Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Duw wir, droed y cyw iar, a thithau'n disgwyl i Dduw yrru ateb i bawb sy'n gweddio, yn ymyrryd a natur ar swn trwmp yn unman ar bryd bynnag? Wir, wyt ti'n disgwyl i Dduw "ddisgyn" o'r nefoedd ac ymddangos ei hun iti cyn y "credi" di? Be fasai i 'w gredu petai'r sicrwydd o'th flaen?
Holy cop out, Sioni/Batman!
Sioni, pwy sydd yn camddehongli rwan? Lle wnes i ddweud fy mod i'n ddisgwyl i Dduw/Iesu/yr Ysbryd Glan ateb bob un gweddi? Jest gofyn pam bod rhai ddim yn cael eu ateb a rhai eraill yn, oeddwn i. I ddwed y gwir, dw i yn disgwyl iddo fo ddod lawr cyn i mi dderbyn ei fodolaeth - mae unrhywbeth arall yn wirion. Mae'r fallacy bod ddim byw i'w gredu wedyn yn un chywerthinllyd. Mi fasa Duw yn gorfod amddifyn ei hun, a gadael i bobl gwneud y penderfyniad i'w ddilyn neu ddim ar sail ei rinweddau fel person/peth - a dydi lladd pobl ac anifieiliaid, rhoi llwyth o dystiolaeth gwyddonol i amau stori'r cread a hanesion Job ac Abraham (pric oedd yn barod i ladd ei fab) ddim yn mynd i berswadio lot o bobl.
Mi fasa'r gair yna, basa? Mae'r holl stwff "believe without seeing" yn swnio'n uffernol o cultish. Rhowch gorau i'ch critical thinking...dydych space daddy ddim yn hoffo hynna o gwbl. Dyna'r unig ffordd mae pobl dal yn credu'r fath gachu.
Ceisio dweud ydi yw bod Duw yn chwarae gem ddrwg wrth ymyrryd mewn natur pan mae'n siwtio fo, ond yn anwybyddu gweddion eraill e.e gweddion mwslemiaid, Iddewon, pobl sy'n cael eu llofruddio/treisio. Beth yn union yw ei criteria? Mae ei fab/ater ego yr un mor ddrwg. Mae o'n gwella nifer o bobl, ond dim yn y rhai mae o'n ei gyfarfod - a mae'r straeon yn uffernol o debyg i Mithras, Horus, Apolonius, Krishna ac eraill. Wedyn, mae'n dweud os nad yn yn derbyn fi fel eich space daddy tragwyddol, cewch chi'm ddod i'n parti yn y nefoedd. Braidd yn petty, tydi?