Diolch am eich help bawb. Dw i wedi darllen y llyfr 'The Tao of Pooh' a 'The Te of Piglet'. Maen nhw'n ddiddorol iawn ond sain credu bod nhw wedi cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg. Ond wna i chwilio.
O ran Steve Eaves, mae hwnnw'n diddorol. Wna i geisio cysylltu ag e. Ydy'n ymweld a maes-e.com?
O ran Prifysgol Llambed, dw i wedi ebostio nhw yn barod ac yn aros am ymateb. Dylen nhw wybod gan taw nhw yw adran crefydd gorau Cymru (i fod).
Ers i mi bostio dw i wedi cael cynnig gan rhywun i gyfieithu fersiwn Saesneg y Tao Te Ching i'r Gymraeg felly dw i wedi dechrau mynd ati. Bydd hi'n bach o her.
Ond hoffwn i wybod os mae Taoists eraill Cymraeg mas fanna! Hoffwn i gael bach o help!