Cristion Gwael!

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cardi Bach » Llun 05 Ion 2004 10:19 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dw i'n ystyried fy hun yn Gristion. Rydw i'n coelio mewn Duw, yn gweddio iddo ac yn ceisio byw bywyd onest a bod yn berson da y gorau fedraf i.

OND fysa rhanfwyaf o bobl ddim yn fy ngalw i'n GRISTION da. Dydw i ddim yn mynychu unrhyw gwasanaeth crefyddol, dydw i byth wedi teimlo'r angen i wneud, ac rwyf i'n aml yn cwestiynu fy ffydd a'r Beibl. Yn fy llygaid i, fodd bynnag, byw bywyd da sydd yn ennill lle yn y nefoedd yn y pen draw.


I'r Cristion y Beibl yw canllaw bywyd. Yn y beibl, a thrwy air Crist yn y Testament newydd yn fwyaf penodol, y daw'r canllawiau am beth sy'n dda a beth sy'n ddrwg. Os nad wyt ti'n trafod y Beibl (trwy fynychu'r capel, ysgol sul, ywmeld a dy bregethwr lleol, trafod ag eraill sydd wedi darllen/astudio'r beibl) yna sut wyt ti'n gwybod dy fod ti'n bod yn berson 'da'? 'Da' yn ol pwy yw hyn? Gall beth sy'n bod yn dda i ti fod yn ddrwg i rywun arall. Y Bod Mawr sydd felly yn gallu gwneud y penderfyniad ac ef yn unig, ac i'n helpu ni mae e wedi rhoi cymorth - sef y Beibl - map i dy fywyd, os ti ishe.

Hynny yw, beth fi'n weud yw nad ydw i'n ame dy ddaioni o gwbwl, na dy onestrwydd wrth ei weithredu, na chwaith dy ddiffiantrwydd, ond mi wyt ti'n dda yn ol dy delerau dy hunan os nad wyt ti'n cyd-fynd a'r daioni y mae Iesu yn ofyn wrtho ti.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 05 Ion 2004 7:04 pm

Fy amddiffyniad fysa fy mod i'n credu nad yw Duw yn siarad gyda ni drwy lyfr, ond yn hytrach drwy emosiynau a chydwybod. Yn wir, mae'r syniad o fyw bywyd da yn cael ei adrodd yn y Beibl, OND nid ydw i'n selio byw bywyd da ar air y Beibl ond, yn hytrach, drwy'r hyn yr ydw i'n deimlo a gwneud. Mae teimladau'n rhywbeth llawer cryfach na geiriau unrhyw lyfr.

Daw hyn a fi eto at y pwynt o'r Beibl ei hun - gair Duw/gair dyn? Sut ydan ni i wybod nad dyn a'i hysrifennodd a fod ei dueddiadau ef wedi ei fynegi ynddo, ac fod darnau a thueddiadau wedi eu hychwanegu ar ol y Beibl gwreiddiol? Dyna fy mhrif gwyn am y Beibl, dw i'n amau ei ddilysrwydd.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Macsen » Llun 05 Ion 2004 7:43 pm

Rachub a ddywedodd:Fy amddiffyniad fysa fy mod i'n credu nad yw Duw yn siarad gyda ni drwy lyfr, ond yn hytrach drwy emosiynau a chydwybod. Yn wir, mae'r syniad o fyw bywyd da yn cael ei adrodd yn y Beibl, OND nid ydw i'n selio byw bywyd da ar air y Beibl ond, yn hytrach, drwy'r hyn yr ydw i'n deimlo a gwneud. Mae teimladau'n rhywbeth llawer cryfach na geiriau unrhyw lyfr.


Felly Duw y Beibl ydi hwn, ta wyti yn addoli dy Dduw ti dy hun? Dim fy mod i'n dy farn di am wneud hynny- ffeindio sicrwydd yn dy hun a'r byd o dy gwmpas ydi prif bwrpas crefydd, yn fy marn i.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 05 Ion 2004 8:07 pm

Y Duw rwy'n ei adnabod yw hwnnw. Mewn gwirionedd, mae'n jyst digwydd bod yr un peth a'r Beibl yn hynny o beth, ond digon teg dweud fod fy Nuw i wedi'i selio ar yr un yn y Beibl drwy flynyddoedd o ysgol Sul a.y.y.b.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron