Cyn y Dechrau: Paradwys Goll

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyn y Dechrau: Paradwys Goll

Postiogan Macsen » Mer 08 Hyd 2003 4:29 pm

Meddyliais y buasai yn hwyl dechrau o'r dechrau un wrth astudio'r Beibl. Hynny yw, cyn i'r Beibl hyd yn oed ddechrau.

Does dim posib i ni wybod beth ddigwyddodd cyn i'r byd ddechrau, ond drwy astudio'r Beibl mae'n bosib cael ryw fath o syniad.

Y Cwestiwn Mawr yw:

Os mae Duw yn berffaith ac yn holl bwerus, sut allai fod wedi creu bydolaeth amherffaith? Mae posib dadlau mai yr Angel a Ddisgynodd, y diafol (dim diafol maes-e), a ddechreuodd y pechod; ond os felly beth oes rhesymau Duw am adael i'w angylion ei fradychu yn y lle cyntaf?

Unrhyw feddyliau? :?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 08 Hyd 2003 10:55 pm

wel ma na rai pethe ni ddim yn deall, pethe falle ni ddim FOD deall.

Os bydde ni yn eu deall mi fydde ni ar run lefel a Duw ac felly fydde dim byd yn gwneud Duw yn oruwchnaturiol ac felly fydde fe ddim yn Dduw!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Iau 09 Hyd 2003 12:10 pm

Dwi'n deall hynny, ond mi allan ni o leiaf drafod y peth.

Hyd yn oed os ydyn ni yn ignorant, mae yna rywbeth i'w ddweud am fod yn ignorant ar lefel lot uwch na pawb arall.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Cardi Bach » Iau 09 Hyd 2003 2:47 pm

:ofn:
sdim syniad 'da fi, wir!
ar y foment hon beth sy'n 'y nharo i yw nag os lot o ots 'da fi siwd ddoth yr un drwg i fodolaeth. digon yw gwbod fod e 'ny ac mai 'drwg' yw e.

o ran hynny, fel fi wedi gweud mewn edefyn arall, ma Duw wedi rhoi i ni ewyllys rydd. Heb hynny beth fyddai pwrpas popeth?

Beth YW pwrpas popeth?

Cwestiwn amhosib, a fel awgrymodd Rhys, ma'r math hyn o gwestiwn, (i fi,) yn amherthnasol (neu ma mren i rhy fach a chul, fel dyn, i allu amgyffred lefel y Bod Mawr). Digon yw gwbod fod gofyn i ni weithredu yn unol a ewyllys Duw - ma hynny yn anodd yn ei hunan gyda'r holl demtashyne sy'n dod ar ein traws, gyda'n balchder a 'pier-pressure' ayb heb son am feddwl am bethe hiawj fel siwd ddoth yr un drwg i fodolaeth!!!!!!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Macsen » Gwe 10 Hyd 2003 12:41 pm

Cardi Bach a ddywedodd:'pier-pressure'


Dwi erioed wedi cael problem gyda pier-pressure, gan nad ydwyf yn byw wrth lan mor.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Macsen » Sul 30 Tach 2003 9:04 pm

Dwi'n meddwl mae yr ffordd gorau i wneud sens o Dduw ydi fel ei fod o'n sum of a remainder o unbalanced equation inherent i'r bydysawd. Roedd hyn obviously yn anghywir, gan bod dim balans i 'da' a 'drwg', ergo roedd rhaid i Dduw creu 'drwg', apropos y diafol, i falansio pethau allan.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Leusa » Sul 30 Tach 2003 9:37 pm

Fel un sy'n credu mewn esblygiad a natur yn hytrach na Mr Duw, dwi'n credu fel popeth arall mai wedi esblygu i fod yn ddrwg mae pobol.
Mae'r beibl fel metaffor yn ceisio dangos hyn yn stori Adda ac Efa lle mae'n dweud wrthyn nhw beidio buta'r afal sanctaidd. Hynny yw, mae'n creu nhw'n berffaith, rhoi arweiniad iddyn nhw ar fywyd, ond yn syth mae nhw'n peidio dilyn hynny mae popeth yn mynd yn rong, a dim lle suw ydio bellach i gadw cyntrol.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Macsen » Gwe 16 Ion 2004 5:52 am

Leusa a ddywedodd:Fel un sy'n credu mewn esblygiad a natur yn hytrach na Mr Duw,


Mae posib credu yn y ddau, os wyt ti'n cymeryd Genesis fel metaffor.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron