Ar un ystyr na.
Hynny yw gallen i ddim uno mewn addoliad a Chatholigion neu Eglwys Loegr achos mod i ddim yn credu yn y ffwlbri a nonsens sydd ynghlwm yn y seremoni o addoli.
Ond o ran y cyrff anghyd-ffurfiol - hefyd na!
Ma'r Presbyteriaid wedi canoli trefn (a grym) i Gaerdydd. Mae hyn yn mynd yn erbyn egwyddor holl bwysig o ewyllys rydd.
Ma na reswm penodol pam odw i'n annibynwr a hynny yw am fod y corff/teulu sy'n addoli yn hollol ddemocrataidd ac yn gallu penderfynnu ar pa lwybyr y dylai'r capel gymryd.
Fe allen i addoli yn ddigon rhwydd a'r Bedyddwyr.
O uno'r enwadau byddai yna ormod o gyfaddawdu - rhai pethau sylfaenol na allen i gyfaddawdi yn un peth, er enghraifft canoli popeth i un man fel y gwna'r Presbyteriaid, neu ddod a threfn benodol i addoliad yn erbyn ewyllys y capeli ayb.
Syniad amgenach ges i yn capel pyddyrnod (ac un sydd ishws y cael ei drafod, felly nid syniad gwreiddiol mohono
) yw sefydlu canolfannau Cristnogol.
Ystyriwch:
Un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu ein capeli yw tlodi a diffyg niferoedd. Hefyd mae llai a llai o bobl yn mynd i'r weinidogaeth. Gadewch i ni edrych ar Aber fel enghraifft. Mae oleia tair capel Annibynol mewn 'prime real estate' - lleoliad perffaith ar gyfer busnesau. Brics a mortar yw adeilad y capel yn y bon. Fi ddim yn awgrymu gwerthu'r rhain, ond yn hytrach cadw'r adeilad/capel mwya (o bob enwad anghydffurfiol) a renti'r gweddill mas i fusnesau. Byddai hyn yn golygu llif cyson o incwm. Gallau'r incwm yma gael ei ddefnyddio i argraffu, neu yn well fyth i gyflogu swyddogion datblygu ar lawr gwlad ymhlith y cymunedau lleol. Pobl fydd yn cynnal dosbarthiadau, gweithdau, chwaraeon i'r plant, stondynau stryd ayb. Hefyd gallau hyn olygu fod gan bob enwad un gweinidog maes wedi ei b/phenodi ar gyfer ardal benodol (gogledd Ceredigion er enghraifft). Byddai'r un ganolfan Gristnogol wedyn gyda capel/man addoli gyda trefniant rhwng yr enwadau (ee. Bedyddwyr 10-11, Annibynwyr 11.30 - 12.30, Meths 1-2, Undodwyr - 2.30 - 3.30ayb) a hynny ar gyfer gwasanaethau y Sul, a modd i rannu adnoddau i gynnal cyfarfodydd gweddi, ysgolion, seiadau ayb
Fi'n siwr y byddai rhwbeth fel hyn o les mawr iawn i Gristnogaeth a'r enwadau anghyd-ffurfiol yng Nghymru ac mai dyma yw'r ffordd ymlaen.
Beth chi'n feddwl?