Tudalen 3 o 4

PostioPostiwyd: Maw 09 Rhag 2003 10:08 pm
gan fela mae
yn union !! mowredd :ofn: siomedig :drwg:

PostioPostiwyd: Mer 10 Rhag 2003 2:17 pm
gan Rhys Llwyd
ia dyna o nin ddeud. nid dissio p.th fel person! sori falle bo fi'n sterioteipio p.th, pa efengyl ma fen prytgethu?

PostioPostiwyd: Iau 17 Ion 2008 2:56 am
gan Carwyn Fowler
Heb fod ar Faes-e ers cwpl o flynyddoedd, ond dyma fi'n Googlo "Undodiaid" a gweld y pwnc difyr yma gan fy hen ffrind, Cardi Bach.

Dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf, dwi wedi dod i'r casgliad mod i'n "Undodwr", yn hytrach na Christion. Y gwir amdani yw bod gen i ffydd ddigamsyniol yn y "syniad" o fod Duwiol. Ond dydw i ddim yn teimlo bellach bod y ffydd hynny'n dibynol ar Iesu y gwaredwr.

Derbyniais magwraeth Cristnogol c(CofE yng Nghaerlyr, wedyn yr Anibynnwyr yng Nghymru). Bellach wedi ymuno a Ffederasiwn (Brydeinig) yr Undodiaid, ac mae'n bwriad gen i gollwng fy aelodaeth o'r Anibynnwyr yn fuan iawn. Nid ar chwarae bach - ces i fy nerbyn i'r eglwys Anibynnol ym 1989.

Rwyf wrthi'n ceisio magu dealltwriaeth o Undodaeth. O'm dealltwriaeth hyd yma, tyfodd o Gristnogaeth anghydffurfiol y G17 (tebyg felly i'r Anibynnwyr, Methodistiaid ag ati). Mae'r syniad o "Unitarian and Free Christian Churches" yn dal i fynd, ac mae unigolion oddi fewn i Undodaeth yn pwysleisio' hen linc gyda Christnogaeth.

Serch hynny, mae carfannau eraill oddi fewn i Undodaeth wedi mynd camau ymhellach. Gellid ddisgrifio Undodaeth yn agosach mewn rhai ffyrdd at ddynoliaethwyr ((?) Humanist), neu Bwdhiaeth. Dwi innau'n teimlo'n agos o ran theoleg at yr Iddewiaeth Rhyddfrydol sydd yn perthyn i rhai om cefndryd yn Lloegr (er nad wyf i o'r dras hynny).

Heb geisio swnio'n rhwysgfawr, mae rhesymmau theolegol, diwyllianol a gwleidyddol pam i mi gefnu ar Gristnogaeth "G fawr" yn ddiweddar. Yn sylfaenol - yn credu nad Crist yw "Mab Duw" (er, mwy na thebyg, fe yw yr athro gorau a gefais erioed).

Rwyf yn "ffan" mawr o bob agwedd o'r Nadolig - ond galla'i ddim yn credu yn y genu gwyrthiol.

Erbyn hyn, yn teimlo bod "bywyd tragwyddol" yn ymwneud yn fwy gyda'r atgofion ry'n ni'n gadael ar eu hol yng nghalonnau a meddyliau y rhai sydd yn agos atom - yn hytrach nag ennill "lle" tiriogaethol yn y nefoedd ar ol marw.

Rhesymmau diwyllianol hefyd - adwaith yn erbyn efengylaeth Cristnogol, yn pregethu neges "absoliwt" y groes.

Mae'n gwerth nodi bod enw "Y Smotyn Du" (Calondir Undodaeth yn ne Ceredigion) wedi tarddu o agwedd ddirmygus Cristnogion lleol...

Bobl bach - do'n i ddim wedi bwriadu traethu fel hyn - ond bydd yn werth gweld os oes ymateb

PostioPostiwyd: Iau 17 Ion 2008 4:39 am
gan Hen Rech Flin
Yr wyf yn Drindodwr, ac yn fodlon dalau yn groch dros wirionedd y Drindod a cham ddealltwriaeth Undodiaid parthed yr athrawiaeth hon.

Yr wyf yn perthyn i'r traddodiad efengylaidd Prydeinig (os nad y traddodiad efengylaidd hollol Gymreig).

Yr wyf yn credu bod Crist yn fab i Dduw a'i fod wedi marw fel iawn drosof ar Galfaria. Ac o dderbyn trwy ffydd ei iawn, y caf faddeuant o fy holl bechodau a fy nghymodi a Duw trwy hynny.

Rwy'n credu fy mod wedi Dewis Crist a'i farwol glwy’ fy mod wedi dewis cael fy nghadw. Mae Rhys yn credu bod Duw wedi rhag-ethol y sawl sydd yn gadwedig. Gan fy mod yn gwrthod rhag-etholedigaeth mae Rhys yn amau nad ydwyf yn Gristion go iawn. Dydy o ddim yn credu bod Pabyddion yn Gristionogion go iawn, ac mae o'n methu derbyn bod Undodiaid yn Gristnogion go iawn chwaith. Hyn oll ar sail athrawiaethau uchel Calfinaidd llym.

A dyma ddrwg y traddodiad Efengylaidd Calfinaidd Cymreig. Mae'r Calfiniaid wedi colli golwg ar waredigaeth trwy ffydd ac wedi ei ffeirio am waredigaeth trwy athrawiaeth.

Yr unig un yr ydym yn gwybod amdano sydd wedi ei gadw trwy ras Crist o'r Beibl yw'r lleidr a chyd ddienyddwyd gyda Christ. Pe bai rhywun wedi gofyn i'r gwron hwn beth oedd ei farn am athrawiaeth y Drindod, neu beth oedd ei farn am athrawiaeth draws gyfnewidiad yr offeren, ni fuasai ganddo glem. Mi fuasai wedi ei gondemnio fel heretic gan yr uchel Galfiniaid. Ond eto roedd ei ffydd syml, heb ddealltwriaeth athrawiaethol, yn ddigon i'r Arglwydd dweud wrtho Heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys.

Yr wyf yn gwybod lle yr wyf yn sefyll ar bob pwnc athrawiaethol ac yn fodlon amddiffyn fy safbwynt athrawiaethol i'r eithaf yn erbyn unrhyw un sydd am gael ffrae go iawn am y fath bynciau. Yr hyn nad ydwyf yn fodlon gwneud yw amau gwerth ffydd pur y sawl sy'n anghytuno a fy nealltwriaeth i o athrawiaeth, boed yn Undodwr, yn Babydd na unrhyw un arall sy'n caru'r Arglwydd Iesu Grist.

Cariad at Grist yw sail ffydd Cristionogol. Ffydd yng Nghrist yw sylfaen gwaredigaeth nid athrawiaeth.

PostioPostiwyd: Iau 17 Ion 2008 5:08 pm
gan Macsen
Macsen a ddywedodd:Dim splitting hairs o gwbwl- dyw undodwyr ddim yn gristnogion. Mae derbyn crist fel mab duw yn hollol sylfaenol i gristnogaeth. Does dim posib dehongli yr beibl mewn unrhyw ffordd arall, mewn ffordd ahistorical sydd yn astudio'r text ei hun yn unig, a ddim ei context, wrth gwrs.

Neges braidd yn anffodus gan Macsen oed 18 o ystyried bod Macsen oed 23 nawr yn byw a bod yn undodwr central! :ofn:

Dwi'n gwybod erbyn hyn eu bod nhw i gyd yn bobol hyfryd a christnogion pybyr wrth gwrs. :)

PostioPostiwyd: Iau 17 Ion 2008 5:39 pm
gan sian
fela mae a ddywedodd:Bydd rhaid fi ofyn i Mam yn union be ma'r undodwyr yn credu .. ond dwin siwr bod nhw yn credu bod iesu yn fab i dduw ond bod y tri yn un - Y mab ar tad ar ysbryd Glan.


Tybed? O'n i'n meddwl mai holl bwynt Undodiaeth oedd nad oedden nhw'n credu hynny.
Aha!
"Unitarianism is the belief in the oneness of God opposed to the Christian doctrine of the Trinity (Father, Son, and Holy Spirit in one God). Unitarians believe in the moral authority, but not the deity, of Jesus."

PostioPostiwyd: Iau 17 Ion 2008 5:55 pm
gan Hedd Gwynfor
unitarian.org.uk a ddywedodd:We believe that:

* everyone has the right to seek truth and meaning for themselves.
* the fundamental tools for doing this are your own life experience, your reflection upon it, your intuitive understanding and the promptings of your own conscience.
* the best setting for this is a community that welcomes you for who you are, complete with your beliefs, doubts and questions.

We can be called religious ‘liberals’:

* religious because we unite to celebrate and affirm values that embrace and reflect a greater reality than self.
* liberal because we claim no exclusive revelation or status for ourselves; because we afford respect and toleration to those who follow different paths of faith.

We are called ‘Unitarians’:

* because of our traditional insistence on divine unity, the oneness of God.
* because we affirm the essential unity of humankind and of creation.


Ond fi dal ddim cweit yn deall. :?

Diddordol fod eu canolfannau yng Nghymru i gyd yn y de, a bod y mwyafrif helaeth rhwng Llandysul ac Aberystwyth. Rhaid yn y De Ddwyrian hefyd.

PostioPostiwyd: Iau 17 Ion 2008 6:04 pm
gan dawncyfarwydd
Ges i sgwrs efo Undodwr unwaith. Nath o ddeud ma'r peth pwysica mewn Undodiaeth ydi parchu credoau eraill, a'i fod o'n casau Calfinyddion. :?

PostioPostiwyd: Iau 17 Ion 2008 9:58 pm
gan sian
fela mae a ddywedodd:mae undodwyr yn gristnogion !! Ma Mam yn undodwraig ac aye ma hi'n dod o ardal y smotyn du - Talgarreg. Pwy ydych chi bobol i weud pwy sy'n gristnogion a pwy sydd ddim.


Dwi'n meddwl bod ateb fela mae (a dwi'n sylweddoli bod hynny bedair blynedd yn ôl) yn dangos fel y mae pobl wedi mynd i feddwl mai ystyr Cristion yw rhywun neis a chymwynasgar. Fues i mewn sefyllfa yn ddiweddar:

"Dyna i chi Gristion!" (am rywun caredig)
"Nadi"
"Ydi mae o"
"Na, mae'n anffyddiwr"
"Allith o ddim bod siwr"

Re: Undodiaid

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 1:19 am
gan Carwyn Fowler
O'r hyn rwy'n deall, rwy'n cytuno gyda'r gosodiad gwreiddiol Cardi Bach bod Undodaeth, erbyn hyn, yn rhywbeth ar wahan i Gristnogaeth (er bod gwreiddiau'r ffydd yng Nghristnogaeth anghydffurfiol - ochr yn ochr a'r Crynnwyr, Annibynwyr, Methodistiaid ag ati.)

Difyr darllen ymateb rhai o'r Cristnogion honedig i'm sylwadau gwreiddiol. Dwn i ddim a fyddai mab y saer coed o Nasareth wedi siarad fel hyn!

Heb unrhyw amheuaeth - mae wedi bod yn dasg unig droi at Undodaeth mwn gwlad sydd yn arddel diwylliant a rhigol (os nad ffydd) Cristnogaeth yn ddi-gwestiwn.

Mae'r feirniadaeth hallt o Gristnogion tuag at Undodaeth ar y fforwm yma yn gwneud i ddyn feddwl sut fath o gormes oedd yn wynebu sylfaenwyr Undodaeth yng Nghymru cwpl o ganrifoedd yn ol (yn enwedig y "Smotyn Du" yn Ne Ceredigion), gyda Christnogion yn eu pardduo o bedwar cyfeiriad y cwmpawd!

Braf byddai gweld sylwadau Cardi Bach - dere nol ble bynnag wyt ti! Rwy'n tybio mai 'cytuno i anghytuno' y bydden ni o ran theoleg, ond fe wn y byddai'r hyn sydd ganddo i ddweud yn gwerth trafod o ddifri.