Tudalen 1 o 1

Daoiaeth - Taoism

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2009 2:35 pm
gan WoganJones
Dw i'n chwilio am unrhyw lyfrau/erthyglau yn y Gymraeg ar y pwnc o Ddaoiaeth (Taoism). Yn enwedig a oes fersiwn o'r Tao Te Ching yn Gymraeg? Baswn yn ddiolchgar iawn pe bai rhywun yn cyfeirio fi at adran prifysgol neu hen gylchgrawn neu rhyw ddyn od sy'n byw mewn bocs dan bont yn Rhosllanerchrugog. Sdim ots da fi rili. Rhowch wybod!

Re: Daoiaeth - Taoism

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2009 3:33 pm
gan Chickenfoot
Mae Winnie the Pooh wedi cael ei astudio fel waith o daoiaeth. Dw i'm yn siwr beth yn union yw teitl y llyfr, ond mae o rywbeth fel "The Taoh of Pooh".

Re: Daoiaeth - Taoism

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2009 6:46 pm
gan dawncyfarwydd
Mae cwpwl o ganeuon Steve Eaves yn sôn am y peth - 'Y canol llonydd distaw' off Canol Llonydd Distaw a 'Tao piau hi' oddi ar Moelyci.

Re: Daoiaeth - Taoism

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2009 8:27 pm
gan Hedd Gwynfor

Re: Daoiaeth - Taoism

PostioPostiwyd: Gwe 20 Chw 2009 10:08 pm
gan WoganJones
Diolch am eich help bawb. Dw i wedi darllen y llyfr 'The Tao of Pooh' a 'The Te of Piglet'. Maen nhw'n ddiddorol iawn ond sain credu bod nhw wedi cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg. Ond wna i chwilio.
O ran Steve Eaves, mae hwnnw'n diddorol. Wna i geisio cysylltu ag e. Ydy'n ymweld a maes-e.com?
O ran Prifysgol Llambed, dw i wedi ebostio nhw yn barod ac yn aros am ymateb. Dylen nhw wybod gan taw nhw yw adran crefydd gorau Cymru (i fod).
Ers i mi bostio dw i wedi cael cynnig gan rhywun i gyfieithu fersiwn Saesneg y Tao Te Ching i'r Gymraeg felly dw i wedi dechrau mynd ati. Bydd hi'n bach o her.
Ond hoffwn i wybod os mae Taoists eraill Cymraeg mas fanna! Hoffwn i gael bach o help! :)

Re: Daoiaeth - Taoism

PostioPostiwyd: Sad 21 Chw 2009 7:40 am
gan Nanog
Mae'r Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol wedi cyfieithu llawer o lyfrau i'r Gymraeg.

Re: Daoiaeth - Taoism

PostioPostiwyd: Maw 17 Maw 2009 7:27 am
gan WoganJones
Diolch Nanog. Ond doedd dim byd yn eu catalog ar lein am y Tao Te Ching.