Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dw i'n ystyried fy hun yn Gristion. Rydw i'n coelio mewn Duw, yn gweddio iddo ac yn ceisio byw bywyd onest a bod yn berson da y gorau fedraf i.
OND fysa rhanfwyaf o bobl ddim yn fy ngalw i'n GRISTION da. Dydw i ddim yn mynychu unrhyw gwasanaeth crefyddol, dydw i byth wedi teimlo'r angen i wneud, ac rwyf i'n aml yn cwestiynu fy ffydd a'r Beibl. Yn fy llygaid i, fodd bynnag, byw bywyd da sydd yn ennill lle yn y nefoedd yn y pen draw.
I'r Cristion y Beibl yw canllaw bywyd. Yn y beibl, a thrwy air Crist yn y Testament newydd yn fwyaf penodol, y daw'r canllawiau am beth sy'n dda a beth sy'n ddrwg. Os nad wyt ti'n trafod y Beibl (trwy fynychu'r capel, ysgol sul, ywmeld a dy bregethwr lleol, trafod ag eraill sydd wedi darllen/astudio'r beibl) yna sut wyt ti'n gwybod dy fod ti'n bod yn berson 'da'? 'Da' yn ol pwy yw hyn? Gall beth sy'n bod yn dda i ti fod yn ddrwg i rywun arall. Y Bod Mawr sydd felly yn gallu gwneud y penderfyniad ac ef yn unig, ac i'n helpu ni mae e wedi rhoi cymorth - sef y Beibl - map i dy fywyd, os ti ishe.
Hynny yw, beth fi'n weud yw nad ydw i'n ame dy ddaioni o gwbwl, na dy onestrwydd wrth ei weithredu, na chwaith dy ddiffiantrwydd, ond mi wyt ti'n dda yn ol dy delerau dy hunan os nad wyt ti'n cyd-fynd a'r daioni y mae Iesu yn ofyn wrtho ti.