Rhys Llwyd a ddywedodd:Esbonia i fi Felna mae sut medr prygethwyr/pobl sy'n meddwl fod angen troedigaeth gyd addoli gyda pobl sy ddim yn credu hynny - mae'r peth yn amhosib. Un wthnos gelechi brygethwr yn dweud un peth ar wthnos nesa gele chi brygethwr gwahanol yn dweud cwbwl i'r gwrthwyneb.
Yn syml, i ddweud y gwir mae bron pawb yn tueddu i gredu'r fersiwn o'r Beibl mae ei pregethwr nhw'n ei bregethu. Efallai y buasai cwyno i ddechrau, ond ar ol ychydif flynyddoedd mi fysai bron pawb yn barod i ddilyn yr un ffordd o feddwl. Dwi'n nabod ychydig iawn o gristnogion sy'n fodlon trafeilio ymhellach na'i capel agosa am nad ydyn nhw'n hoffi beth mae'r pregethwr yn ei ddweud (mi oeddwn i'n un ohonyn nhw).
Mae'n rhyfedd bod cristnogion, sy'n mynd ymlaen am undod o fewn y ddynoliaeth, ddim yn gallu ffeindio undod o fewn ei crefydd ei hunain. Beth fysai yn well o ran gwasanaethu Duw: Undod o fewn y capel, dim ffreo a 'getting on with it', ynteu pawb yn ffreuo dros y print man?