Tudalen 3 o 3

Re: Bws yr anffyddwyr

PostioPostiwyd: Mer 15 Ebr 2009 11:48 pm
gan ceribethlem
Jiawcs. Chickenfoot wedi chwalu'r cyfle am sgwrs adeiladol unwaith eto.

Re: Bws yr anffyddwyr

PostioPostiwyd: Iau 16 Ebr 2009 3:00 pm
gan Chickenfoot
Dw i'm wir yn derbyn eich pwynt. Wnes i'm byd ddrwg neu 'i le - aeth y ddadl i derfyn. Dw i wedi ceisio bod yn fwy adeiladol yn i misoedd diwethaf, a dw i'n meddwl fy mod i wedi llwyddo ar y cyfn. Iawn, dw i wedi cymeryd sbel gymharol hir i wneud hyn a dydi fy record ar y Maes ddim mor sgleiniog a'ch un chi; ond 'swn i'n tybio nad dydi bob sylwad ganddoch chi ar y Maes ddim yn syfrdanol o glyfar/doniol/ddidorol/adeiladol 'chwaith.

I gyd wnes i oedd gofyn cwestiynau am grefydd - sydd yn teimlo fel rywbeth hollol "alien" i fi erbyn hyn - a cwestiynu'r angen i ymddwyn mewn ffordd sy'n plesio duwion a phobl crefydd.

Re: Bws yr anffyddwyr

PostioPostiwyd: Sul 19 Ebr 2009 12:27 am
gan Chickenfoot
Gol. Neges wedi dileu am dorri canllawiau'r maes. Dim mwy os gwelwch yn dda!

Re: Bws yr anffyddwyr

PostioPostiwyd: Sad 01 Awst 2009 4:39 pm
gan Diobaithyn †
Jon Bon Jela a ddywedodd:Ond ystyriwch hyn: Petai'r slogan yn darllen "There probably IS a God. Now stop worrying and enjoy your life.", beth fyddai'r ymateb?


Dim un hanner mor mawr sai'n tybed. Mae llawer fwy o 'hysbysebu' gan fuddwyr nac gan anfuddwyr i'r rhan fwyaf rwy'n credu - ellid gweld digon o bosteri yn datgan 'JESUS IS ALIVE!' ac ati ogwmpas y lle os edrychwch, ac weithiau yn y dinasoedd mawr cewch rhywun yn pregethu bodolaeth Duw ar y tren, neu eraill yn rhoi sticeri crefyddol i blant ar y stryd. Mae'r ffaith bod datgan ddu-ffudd dim yn traddodiadol o gwmpas fan hyn (hwn yw'r tro gyntaf rwyf wedi clywed am siwd beth) ac felly wrth gwrs mae fwy o ymateb.

I'r rhan fwyaf o ddu-fuddwyr (gan cynnwys rheini sy'n agnostig a sy' dim yn otsi) nad oes y rhwymedigaeth i newid ffudd pobl, gan fod dim ots pa ffudd sydd gennych pryd rhydych yn marw, ac ond am rheini eithafol dydi crefydd dim yn wneud niwed anferthol ym Mhrydain. Felly mae gweld ddu-ffuddwyr yn datgan ei gred yn llawer fwy wahannol na weld ffuddwyr yn datgan ei gredoau.