Tudalen 1 o 1

Cwrdde Diolchgarwch

PostioPostiwyd: Maw 21 Hyd 2008 4:20 pm
gan sian
Oes Cwrdde Diolchgarwch yn cael eu cynnal yn eich ardal chi o hyd?
Yn ystod yr wythnos 'ta ar ddydd Sul?
Ydi plant bach yn dal i lapio afalau ac orenjus mewn bocs sgidiau i fynd i gartrefi hen bobol?

Re: Cwrdde Diolchgarwch

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2008 4:04 am
gan Mali
Mi gawsom ein diolchgarwch ni wythnos i ddydd Sul diwethaf Sian ...dim ond wyth ohonom yn y cymun wyth o'r gloch , ond nifer reit dda ar gyfer y gwasanaeth deg mae'n debyg. Wrth i mi edrych o gwmpas yr eglwys , 'roedd 'na arddangosfa ddel o flodau , llysiau a ffrwythau o flaen yr allor . Ond be ddaru dynu fy sylw i fwy na dim oedd y ffrwythau ar siliau'r ffenestri ...gwneud i mi feddwl am y ffrwythau oedd yn addurno siliau ffenestr ein capel ers talwm.
Gobeithio i ti gael diolchgarwch hapus ! :)

Re: Cwrdde Diolchgarwch

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2008 10:16 am
gan Manon
Roedd 'na ddau ddiolchgarwch i ni yn yr wythnosau dwytha... Un efo'r ysgol, a'r llall gin Ysgolion Sul Bro Dysynni yn Nhywyn. Doedd 'na ddim ffrwythau/tins o gwbl, ond roedd 'na griw yn mynd i weld aelodau'r capel sydd bellach mewn cartref henoed.
'Dwi'n hoff iawn o'r diolchgarwch, rhaid dweud. Mae o'n gwneud i mi sylweddoli cymaint 'sgin i i fod yn werthfawrogol ohono. 8)