1 Capel i Gymru!

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

1 Capel i Gymru!

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 08 Hyd 2003 7:14 pm

Pwy sy'n meddwl fod angen uno'r gwahanol enwadau yma yng Nghymru! Mae gen i farn, ond fydde'n well gen i glywed eich dadleuon chi yn gyntaf.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 08 Hyd 2003 11:02 pm

wel...

Bydde ni'n gweld e'n annodd uno fy nghapel i (eglwys efengylaidd Aber) a dyweder fel enghraifft capel methodistaidd nodweddiadol
A hynny ar sail diwinyddiaeth NID ar sail traddodiad.

Nid yw dehongliad sawl enwadwr o'r Beibl yn unol a dehongliad efengylwyr FELLY ni fyddai modd i ni gyd addoli.

Rhaid tynnu sylw wrth gwrs at y ffaith nad yw llawer o edwadwyr yn cynrhychioli y Methodistiadi Calfinaidd oherwydd ar papur Calfinwyr ydy efngylwyr!!!

Ma fy nghadcu i yn brygethwyr efengylaidd ond gweinidog gydar methodistiaid oedd ef. Gallaf enwi lond dwrn o brygethwyr sy'n prygethur efengyl ond sy'n weinidogion gyda'r Annibynnwyr (Arfon Jones, Guto Prys, Geraint Tudur, Andrew Lenny).

Felly beth sy'n bwysig yw'r NEGES nid yr enwad.

Bydde ni'n gallu ymuno gyda Methodistiaid ac Annibynwyr sy'n pregethu run efengyl a mi OND nid rhai sy'n prygethu efengyl wahanol.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Iau 09 Hyd 2003 1:52 pm

Diddorol.

Dwi ddim yn gweld posebilrwydd i uno pob capel yng Nghymru dan yr un faner. Ond ar y llaw arall does dim gwahaniaeth arbenig o fawr rhwng beth mae'r cylchoedd gwahanol yn ei bregethu; Iesu Grist yw'r prif bwyslais, ac mae unrhywbeth arall yn disgyn i ddehongliad personol pob unigolyn o'r beibl. Os mae'r person yn dehongli'r beibl yn y ffordd mae o'n meddwl sydd orau i wasaneathu Duw, yna mae o yn y math gorau o gristion os mae ei ddehongliad yn anghywir neu peidio.

Dwi ddim yn cytuno a fy mhregethwr ar rhai pwyntiau, ond dwi'n cytuno ar y prif bwyntiau. A dyna pam ddylsai cristnogion Cymru, neu hyd yn oed y byd cyfan, fedru hedfan dan yr un fanner.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Cardi Bach » Iau 09 Hyd 2003 2:26 pm

Ar un ystyr na.
Hynny yw gallen i ddim uno mewn addoliad a Chatholigion neu Eglwys Loegr achos mod i ddim yn credu yn y ffwlbri a nonsens sydd ynghlwm yn y seremoni o addoli.

Ond o ran y cyrff anghyd-ffurfiol - hefyd na!

Ma'r Presbyteriaid wedi canoli trefn (a grym) i Gaerdydd. Mae hyn yn mynd yn erbyn egwyddor holl bwysig o ewyllys rydd.

Ma na reswm penodol pam odw i'n annibynwr a hynny yw am fod y corff/teulu sy'n addoli yn hollol ddemocrataidd ac yn gallu penderfynnu ar pa lwybyr y dylai'r capel gymryd.

Fe allen i addoli yn ddigon rhwydd a'r Bedyddwyr.
O uno'r enwadau byddai yna ormod o gyfaddawdu - rhai pethau sylfaenol na allen i gyfaddawdi yn un peth, er enghraifft canoli popeth i un man fel y gwna'r Presbyteriaid, neu ddod a threfn benodol i addoliad yn erbyn ewyllys y capeli ayb.

Syniad amgenach ges i yn capel pyddyrnod (ac un sydd ishws y cael ei drafod, felly nid syniad gwreiddiol mohono :drwg: ) yw sefydlu canolfannau Cristnogol.

Ystyriwch:
Un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu ein capeli yw tlodi a diffyg niferoedd. Hefyd mae llai a llai o bobl yn mynd i'r weinidogaeth. Gadewch i ni edrych ar Aber fel enghraifft. Mae oleia tair capel Annibynol mewn 'prime real estate' - lleoliad perffaith ar gyfer busnesau. Brics a mortar yw adeilad y capel yn y bon. Fi ddim yn awgrymu gwerthu'r rhain, ond yn hytrach cadw'r adeilad/capel mwya (o bob enwad anghydffurfiol) a renti'r gweddill mas i fusnesau. Byddai hyn yn golygu llif cyson o incwm. Gallau'r incwm yma gael ei ddefnyddio i argraffu, neu yn well fyth i gyflogu swyddogion datblygu ar lawr gwlad ymhlith y cymunedau lleol. Pobl fydd yn cynnal dosbarthiadau, gweithdau, chwaraeon i'r plant, stondynau stryd ayb. Hefyd gallau hyn olygu fod gan bob enwad un gweinidog maes wedi ei b/phenodi ar gyfer ardal benodol (gogledd Ceredigion er enghraifft). Byddai'r un ganolfan Gristnogol wedyn gyda capel/man addoli gyda trefniant rhwng yr enwadau (ee. Bedyddwyr 10-11, Annibynwyr 11.30 - 12.30, Meths 1-2, Undodwyr - 2.30 - 3.30ayb) a hynny ar gyfer gwasanaethau y Sul, a modd i rannu adnoddau i gynnal cyfarfodydd gweddi, ysgolion, seiadau ayb

Fi'n siwr y byddai rhwbeth fel hyn o les mawr iawn i Gristnogaeth a'r enwadau anghyd-ffurfiol yng Nghymru ac mai dyma yw'r ffordd ymlaen.

Beth chi'n feddwl?
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Heledd » Gwe 10 Hyd 2003 4:33 pm

Falle bod uno'r enwadau yn gweithio o safbwynt llenwi seddi gwag yn y capeli, ond o ran diwinyddiaeth, mae'n ychydig anoddach dweud.

Fi'n mynd i gapel yr Annibynnwyr achos mai dyna'r unig un Cymraeg yn ein pentref ni (ac mi alla'i amgyffred yn well gydag efengyl wahanol na iaith wahanol wrth addoli, ond mater arall yw hynny). Hen bobl yw'r rhan fwyaf sy'n mynychu'r capel ac mi gawson nhw gryn sioc pan ddaeth pregethwr ifanc gyda syniadau mwy efengylaidd atom ni rhyw Sul. Oedden nhw'n meddwl ei fod o'n "rhy agos at yr asgwrn" ac yn rhy ddwys.

Wrth gwrs, mae'r bobl hyn yn ddaionus iawn, er eu bod yn cael eu barnu - yn annheg weithie - am fod yn rhagrithwyr. Y peth yw, yn ddiwinyddol, dydi'r sectau ddim yn teimlo 'run fath. Yr un Duw, ond ffordd wahanol o addoli a ffordd wahanol o edrych ar grefydd a blaenoriaethau ffydd. Dydyn nhw, er enghraifft, ddim yn sôn llawer am bechod dyn, ond yn seilio'u crefydd, yn hytrach a gan amlaf ar ddiolchgarwch i Dduw.

Mae'n drueni bod cyn lleied o Gymry (ac o siaradwyr Cymraeg), gan ei bod hi'n demtasiwn i'n pwsho ni i gyd at ein gilydd am fod gennym ni hynny'n gyffredin, ond yn fy nghalon rydw i'n teimlo'n hyderus fod digon ohonom ni ar hyn o bryd i lunio cymdeithas amlhaenog, aml ei syniadaeth ac eangfrydig.

Maen nhw wedi uno'r capeli ym Mangor, ac mae wedi esgor ar ffraeo enbyd, yn ol y sôn!
Rhithffurf defnyddiwr
Heledd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Gwe 10 Hyd 2003 3:56 pm
Lleoliad: Canolbarth

Postiogan Macsen » Gwe 10 Hyd 2003 4:53 pm

Heledd a ddywedodd:Maen nhw wedi uno'r capeli ym Mangor, ac mae wedi esgor ar ffraeo enbyd, yn ol y sôn!


Oes gen ti enw'r capel(i)? Mi oeddwn i'n gwybod bod fy nghapel adref i, Capel y Garth, yn prynu adeilad newydd, ond wn i ddim os mai nhw sy'n uno ac os felly gyda pwy.

Heledd a ddywedodd:Dydyn nhw, er enghraifft, ddim yn sôn llawer am bechod dyn, ond yn seilio'u crefydd, yn hytrach a gan amlaf ar ddiolchgarwch i Dduw.


Dwi'n teimlo bod posib taro ryw fath o gytbwysedd rhwng y ddau. Ac, wrth gwrs, mae un yn dilyn i'r llall mewn pregeth: Da chi'n bechadur, felly y dylsech chi ddiolch i Dduw eich bod chi'n cael maddeuant. (Wn i fod hynny'n symleiddio bethau ychydig yn ormod).

Cardi Bach a ddywedodd:Hefyd mae llai a llai o bobl yn mynd i'r weinidogaeth


Dwi'n credu mi fyddwn ni'n ffeindio bod pregethwyr ifanc newydd yn dod allan o'r woodworks mewn sefyllfaoedd fel hyn. It's always darkest before dawn.

Cardi Bach a ddywedodd:Fi ddim yn awgrymu gwerthu'r rhain, ond yn hytrach cadw'r adeilad/capel mwya (o bob enwad anghydffurfiol) a renti'r gweddill mas i fusnesau.


Mae ein capel ni'n bangor yn lle gamblo a dawnsio gweddill yr wythnos. Dwi'n disgwyl dydd i Dafydd Job ddweud 'Salm 23' a ryw hen ddynes gysglyd weiddio 'Bingo!' yn y cefn.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Heledd » Gwe 10 Hyd 2003 5:07 pm

Ie - fi'n deall be' sy' 'da ti. Sdim pwynt bod yn dân a brwmstan pob tro, ond nid diolchgarwch am faddeuant odd y diolchgarwch o'n i'n meddwl amdano fe, ond diolch llawer symlach, ysgol sulaidd bydde rhywun yn dweud.
Rhithffurf defnyddiwr
Heledd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Gwe 10 Hyd 2003 3:56 pm
Lleoliad: Canolbarth

Postiogan Macsen » Gwe 10 Hyd 2003 5:16 pm

Heledd a ddywedodd:Capel brics efo wal sy'n symud a seddi cyfforddus ... a meicroffôn! Waw! Chi'n lwcus iawn ym Mangor 'na!


Na, capel hen ffasiwn ydan ni, gyda mwy o ddefaid yn pori ar lawr y capel 'na pobl yn y gynilleidfa.

Heledd a ddywedodd: nid diolchgarwch am faddeuant odd y diolchgarwch o'n i'n meddwl amdano fe, ond diolch llawer symlach, ysgol sulaidd bydde rhywun yn dweud.


Dwi'n credu mai anghywir fysai dweud bod llawer o gristnogion-ffug yn llechu yn gynilleidfa rhai o'r capeli-lite yma sydd wedi ei dotio o gwmpas Cymru, ond dwi wedi cyfarfod rhai pobl sydd o'r union farn hynny.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan fela mae » Gwe 05 Rhag 2003 2:19 pm

dwi o farn uno capeli - da ni gyd yn gristnogion ac yn credu mwy ne lai yr un peth. Ma na ormod o glic yn y busnes capeli ma - gormod o gwmpo mas. Ma llai a llai o bobol ifanc yn mynychu'r capeli. Dwi di stopio mynd ir capel ac un or rhesymau am hyn yw dydw i ddim n hoffi'r clic sydd yna. Rydyn ni wedi gwario arian yn ail neud y capel - yn fwy modern - ond beth ywr point pan nad oes pobl ifanc yn mynychu'r capel i werthfawrogi y newid mawr.
wyt ti'n fy herio i y Meri Jen ??
Rhithffurf defnyddiwr
fela mae
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 504
Ymunwyd: Sul 26 Hyd 2003 3:06 pm
Lleoliad: Penrhyn-Coch, Bangor

Postiogan Macsen » Sul 07 Rhag 2003 7:46 pm

Anodd fysai un capeli am fod pobl ddim yn credu'r un peth- diom yr un fath a clique.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron