Tudalen 1 o 3

Bws yr anffyddwyr

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2008 3:29 pm
gan Barbarella
I godi calon Duw (y defnyddiwr, nid yr unben ysbrydol tybiedig), wele:

http://news.bbc.co.uk/1/hi/england/london/7681914.stm

Y wobr am Gristion mwyaf doniol y flwyddyn yn mynd i...

Stephen Green of pressure group Christian Voice said: "Bendy-buses, like atheism, are a danger to the public at large. ... People don't like being preached at.


Ffac mi, mae'r boi yn comedi jeniys :lol: :rolio:

Re: Bws yr anffyddwyr

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2008 3:54 pm
gan Duw
Da iawn Dic-Doc - digon o geillie a hiwmor. Tybed faint o wahaniaeth gwneiff e? Mae homo ofergoelus wedi'i raglenni i fod yn gont twp. Mae'i system limbig mewn brwydr a'i labed flaen pan fydd y lloer yn ei wranws. Stim owns o addysg yn mynd i newid hwnna - mae fel yr hen ddywediad, "peidiwch a dysgu mochyn i ganu..."

Diolch Babs. :D

Re: Bws yr anffyddwyr

PostioPostiwyd: Iau 23 Hyd 2008 9:09 am
gan Mr Gasyth
Chenj bach neis o'r holl hysbysebion Alpha sydd i'w gweld ym mhobman wedi mynd!

Re: Bws yr anffyddwyr

PostioPostiwyd: Iau 23 Hyd 2008 9:49 am
gan ceribethlem
O'n i'n hoffi'r linell wedodd Dawkins pan yn son am y bws yma
Dawkins a ddywedodd:Everyone is an atheist when it comes to Odin and Thor, some of us just go one god further.

Re: Bws yr anffyddwyr

PostioPostiwyd: Iau 23 Hyd 2008 10:02 am
gan Jon Bon Jela
Dwi'n ffan mawr o'r bysys yma, a dwi'n credu bod hwn yn gam enfawr ymlaen i'r anffyddwyr. Dydw i ddim yn anffyddiwr fy hun (gallaf argymell gopi o'r God Delusion fel doorstop handi iawn) ond dwi'n 100% cefnogol o'r ymgyrch.

Ond ystyriwch hyn: Petai'r slogan yn darllen "There probably IS a God. Now stop worrying and enjoy your life.", beth fyddai'r ymateb?

Re: Bws yr anffyddwyr

PostioPostiwyd: Iau 23 Hyd 2008 10:10 am
gan sian
Ymateb digon doeth gan yr Eglwys Fethodistaidd o'n i'n meddwl:
Spirituality and discipleship officer Rev Jenny Ellis said: "This campaign will be a good thing if it gets people to engage with the deepest questions of life."
She added: "Christianity is for people who aren't afraid to think about life and meaning."


Ac o'n i'n eitha licio erthygl Simon Barrow hefyd.

Re: Bws yr anffyddwyr

PostioPostiwyd: Iau 23 Hyd 2008 11:07 am
gan Llefenni
Dim optimistic agnostic ydi rhain, yn hytrach nac anffyddwyr... di nhw'm yn deud yn iawn yr un ffordd neu;r llall :winc:

Re: Bws yr anffyddwyr

PostioPostiwyd: Iau 23 Hyd 2008 11:21 am
gan Chickenfoot
Well gen i feddwl fod ryw aliens hefo gwyddoniaeth ardderchog wedi creu'r bydysawd..ond nid Xenu. Tasa bendy bysus yn bendy go iawn...ah the possibilities.

Re: Bws yr anffyddwyr

PostioPostiwyd: Iau 23 Hyd 2008 11:28 am
gan Chickenfoot
ceribethlem a ddywedodd:O'n i'n hoffi'r linell wedodd Dawkins pan yn son am y bws yma
Dawkins a ddywedodd:Everyone is an atheist when it comes to Odin and Thor, some of us just go one god further.


Dw i'n meddwl am addoli Thor. Mae'n eithaf cwl yn y comics.

Re: Bws yr anffyddwyr

PostioPostiwyd: Iau 23 Hyd 2008 12:39 pm
gan Macsen
Be am "There's probably no God. So don't blow up this bus." neu "There's probably no God. Hope the driver doesn't crash!"