uno at ei gilydd ! Yn ty ni ma na amrywiaeth - dad yn fethodist , mam yn undodwraig a finnau yn fedyddwraig - da ni gyd yn cyfri ein huanin fel cristnogion !! Wrth ymuno capeli - bydd mwy yn cyd-addoli.


Sori, Fela Mae, nid y bwriad oedd dwyn sen ar rywun neu ame ffydd pobol fel dy fam.

Ond ystyria'r peth mewn gwaed oer - dyw Undodwr ddim yn credu mewn Crist fel mab Duw. Dyw undodwr ddim yn credu i Iesu atgyfodi ar y trydydd dydd. Ond y gred hyn yw sylfaen y gred Gristnogol - y ffaith fod Iesu wedi dod i'n achub ni, ac wedi atgyfodi, gan ddangos i bawb ei fod yn fab Duw.

Nawr, by definition wedyn, dyw Undodwr ddim yn 'Gristion'(CRISTion). Ni'n credu yn yr un Duw, ie, ond mae Crist yn Arglwydd ar fywyd Cristion, fel mae'r ysbryd glan, y tri yn un - nid felly'r Undodwr.

Wy ddim yn ame ffydd dy fam o gwbwl - pwy odw i neu unrhyw un arall i neud hynny, ac mewn gwirionedd falle mai splitting hairs odw i. :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Macsen » Sul 07 Rhag 2003 7:45 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Wy ddim yn ame ffydd dy fam o gwbwl - pwy odw i neu unrhyw un arall i neud hynny, ac mewn gwirionedd falle mai splitting hairs odw i.


Dim splitting hairs o gwbwl- dyw undodwyr ddim yn gristnogion. Mae derbyn crist fel mab duw yn hollol sylfaenol i gristnogaeth. Does dim posib dehongli yr beibl mewn unrhyw ffordd arall, mewn ffordd ahistorical sydd yn astudio'r text ei hun yn unig, a ddim ei context, wrth gwrs.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan fela mae » Llun 08 Rhag 2003 9:25 am

mae'r undodiaid yn credu bod y tri yn un fel petai - y tad ar mab ar ysbryd glan - ma fe'n bosib dehongli'r beibl yn y ffordd yna ifan
wyt ti'n fy herio i y Meri Jen ??
Rhithffurf defnyddiwr
fela mae
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 504
Ymunwyd: Sul 26 Hyd 2003 3:06 pm
Lleoliad: Penrhyn-Coch, Bangor

Postiogan Macsen » Llun 08 Rhag 2003 1:06 pm

Fela Mae a ddywedodd:ae'r undodiaid yn credu bod y tri yn un fel petai - y tad ar mab ar ysbryd glan - ma fe'n bosib dehongli'r beibl yn y ffordd yna ifan


Wel, mae'n bosib dehongli'r beibl mewn unrhyw ffordd dan haul. Y problem ydi bod llawer yn dehongli pethau i'w siwtio nhw dim pethau sydd yn amlwg o fewn y text. Dyw hynny ddim yn meddwl bod undodwyr yn anghywir- pwy ydwi i ddweud? Ond dw i ddim yn siwr sut y gallen nhw ddehongli'r Beibl yn y ffordd yna. Sut dyma nhw'n dod i'r casgliad bod Iesu Grist ddim yn fab i Dduw? Mae posib dod i'r casgliad yna drwy edrych arno mewn ffordd hanesyddol, ond o ran astudio beth sydd lawr ar y tudalen dw i ddim yn gweld sut all unrhywun fethu y faith ei bod nhw'n galw Iesu yn fab i Dduw hanner dwsin o weithiau.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron