fela mae a ddywedodd:Dwim n deall pobl yn pasio sawl capel i fynd i ryw gapel arbennig.
Fela Mae, mae hyn yn amlwg, os nad ydyw rhywyn yn cytuno efo diwinyddiaeth un capel ma nw mynd i fynd i gapel ble ma nw YN cytuno.
Nesi ddarllen
Hanes Mudiad Efengylaidd Cymu yn ddiweddar a ma fe'n son yna pam gwnaeth bobl adael enwadau bedyddwyr/Methodistiaid ayyb... a sefydlu capeli newydd.
dyma ddyfyniad am sefydlu Eglwys Efengylaidd Aber
Hanes MEC '48-'98 a ddywedodd:Bu 1967 yn flwyddyn fawr i efengyleiddwyr Aberystwyth. Bu'n drobwynt yn hanes Gordon Macdonald, a dyma'r flwyddyn y gadawodd saith o fyfyrwyr Goled y Presbyteriaid yn y dref. Un a oedd a diddordeb byw yn y digwyddiadau hyn oedd Bobi Jones (Athro Cymraeg yn y Brifysgol, ef oedd 'gofalydd' Emyr Llew amser bomio Tryweryn ac ef ydy awdur 'Crist a Chenedlaetholdeb').
Yr hyn a ddigwyddodd oedd bod criw o bobl ifanc, ar y pryd, yn cwrdd i astudio'r beibl ac fe sylwon nhw fod yr enwadau ddim yn rhoi y pwyslaid ble y lice nw weld y pwyslais, felly se sefydlon nhw eglwys eu hunain. [/quote]