Tudalen 1 o 3

Re: Mormoniaid?

PostioPostiwyd: Llun 09 Chw 2009 4:16 am
gan Pedr
wy'n cofio pan o' ni'n 14 oed. Cwrddais y cenhadydd mormoniaid yn Llanelli. Es i syth i dadcu, yr hen derwydd, a wedais fod y mormoniaid yn dweud fod Joseph Smith wedi weld duw mewn gelli. Atebodd ef; "Os wyt ti mewn gelli paid a bwyta'r shirwmps."

Re: Mormoniaid?

PostioPostiwyd: Llun 09 Chw 2009 10:32 am
gan Chickenfoot
Mae credoau'r Mormoniaid yn hollol wallgof e.e. y syniad mai Israeliaid coll yw'r Americaniaid brodorol, Iesu a Lucifer yn frodyr, pobl du yn angylion cafodd eu cosbi gan na wnaethant ymladd yn erbyn Lucifer.

Ond eto, mae credoau Mwslemiaid, Iddewon a Cristnogion braidd yn wirion hefyd. Duw yn danfon ei fab (sydd yn Dduw hefyd) ar suicide mission i arbed pobl rhag fynd i'r uffern, er bod Duw wedi rhoi safonnau amhosib i ni gyrraedd yn y lle cyntaf. Ac wedyn, os nad ydych yn derbyn Zombie 2,000 mlwydd oed (sydd hefyd yn ysbryd ac yn dduw) fel eich gwaredwr, mi ewch i'r uffern.

Dw i wedi cyfarfod ambell i Mormon - a dwi wedi gweld y grief mae nhw'n cael gan yobs yn dref am genhadu - a mae nhw i weld yn bobl neis iawn. Os ydyn nhw isio credu rwtsh am Joseph Smith (dumb, dumb, dumb, dumb), mae perffaith hawl ganddyn nhw. Mae dipyn o son wedi bod yn y gorfennol am seremoniau rhyfedd, hiliaeth (doedd pobl du ddim yn gallu bod yn offeiriaid LDS tan y 70au, er enghraifft) ond mae dipyn o ffaeleddau gan egwlysi confyensiynol hefyd.

A mae "Crazy Horses" yn gan roc gwych.

Re: Mormoniaid?

PostioPostiwyd: Llun 09 Chw 2009 10:38 am
gan Chickenfoot
Duw a ddywedodd: Sut wyt yn gallu dweud hyn pan rwyt yn mynnu dy fod yn Gristion dy hun? Yr un 'gac' rydych yn credu'n y bon, jest cwpl o fanion bethe sy'n wahanol.


Cwpl o fanion bethe yn wahanol? Mae ganddyn nhw destament newydd "newydd", mae nhw'n credu y bydd Joseph Smith yn eich barnu ar ddyd y farn, yn ogystal a Duw a Iesu, fel ryw banel X Factor tragwyddol. Mae nhw'n credu gall person dod yn dduw a rheoli bydysawd ei hun (cwl!). Mae nhw'n credu fod Satan a Iesu yn frodyr, a fod Duw wedi cael sexy time hefo Mair. Ok, granted, mae hyn yn dod o ffilm propaganda Cristnogol, ond basa nhw ddim yn dweud celwydd, dw i'n siwr. :crechwen:

Dw i'n gweld y ffydd Mormon yn wych, mewn ffordd - os ydi o'n wir, gaiff pawb sy'n ei dilyn bydysawd i boblogi trwy cael sexy times hefo ysbrydion del. Groovy. Well na 72 o virgins, beth bynnag.

Re: Mormoniaid?

PostioPostiwyd: Llun 09 Chw 2009 10:57 pm
gan Duw
CF: mae nhw i gyd yn boncyrs, pob Xion Jac un ohonyn nhw. Yr unig wahaniaeth yw bod un stori tylwyth teg yn cymryd lle rhyw stroi tylwyth teg arall. Ffantasi llwyr. Plant bach mewn cyrff oedolion. Trist.

Re: Mormoniaid?

PostioPostiwyd: Maw 10 Chw 2009 12:12 pm
gan Chickenfoot
Duw a ddywedodd:CF: mae nhw i gyd yn boncyrs, pob Xion Jac un ohonyn nhw. Yr unig wahaniaeth yw bod un stori tylwyth teg yn cymryd lle rhyw stroi tylwyth teg arall. Ffantasi llwyr. Plant bach mewn cyrff oedolion. Trist.


Good word, my brother, good word! Testify! Church! :D

Beth sy'n hyd yn oed yn fwy boncyrs yw eu bod nhw'n mynnu fod pobl yn parchu eu crefyddau gwirion, yn lle gweld y peth fel ffurf o OCD. I gyd ydi crefydd yw yr angen sydd gan pobl i weld strythr ym mhob dim. Dydyn nhw ddim yn gally dygymod a'r posibilrwydd fod ddim byd i'w disgwyl ar ol i ni droi'n bwyd i'r maggots. Wedyn, mae mwncis dwl hefo'r brass balls i ddweud mai "close-minded" yw pawb sydd yn chwerthin ar eu credoau cyntefig.

Ond os oedd rai i mi fod yn grefyddol, swn i'n dewis dilyn yr hen Mormoniaid. Dw i'n eitha hoff o'r syniad o wisgo "safety pants" a fod yn dduw ar ol i mi farw.

Re: Mormoniaid?

PostioPostiwyd: Maw 10 Chw 2009 3:49 pm
gan Duw
Chickenfoot a ddywedodd:Ond os oedd rai i mi fod yn grefyddol, swn i'n dewis dilyn yr hen Mormoniaid. Dw i'n eitha hoff o'r syniad o wisgo "safety pants" a fod yn dduw ar ol i mi farw.



Wel pan ti'n rhoi e fel'ny....