"Christianity is for people who aren't afraid to think about life and meaning." HAHAAHAHAHAHAHAHAHAHAHAHA!
Ateb doeth iawn, Parchedig, os ydych chi'n anwybyddu'r ffaith bod y pobl sydd yn meddwl am y cwestiynau uchod yn ffeindio ateb mewn fairy tales ryw barbariaid o'r Ddwyrain Canol. Beth yn union yw pwynt addoli rywbeth nad ydi neb wedi'i weld a sydd yn disgwyl i chi siarad hefo fo trwy telepathi arbennig lle nad ydi o'n ateb? O leia' mae pobl sydd yn addoli'r haul yn gwybod bod y blydi peth yna.
Cwestiwn bach i'r rhai sydd yn gweddio: pam bod yr baban Iesu (dw i'n hoffi meddwl amdanofo fel babi, neu ninja) ond yn iachau afiechydon mae gwyddoniaeth yn medru'u iachau? Lle mae'r amputees sydd wedi derbyn coes newydd gan Yeshua neu Yehuda neu Yahweh neu Allah ayyb? Pam bod gweddion rhai yn well na rhai eraill? Pam bod gweddi plentyn sy'n cael ei llofruddio yn cael ei anwybyddu, ond mae'ch gweddi chi i gadw mami a dadi yn ddiogel am ddiwrnod arall yn cael ei ateb?
Mae'n rhyfeddol fod pobl yn meddwl bod rywun yn "close-minded" os nad ydynt yn credu'r fath BS. Esiampl o tueddiad yr ymenydd dynol o edrych am bwrpas a phatrwm i bob dim yw "Duw" (os mai dyna yw ei enw go iawn), a ffurf o OCD yw addoli'r peth. Pam bod pobl crefyddol yn gofyn am driniaeth arbennig e.e y rhai sydd eisiau "intelligent" design mewn ysgolion, a'r rhai sydd isio i siopau cau ar Dydd Sul?
Beth sydd yn gwneud ffydd - neu credu mewn rywbeth am ddim reswm o gwbl, hyd yn oed pan mae tystiolaeth yn erbyn y peth - yn dda eniwe?