Cristion Gwael!

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan fela mae » Llun 01 Rhag 2003 1:08 pm

so wi'n mynd i uffern oherwydd mod in hoffi mwynhau ar ambell i nos sadwrn ?? :( hwna'n scarey - sai moyn mynd i uffern :( gallai ofyn wyt ti'n efyngyl cardi ?? achos ma pob enwad yn credu gwahanol bethau. Yw e'n iawn dweud yn ol yr efnygl dwi yn mynd i uffern ??
wyt ti'n fy herio i y Meri Jen ??
Rhithffurf defnyddiwr
fela mae
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 504
Ymunwyd: Sul 26 Hyd 2003 3:06 pm
Lleoliad: Penrhyn-Coch, Bangor

Postiogan Cardi Bach » Llun 01 Rhag 2003 4:49 pm

fela mae a ddywedodd:so wi'n mynd i uffern oherwydd mod in hoffi mwynhau ar ambell i nos sadwrn ?? :( hwna'n scarey - sai moyn mynd i uffern :( gallai ofyn wyt ti'n efyngyl cardi ?? achos ma pob enwad yn credu gwahanol bethau. Yw e'n iawn dweud yn ol yr efnygl dwi yn mynd i uffern ??


Na sai'n credu y gallen i gal yn nehonhli fel 'efengyl' :lol:
Ti'n iawn ma pob enwad a phwyslais gwahanol, ond o fewn y traddodiad protestanaidd wy ddim yn credu y ffindi di enwad sy'n caniatau pechu dim ond i ti ofyn am feddeuant unweth yr wthnos a gadel ti fynd mlan i bechu.

Mae'n hawdd hefyd dehonglu'r beibil a christnogaeth i fod yn grefydd sydd yn siwto ein anghenion ni - sydd yn y pendraw yn 'defeating the object' - dim crefydd neis neis yw Cristnogeth sydd yn cael ei deilwrio i siwto anhenion cnawdol/dynol pawb.

Dyw e ddim lan i fi i benderfynnu a wyt ti am fynd i'r nefoedd neu uffern. y Bod mawr yn unig sydd a'r gallu hynny. Y cwbwl y galla i neud yw byw'n fywyd i y gore galla i a thrial sicrhau fod eraill hefyd yn gweld gobeth yn Iesu. Fi'n ffeili yn amal iawn. Yn bersonol fi ddim yn credu fod 'mwynhau' yn bechod (bydd yn rhaid i ti ymhelaethu ar hwnna, ond ma mwynhau yn gyffredinol yn berffeth naturiol :D . Ma'r busnes 'sych-Dduwiol yma yn drist). Ma hawl a rhaid i ti fwynhau, ond fod y mwynhad hwnnw ddim yn golygu dy fod tin fwriadol bechu. Unweth eto, fi'n ffeili, ond fi'n trial - yn galed - i newid :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Macsen » Llun 01 Rhag 2003 6:50 pm

Yn ol fy nehongliad i o'r Beibl, fel y dywedodd Cardi, dyw gofyn am faddeuant a dim gwneud ymdrech i newid dy ffordd ydi'r peth drwg. Mae Duw yn gwybod ein bod ni methu peidio pechu, ond gwneud ymdrech i beidio ydi'r ffactor pwysig sy'n profi i Dduw ein bod ni yn ei garu fo.

Wn i ddim os yw meddwi yn bechod chwaith -gweler yr edefyn 'Yfed ac Meddwi'.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 01 Ion 2004 12:19 am

Ifan Morgan Jones a ddywedodd: Mae Duw yn gwybod ein bod ni methu peidio pechu, ond gwneud ymdrech i beidio ydi'r ffactor pwysig sy'n profi i Dduw ein bod ni yn ei garu fo.


a diolch iddo am fadde bo nin pans yn stopio pechu
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 01 Ion 2004 11:39 am

Dw i'n ystyried fy hun yn Gristion. Rydw i'n coelio mewn Duw, yn gweddio iddo ac yn ceisio byw bywyd onest a bod yn berson da y gorau fedraf i.

OND fysa rhanfwyaf o bobl ddim yn fy ngalw i'n GRISTION da. Dydw i ddim yn mynychu unrhyw gwasanaeth crefyddol, dydw i byth wedi teimlo'r angen i wneud, ac rwyf i'n aml yn cwestiynu fy ffydd a'r Beibl. Yn fy llygaid i, fodd bynnag, byw bywyd da sydd yn ennill lle yn y nefoedd yn y pen draw.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 01 Ion 2004 1:42 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:byw bywyd da sydd yn ennill lle yn y nefoedd yn y pen draw.


bendant yn bwysig OND genai ofn, yn ol y beibl taw nid dyna sut ma cyraedd y nefoedd. Nai ffeindio dyfyniadau i ti, ond ddim nawr cos dwi fod rhwle mewn 10 munud!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 01 Ion 2004 4:31 pm

Hehe digon teg Rhys OND fel wyt ti'n gwybod, dydw i ddim yn coelio yn y Beibl! :winc:
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Macsen » Iau 01 Ion 2004 4:43 pm

Sut allet ti alw dy hun yn gristion heb goelio yn y Beibl? Pa lyfrau eraill wyt ti'n cael hi'n anodd i'w gweld? Ai dy het sydd yn ffordd dy lygaid? :winc:

Os wyt ti wir yn gristion, Rachub, mi fyswn i'n ti yn carlamu draw at y edefyn Yfed a Meddwi. Meistr ar y pwnc. :D
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 02 Ion 2004 1:39 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Hehe digon teg Rhys OND fel wyt ti'n gwybod, dydw i ddim yn coelio yn y Beibl! :winc:


ma hynny fel dweud dy fod ti'n dilyn athroniaeth Darwin ond nad wyt ti'n coeli yr hyn sydd yn 'The Oregin of Species'.

neu

dweud dy fod ti'n ffan mawr o ddoniau ysgrifennu Lennon a Mcartney ond dy for ti'n gwadu mae nhw nath sgwennu caneuon y Beatles

h.y dwyt ti ddim yn neus sens sori!!!!

.... ond roiai gyfle i ti esbonio dy hun! (fel bo fi ddim yn cal fy manio am ymosodiad personol :winc: )
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Gwe 02 Ion 2004 4:58 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:.... ond roiai gyfle i ti esbonio dy hun! (fel bo fi ddim yn cal fy manio am ymosodiad personol )


Rhu hwyr, red card! :winc:

Mae yna wahaniaeth rhwng ymesodiad ar farn rywun: "Ti'n anghywir, Rachub." A ymesodiad personol: "Mae dy fam di'n edrych fel hamster a dy dad yn ogleuo o elderberries."
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai

cron