Tudalen 1 o 3

Cristion Gwael!

PostioPostiwyd: Mer 08 Hyd 2003 7:19 pm
gan Hedd Gwynfor
Fi'n bendant yn cyfri fy hun fel Cristion. Fi ddim yn siwr pam? Fi jest yn credu!

OND - Fi'n bendant yn meddwl fy mod i'n gristion gwael, a'n derbyn y byddai nifer o Gristion ddim yn meddwl mod i'n 'GRISTION GO IAWN'!

Fi'n joio meddwi, bron byth yn yn mynd i'r capelm, Amharchu fy rhieni etc etc etc - a fi'n gwbod mod i'n neud y pethau yma, a dwi'n gwbod eu bod yn anghywir - ond fi'n gwneud dim i geisio gwella!

FELLY, YDW I'N GRISTION?

PostioPostiwyd: Mer 08 Hyd 2003 10:54 pm
gan Rhys Llwyd
wel dim fi yw Duw felly sai mynd i ddechre dy farnu di

OND he allai neud yw herio dy ffydd di!

Ma'n gam cynta da bo ti'n cyfaddef dy fod ti'n bechadur sy'n pechu'n agored, meddwi ayyb...

Felly yr her i ti bydde ni'n dweud yw, wyt ti'n gwneud popeth er gogoniant i Dduw fel y dylai bob Cristion (yn ol y Beibl).

Ydy meddwi yn ffordd o ogoneddu Duw?

PostioPostiwyd: Iau 09 Hyd 2003 8:40 am
gan Hedd Gwynfor
NA! :winc:

PostioPostiwyd: Iau 09 Hyd 2003 10:07 am
gan Rhys Llwyd
hehe

ny ni te!

Ti'n meddwl alldi neud rwbeth amdano fe?

...ond rhaid cofio mae yr ysbryd sy bwysicaf a dylai eich gweithredoedd adlewyrchu cyflwr eich ysbryd (h.y bod yn ddarostynedig i dduw oherwydd fod e wedi maddau eioch pechodau ayyb....)

PostioPostiwyd: Iau 09 Hyd 2003 2:38 pm
gan Cardi Bach
sneb yn berffeth hedd.
aelod o'r ddynol ryw wyt ti.
ma temtashynne yn bownd o ddod i'n rhan.
ond treial dysgu a dod dros y pethe hyn yw'r dasg a neud beth ti'n gallu, wirioneddol, i wella a gweithredu yn unol a galwedigaeth y Bod Mawr.
Fi'n meddwi'n dwll a'n neud reial nob o'n hunan. Fi'n gwbo bo fi, a fi'n gwbo bo fi am neud e to. Ond bydden i'n awgrymu mai pechod mwya meddwi yw'r amser sy'n cal ei wastraffu gyda'r hangofyr, achos yn aml yn fy medd-dod i am ffrindie y'n ni wedi ymhelathu fwya ar ein gwleidyddieth a wedi datblygu syniade a neud ffrindie a chyfrannu at fodolaeth mewn ffyrdd gwahanol. Ond ma ochr wael i feddwi sef yw y newid cymeriad, a ma hwnna yn wael ... :?
besicli, os wyt ti'n galw dy hunan yn Gristion ond ddim yn gweithredu fel un ac yn ymwybodol o hynny a ddim yn becso'r dam am hynny, wedyn dyw hwnna ddim yn arwydd da iawn :winc:
ond ti ddim.
ti yn pechu, ti'n twmlo'n euog, ti ishe maddeuant (ma ffyrdd gwahanol o ddatgan hyn heb orfod cosbi dy hunan gyda fflangell) a ti'n treial dysgu. Ti'n byw y gore ti'n gallu yn yr amgylchiade ti wedi cal dy roi ynddo. ti'n cyfrannu popeth o dy egni (fi'n gwbod) at ddynolieth a gwella bywyd dy gyd-ddyn.

so bydde i'n awgrymu bo ti fel fi, yn trial bod yn Gristion Da, ond ddim wastad yn llwyddo - ond bo ti'n dal i gredu. :D
sdic ati. gwella newn ni wrth bo ni'n eiddfedu...

odi hwnna'n swno'n deg?

PostioPostiwyd: Gwe 10 Hyd 2003 3:47 pm
gan Aled Owen
Daeth un o’r arweinwyr Iddewig at Iesu ar ôl iddi dywyllu un noson. Pharisead o'r enw Nicodemus oedd y dyn,
2 ac meddai wrth Iesu, "Rabbi, dyn ni’n gwybod dy fod di'n athro wedi ei anfon gan Dduw i’n dysgu ni. Mae’r gwyrthiau wyt ti’n eu gwneud yn profi fod Duw gyda ti."
3 Dyma Iesu'n ymateb trwy ddweud hyn wrtho: "Cred di fi – all neb weld Duw’n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni oddi uchod."
4 "Sut all unrhyw un gael ei eni pan mae’n oedolyn?" gofynnodd Nicodemus. "Fedran nhw’n sicr ddim mynd i mewn i’r groth am yr ail waith i gael eu geni felly!"
5 Atebodd Iesu,"Cred di fi, all neb brofi Duw’n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni drwy ddŵr a drwy’r Ysbryd.
6 Mae’r corff dynol yn rhoi genedigaeth i berson dynol, ond yr Ysbryd sy’n rhoi genedigaeth ysbrydol. 7 Ddylet ti ddim synnu wrth i mi ddweud, 'Rhaid i chi gael eich geni oddi uchod.'

Ioan 3:1-7

Roedd Nicodemus yn foi eitha parchus yn ei ddydd.Roedd o'n byw bywyd moesol iawn,yn dilyn gair Duw ac yn ceisio ewyllys Duw, ond doedd o ddim yn gristion. Ma Iesu yn deud yn glir yma bod angen i bob un gael ei ail geni yn yr Ysbryd os ydynt am fynd ir nefoedd(h.y dod yn gristion).
Fellu os nad wyt ti wedi derbyn yr Ysbryd Glan nid wyt ti am dderbyn nerth gan Dduw i wrthsefyll temtasiwn.
Be fuaswn i'n awgrynu i ti neud ydi treulio amser bob dydd yn darllen dy feibl ac yn gweddio, mi fydd Duw yn rhoi nerth i ti.Cofia hefyd mai nid trwy dy weithredoedd di ti'n gyfiawn ond trwy waed Crist.

PostioPostiwyd: Llun 13 Hyd 2003 2:37 pm
gan Rhys Llwyd
da cal rhywyn syn gwbod ei feibl yn dda ar y maes :wps:

PostioPostiwyd: Sul 30 Tach 2003 9:44 pm
gan Leusa
:ofn: Oni yn meddwl na Jeni Wine odd wedi deud hynna i gyd fana!

PostioPostiwyd: Llun 01 Rhag 2003 12:33 pm
gan fela mae
wi dal ddim yn deall :? so yn ol rhai o chi fan hyn - se ni'n marw fory nesa swn in mynd i uffern ??

Bydd rhaid fi newid fy ffordd o fyw er mwyn mynd ir nefoedd ?


Dwi'n cyfri fy hun fel cristion - mynd ir capel ar ysgol sul - ac yn trio dilyn y ffor iawn o fyw - er dwi n colli fy nhymer weithie ac yn mynd allan i fwynhau - yfed a meddwi ar y sadyrnau os dwi'n gofyn am faddeuant bob tro ar ol gneud allai dal fynd ir nefoedd ??

PostioPostiwyd: Llun 01 Rhag 2003 12:59 pm
gan Cardi Bach
fela mae a ddywedodd:wi dal ddim yn deall :? so yn ol rhai o chi fan hyn - se ni'n marw fory nesa swn in mynd i uffern ??

Bydd rhaid fi newid fy ffordd o fyw er mwyn mynd ir nefoedd ?


Dwi'n cyfri fy hun fel cristion - mynd ir capel ar ysgol sul - ac yn trio dilyn y ffor iawn o fyw - er dwi n colli fy nhymer weithie ac yn mynd allan i fwynhau - yfed a meddwi ar y sadyrnau os dwi'n gofyn am faddeuant bob tro ar ol gneud allai dal fynd ir nefoedd ??


Wel, er tegwch, a strictli siarad, na sai'n credu fod gofyn am faddeuant yn ei hunan yn 'one way ticket' i'r nefoedd.

Gall unrhyw 'ionc' droi rownd a 'gofyn am faddeuant'. Peth arall yw gofyn am faddeuant ac addo ymdrechu i beido a neud beth enst ti eto.

Dyna un o wendidau Catholigaeth fel mae'n cael ei ymarfer heddiw. Mae rhywun yn pechu, ac yn gofyn am faddeuant ac mae nhw'n iawn i bechu eto ar ol sawl bynnag 'hail mary's'. O gymryd hyn i eithafion gallen i lofruddio heddi, gofyn am faddeuant, a mynd ati eto fory yn gwbod y caf i getawe gyda fe dim ond o ofyn am faddeuant.

Ma'n rhaid i bawb newid eu ffordd o fyw er mwyn mynd i'r nefoedd. Na pam fod bod yn Gristion yn waith anodd, a fod gyment o bobol yn erbyn Cristnogeth.

Dim bod yn hunangyfiawn yw hyn chwaith, achos fi'n llwyr ymwybodol mod i'n bachadur, ac fi wirioneddol yn trail newid yn ffordd o fyw. Ond mae'n anodd - yn gythreilig o anodd.